Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Gohirio’r penderfyniad er mwyn gwneud ymholiadau pellach

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei gais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb a dderbyniodd am oryrru. Wrth gyflwyno ei wybodaeth daeth i’r amlwg nad oedd cyfanswm y pwyntiau cosb ar Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cyfateb i’r hyn roedd yr ymgeisydd yn ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor ynghyd a dryswch ynglŷn â chofnod y TT99 ar yr un adroddiad. (Mae cofnod TT99 yn amlygu gwaharddiad o dan 'totting-up' - os yw cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gellid diarddel y gyrrwr).

 

Datgelodd yr ymgeisydd hefyd yn ei gyflwyniad ei fod wedi ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o ddwy flynedd - gwybodaeth nad oedd wedi ei ddatgelu i’r Uned Drwyddedu yn unol â gofynion trwydded tacsi.

 

PENDERFYNWYD Gohirio’r penderfyniad er mwyn gwneud ymholiadau pellach

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ionawr 2023, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Ionawr 2026 

 

Yng Ngorffennaf 2023, derbyniodd yr ymgeisydd 4 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Gorffennaf 2026

 

Arnodiad TT99 yn nodi cyfri’r pwyntiau os yw’r cyfanswm pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, ac yn dod i ben Ebrill 2025

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd esboniad yr ymgeisydd o’i amgylchiadau a’r anghysondebau oedd yn ei gyflwyniad, gwybodaeth gan yr Uned Drwyddedu ac Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). O ganlyniad, penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid gohirio’r cais er mwyn gwneud ymholiadau pellach i gais yr ymgeisydd.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.