I gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac i weithredu ei ddyletswddau a’i
swyddogaethau statudol. A nodi’r cynllun arfaethedig mewn perthynas â
threfniant secondiad presennol Prif
Weithredwr y CBC sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2024 a'r cynnig ar gyfer penodiad
o’r 1 Gorffennaf, 2024.
Penderfyniad:
Rhan A:
Nodwyd y
wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i
weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau statudol y CBC; a sefydlu Prosiect
Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.
Rhan B:
Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant
presennol, ar gyfer secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr
CBC, hyd at ddiwedd Mehefin 2024.
Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dwy ran gydag Alwen Williams
(Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC) yn cyflwyno rhan A a
Geraint Owen (Cyngor Gwynedd) yn cyflwyno rhan B.
PENDERFYNWYD:
Rhan A:
Nodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y
Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r
Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau
statudol y CBC; a sefydlu Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.
Rhan B:
Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant presennol, ar gyfer
secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr CBC, hyd at ddiwedd
Mehefin 2024. Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol
gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad
arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor
Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024.
TRAFODAETH
Rhan A:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad
o’r cynnydd sydd wedi digwydd o ran sefydlu’r Cydbwyllgor Corfforedig y
Gogledd. Nodwyd rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 fod Cabinet a Phwyllgorau
Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol, wedi cytuno mewn egwyddor y dylid
trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo
i’r CBC. Eglurwyd fod penderfyniad yr adroddiad hwn yn galluogi’r trosglwyddiad
hwn i gychwyn a’i gwblhau. Eglurwyd fod fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn
golygu fod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig.
Eglurwyd fod atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar
feysydd megis Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, y Parth Buddsoddi yn Sir y
Fflint a Wrecsam ynghyd a’r Cynllun Datblygu Strategol. Ategwyd yr angen yn
ogystal i’r CBC fod yn ymgymryd â dyletswyddau a swyddogaethau statudol megis
Safonau’r Gymraeg ac i gydymffurfio a dyletswyddau i gyrff cyhoeddus megis
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
Mynegwyd er mwyn trosglwyddo’r swyddogaethau i'r CBC y bydd angen creu Bwrdd
Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.
Rhan B:
Eglurwyd fod rhan gyntaf y penderfyniad wedi cael ei
gymeradwyo dwywaith dros y flwyddyn ddiwethaf, sef i ymestyn cyfnod secondiad
Alwen Williams o fel Prif Weithredwr y CBC o’r 1 Ebrill hyd ddiwedd Mehefin. Eglurwyd
fod yr eitem hon wedi ei drafod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd wythnos diwethaf
a’i fod wedi ei gytuno ganddynt.
Mynegwyd fod 1 Gorffennaf wedi ei adnabod fel dyddiad amodol
ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais i’r Cydbwyllgor Corfforedig.
O ganlyniad i hyn y bydd angen trosglwyddo'r staff. Fel rhan o’r trefniadau yma
mae ymgynghoriad yn ofynnol gyda staff fel y nodir gan Reoliadau Trosglwyddo
Ymgymeriadau 2006. Gan y bydd staff y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
yn trosglwyddo ar y telerau ac amodau cyfredol, ni ragwelir y bydd y
trosglwyddiad arfaethedig y staff o un corff cyhoeddus i'r llall yn profi'r
cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â llawer o
drosglwyddiadau TUPE ac felly nid yw'n cael ei ystyried yn
rhwystr posibl i drosglwyddo
swyddogaethau ar 1 Gorffennaf, 2024.
Dim ond un swydd fydd yn cael ei effeithio sef y Prif
Weithredwr. Eglurwyd fod y swydd ddisgrifiad ar gyfer rôl ynghyd a chopi o
swydd ddisgrifiad presennol y Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais edi ei
atodi gyda’r adroddiad ac amlygwyd fod aliniad sylweddol rhwng y ddwy swydd
ddisgrifiad. O ganlyniad i hyn, ac yn unol â chanllawiau ac ymarfer TUPE
cynghorir y dylid penodi Alwen Williams, fel deiliad presennol y swydd o fewn y
Bwrdd Uchelgais, i swydd Prif Weithredwr y CBC ar sail barhaol yn amodol ar
gwblhau ymgynghoriad TUPE gyda’r holl staff.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Yn dilyn trafodaeth faith am y mater yn y Bwrdd
Uchelgais mynegwyd fod y cam hwn yn un naturiol a fydd yn rhoi diwedd ar ymestyn
cyfnod secondiad y Prif Weithredwr.
Dogfennau ategol: