Agenda item

I ystyried cais Miss A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

COFNODION:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Miss A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am fwy o wybodaeth ynglŷn â Thystysgrif Llwyddiant Diogelwch i Yrwyr Tacsi (Safeguarding for Taxi Drivers), nododd y Rheolwr Trwyddedu mai cwrs hyfforddi rhyngweithiol o ansawdd uchel ydoedd yn addysgu dysgwyr ar sut i gyflawni eu dyletswyddau diogelu a hynny drwy adnabod gwahanol fathau o gam-drin a/neu gam-fanteisio ac adrodd ar y pryderon hynny yn briodol. Ategodd, ers tair blynedd, bod yr Uned Trwyddedu yn argymell gyrwyr tacsi i gwblhau’r hyfforddiant, a'r bwriad i’r dyfodol yw ei wneud yn rhan o’r Polisi Trwyddedu

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nododd fod yr ymgeisydd wedi bod yn onest yn ei chais ac wedi egluro pam gafodd y gorchymyn cymunedol ei ddirymu. Ategodd mai un digwyddiad oedd yma a bod yr ymgeisydd wedi pledio yn euog. Petai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai yn hapus i’w chyflogi.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei chais, ond mynegodd ei bod yn hapus gyda’r hyn roedd ei chynrychiolydd wedi ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn mis Ionawr 2020 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861.A.47

 

Yn Mawrth 2022 cafwyd yr ymgeisydd yn euog am fethu cydymffurfio gyda gofynion gorchymyn Cymunedol yn groes i Ddeddf Dedfrydu 2020 Atodlen10 a gafodd ei ddirymu ar ôl hynny.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.1 yn nodi, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad cynrychiolydd a darpar gyflogwr yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu i ganiatáu’r cais.

 

O dan bolisi’r awdurdod ystyriwyd bod digon o amser wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiwethaf i ystyried caniatáu’r drwydded.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.