I dderbyn
diweddariad gan gynrychiolwyr
·
Priffyrdd,
Peirianneg a YGC
·
Network
Rail
·
Trafnidiaeth
Cymru
·
Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig
Cofnod:
PRIFFYRDD, PEIRIANNEG a YGC
(Cyngor Gwynedd)
Diweddariad o sefyllfa
ffordd y clogwyn ar y A493 ger Y Friog.
Derbyniwyd ymddiehuriadau gan Mr Steffan Jones
(Pennaeth Priffyrdd, Peirianeg a YGC) nad oedd yn
gallu mynychu’r cyfarfod gan na fu i’r ddolen Zoom
weithio iddo ac felly yn methu rhoi diweddariad ar lafar i aelodau’r Pwyllgor.
Ategodd mewn ebost i’r Cadeirydd y byddai yn rhannu
adroddiad o’r sefyllfa gyda’r Aelodau.
Mynegwyd
siom nad oedd Steffan Jones yn gallu mynychu’r cyfarfod a bod diffyg symud
ymlaen ar y sefyllfa. Nodwyd:
·
Bod
rhaid datrys y sefyllfa
·
Bod rhaid
datrys perchnogaeth yr ased a chydweithio i symud ymlaen
·
Bod y ffordd yn un dosbarth A - yn
ffordd brysur, gysylltiol
·
Bod
rhan o’r wal wedi ei diddymu – angen datrys y rhwystr
·
Bod
digon o addewidion ond dim newid
·
Bod Network
Rail yn adrodd nad oeddynt wedi derbyn ymateb i
lythyrau a anfonwyd i'r’ Cyngor
NETWORK RAIL
Croesawyd Charlotte Harries (Rheolwyr
Cyfathrebu Network Rail)
i’r cyfarfod. Mynegodd bod y gwasanaeth yn parhau i weithio i wella profiadau
teithwyr. Nid oedd diweddariadau penodol ar waith rhwng Machynlleth a Pwllheli,
ond cyfeiriwyd at welliannau i orsaf Y Drenewydd.
Diolchwyd am y diweddariad. Diolchwyd hefyd am y gwaith mae Network Rail yn ei wneud i
sicrhau bod y cyswllt rheilffordd yn effeithiol i deithwyr.
TRAFNIDIAETH CYMRU
Croesawyd Gail Jones (Rheolwr Rhanddeiliaid (Canolbarth a Gogledd Cymru)
i’r cyfarfod. Nododd bod canfyddiadau’r arolwg wedi eu cyflwyno i Trafnidiaeth
Cymru a bod gwaith yn cael ei wneud i ymateb i’r canfyddiadau hynny. Ategodd
bod yr arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr am brofiadau’r teithwyr ac yn
unol â chais gan yr aelodau, cytunwyd bod modd rhannu gwybodaeth am y nifer
teithwyr sydd yn defnyddio Rheilffordd Arfordir y Cambrian.
GJ i rannu’r wybodaeth gyda LHE i’w ddosbarthu yn y cyfarfod nesaf.
(Gwnaed sylw, wrth ddehongli’r wybodaeth, bydd angen ystyried bod y rheilffordd
wedi cau am rai misoedd yn ystod y tair blynedd diwethaf tra bod gwaith yn cael
ei wneud ar y draphont yn Abermaw).
Hysbyswyd yr aelodau bod Cyfarfod Grŵp Cyswllt
Trafnidiaeth yn cael ei gynnal ym Mis Ebrill ac y byddai mwy o wybodaeth i
ddilyn.
Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol.
·
Bod angen cadarnhad o ddefnydd
trenau pedwar cerbyd ar y Cambrian i’r dyfodol - ar hyn o bryd ymddengys mai
dwywaith y diwrnod fydd y trenau hyn yn rhedeg ac yn ystod gwyliau’r haf yn
unig - nid yw hyn yn ymateb i’r angen.
·
Bod cais am drenau pedwar cerbyd
wedi ei gwneud ers sawl blwyddyn, ond dim byd yn digwydd. Er yr addewid am
drenau newydd nid yw hyn yn golygu mwy o drenau. Er ceisio gwybodaeth /
diweddariad am y sefyllfa, bod swyddogion yn newid yn rheolaidd – angen sicrhau
un pwynt cyswllt.
·
Bod gormod o deithwyr yn gorfod sefyll ar y
teithiau sydd o ganlyniad yn atal y casglwr ticedi rhag casglu arian. Hyn yn
golled ariannol i’r gwasanaeth
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru nad oedd
trenau sbâr a’r gael a bod pob ymdrech
yn cael ei wneud i sicrhau bod digon o gerbydau ar gael i ymateb i’r angen.
Nododd nad oedd y trenau newydd wedi eu cyflwyno mor gyflym â’r disgwyl, ond
bod opsiynau yn cael eu hystyried i ddatrys y sefyllfa.
Tynnwyd sylw at ddigwyddiad yn Chwefror 16 2024 o deithiwr yn aros am y
trên olaf o Bwllheli (20:30). Er bod y trên yn yr orsaf, nid oedd mynediad i’r
trên yn cael ei ganiatáu i deithwyr er bod y tywydd yn ddifrifol. Unwaith roedd
y drysau i’r cerbydau yn agor, roedd y trên yn ymddangos yn flêr ac yn fudr.
Nid oedd hyn yn brofiad braf - yn anfon neges anghywir i deithwyr. Ar y pryd,
rhannwyd neges a llun ar trydar.
Mewn ymateb i’r digwyddiad, nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru bod
rheolau llym yn ymwneud ag agor y drysau pan fydd y trên yn aros yn yr orsaf,
ond derbyniwyd bod anghysondebau i hyn. Gofynnwyd am gopi o’r lluniau ac fe
awgrymodd i’r dyfodol y dylid cyfeirio unrhyw brofiadau gwael yn uniongyrchol
ati hi.
Fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau / sylwadau / gwybodaeth am
Drafnidiaeth Cymru, bod modd cysylltu gyda GJ drwy e-bost
HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG
Dim cynrychiolydd wedi mynychu