I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd.
Roger Goodhew (Cynrychiolydd Cymdeithas Teithwyr Amwythig
- Aberystwyth)
Cyngor Cymuned Llanbedr
Cyngor Tref Criccieth
Cofnod:
Cyngor Tref Criccieth
Cwestiwn: A oes modd paentio
stesion Criccieth? Mae Criccieth yn
ei Blodau yn gweithio’n galed
ar welliannau a chynnal y tiroedd yno a byddai’n hwb mawr cael
cot o baent i’r stesion er mwyn gwella golwg a chroesawu defnyddwyr yno. Diolch yn
fawr iawn am eich ystyriaeth. Diolch yn fawr
iawn am gytuno i waredu’r graffiti ar y pontydd - ac am y gwaith gwych yn
stesion Criccieth a hefyd torri’r tyfiant coed ger rhandiroedd Cae Crwn.
Ateb: Bod posib i Trafnidiaeth Cymru a Network
Rail gydweithio fel un diwydiant i weithredu’r
gwelliannau.
Cyngor Cymuned Llanbedr
Cwestiwn: Mae sôn wedi bod yn y Cyngor yn ddiweddar bod yna
uwchraddio i fod cyn diwedd Mawrth ar y gysgodfan (shelter) ar Orsaf Talwrn Bach Llanbedr. Hoffwn gadarnhad a
yw hyn yn wir?
Ateb: Bod gwaith yn cael ei wneud i ganfod ffynhonnell ariannu i
gyflawni’r gwaith. Nodwyd nad oedd strwythur y platfform yn addas ar gyfer
adeiladu cysgodfan newydd, ond bod gwaith yn cael ei
wneud i adfer a pheintio’r gysgodfan bresennol.
Cwestiwn: A oes unrhyw ddatblygiad posib i leoli rhwystrau (barriers) ar y groesfan yma?
Ateb: Network
Rail i holi eu Tîm Croesfan Rheilffordd am wybodaeth
ynglŷn â’r sefyllfa.
Cwestiwn: Parthed bin sbwriel. A
oes modd pwyso am hwn. Gwn nad yw Cyngor
Gwynedd wedi darparu bin baw cŵn ger y safle. Tybed a oes modd dod i
gytundeb efo Cyngor Gwynedd i gasglu sbwriel oddi ar yr orsaf.
Ateb: Bod y bin sbwriel / bin baw cŵn yn fater i’r Cyngor.
Trafnidiaeth Cymru yn gwrthod rhoi bin sbwriel yn Llanbedr oherwydd bod disgwyl
i swyddogion y trên gasglu’r sbwriel (sydd yn cynnwys baw cŵn) – nid yw
hyn yn sefyllfa ddelfrydol gan fod hyn yn creu drewdod ar y trên. Cais felly
i’r Cyngor ddarparu bin baw cŵn yng Ngorsaf Llanbedr. LHE i gysylltu
gydag adran berthnasol Cyngor Gwynedd
Cwestiwn: Hefyd pwyso ar gael yr hen enw TALWRN BACH yn ysgrifenedig ar
yr arwydd (hynny yw o dan y gair Llanbedr)
Ateb: Derbyn yr awgrym - am geisio mwy o wybodaeth ynglŷn â’r
posibilrwydd o ychwanegu enw ar yr arwydd
Gwnaed cais i sicrhau cysondeb mewn ymatebion ac y dylid cyfathrebu
unrhyw faterion o bwys yn uniongyrchol i’r Clerc Cyngor Cymuned a’r Aelodau
Lleol - Cyng Gwynfor Owen a’r Cyng Anwen Hughes.
Mr Roger Goodhew
(Cynrychiolydd Cymdeithas Teithwyr Amwythig – Aberystwyth)
Cwestiwn: Pryd fydd depo Machynlleth yn cael digon o unedau i alluogi’r
06:45 Abermaw i Fachynlleth i weithredu a) heb
ganslo’n aml, b) fel rhan drwodd i Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham
Ateb: Bod gwelliannau diweddar wedi eu gweithredu ac er nad oedd trenau
sbâr a’r gael bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod digon o gerbydau
ar gael i ymateb i’r angen.
Mewn ymateb, er derbyn bod y gwasanaeth wedi gwella yn ddiweddar
rhaid mynnu bod y trên cyntaf a’r trên
olaf yn rhedeg – hyn yn hanfodol ar gyfer ysgolion, colegau a gwaith. Gellid
defnyddio trenau sydd ar gael yn fwy
rheolaidd.
Ategodd Swyddog Trafnidiaeth Cymru y bydd diweddariad ar y rheilffordd,
gorsafoedd ac amserlenni yn cael ei drafod yng Nghyfarfod Grŵp Cyswllt
Trafnidiaeth (11-04-24)
Cwestiwn: Pryd fydd y pwyllgor yn ailddechrau cynnal cyfarfodydd wyneb
yn wyneb?
Ateb: Fel y nodwyd ym Mhwyllgor Mawrth 2023:
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021 bu i’r Cyngor
benderfynu ar yr egwyddor o gynnal cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol yn rhithiol
lle bo modd gwneud hynny a chynnal cyfarfodydd hybrid lle bo diddordeb uchel
gan y cyhoedd. Mae’r adroddiad yn nodi
mai cyfarfodydd y Cyngor Llawn, Cabinet, pwyllgorau craffu a phwyllgor
Cynllunio yn unig sy’n cael eu cynnal yn aml leoliad (sef yn hybrid). Bydd yr
holl bwyllgorau eraill yn rhithiol llwyr gyda rhai eithriadau megis e.e.,
Pwyllgor Apêl Cyflogaeth (dibynnol ar gais yr unigolyn). Pwyllgor Penodi Prif
Swyddogion - ystyriaeth pan fo cyfweliadau - rhithiol fel arall Pwyllgorau ac
Is Bwyllgorau lle cynhelir gwrandawiadau quasi- farnwriaethol.
Mae’r adroddiad wedi ei fabwysiadu yn sgil gofynion Rhan 3 Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n nodi fod yn rhaid sicrhau
mynediad o bell i Gynghorwyr i bwyllgorau.
Mewn geiriau eraill, nid yw cynnal cyfarfodydd ffurfiol wyneb yn wyneb
yn unig yn bosib.
Cyng Meryl Roberts (Cynrychiolydd Parc Cenedlaethol Eryri)
Cwestiwn: Pwy yw perchennog Tŷ’r Orsaf,
Penrhyndeudraeth? Bod tir budr gerllaw’r orsaf ac angen tacluso. Angen bin sbwriel yn yr orsaf
Ateb: Network Rail a
Trafnidiaeth Cymru i wneud ymholiadau pellach
Cwestiwn: Pwy sydd yn cael gwahodd i gyfarfodydd Cymdeithas Teithwyr
Rheilffordd Amwythig – Aberystwyth (SARPA)?
Ateb: Gwahoddiadau yn cael eu rhannu gyda Chynghorau Tref. Bill
Redfern i wneud ymholiadau pellach
Diolchwyd am y cwestiynau
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Tachwedd
2024 – LHE i drefnu
Dogfennau ategol: