Er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y
gwasanaeth.
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad gan ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a
mynegi gobaith y bydd y cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb
sydd ei angen fel mae amser yn mynd yn ei flaen.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad
yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd ar y gwasanaeth Egwyl Fer (Tîm Integredig
Derwen). Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu
cynnwys yr adroddiad er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb
sydd angen y gwasanaeth.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan
ddiolch i’r holl staff am eu gwaith diflino a’u brwdfrydedd a’u cariad wrth
weithio hefo’r plant mwyaf bregus yng Ngwynedd.
Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi Teuluoedd
ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Nodwyd bod yr adroddiad a’r cyflwyniad yn
amlygu’r galw anferthol am y gwasanaeth egwyl fer, a’i bod yn amlwg bod yna
waith gwych iawn a hanfodol yn mynd yn ei flaen.
Tynnwyd sylw at yr angen am wasanaeth egwyl
fer ar gyfer oedolion yn ogystal, ond eglurwyd bod yr eitem hon yn trafod y
ddarpariaeth ar gyfer plant yn unig.
Mynegwyd pryder o ddeall fod nifer y
gwirfoddolwyr wedi gostwng o 20 cyn y cyfnod Cofid i 3 erbyn hyn. Holwyd beth sy’n cael ei wneud i geisio
recriwtio rhagor o wirfoddolwyr, a gofynnwyd oedd modd defnyddio’r
gwirfoddolwyr presennol mewn ymdrech i geisio denu rhagor. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Gan
na fu’n bosib’ parhau â’r cynllun egwyl fer dros y cyfnodau clo, y collwyd
nifer o wirfoddolwyr wrth i bobl symud yn eu blaenau.
·
Bod
y Swyddog Egwyl Fer yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrifysgol Bangor, sef y prif
gysylltiad o ran yr ymgyrchoedd recriwtio.
·
Y
cytunid â’r sylw ynglŷn â defnyddio gwirfoddolwyr presennol, ond na ellid
gwneud mwy nag amlygu bod y cyfleoedd yn bodoli a bod mor rhagweithiol â
phosib’ o safbwynt ymateb i unrhyw ymholiadau.
·
Bod
5 darpar wirfoddolwr yn mynd drwy’r broses DBS ar hyn o bryd a mawr obeithid y
byddai’r unigolion hyn ar gael i’r gwasanaeth yn fuan er mwyn gwneud
gwahaniaeth.
·
O
bosib’ bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar awydd pobl i roi eu hunain
ymlaen i wirfoddoli, ond yn sicr byddai’r Gwasanaeth yn dyfalbarhau i geisio
cynyddu’r nifer.
Holwyd pa
wasanaeth a gynigir i deuluoedd plant ag anghenion llai dwys ynghyd â beth yw’r
rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ystyried bod y galw yn cynyddu o flwyddyn i
flwyddyn. Gofynnwyd hefyd a ellir bod yn
hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â’r anghenion dwys, heb son am yr anghenion
eraill, yn wyneb sefyllfa gyllidol y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod y cwestiynau yn adlewyrchu’r heriau mae’r
Gwasanaeth yn eu hwynebu ac yn amlwg yn eu trafod o ran datblygiad, ayb, a sut
i addasu’r gwasanaeth i gyfarch yr anghenion sy’n codi.
·
Bod y ddarpariaeth bresennol yn cyfarch amrywiaeth o
anghenion, ac nid yr anghenion uwch yn unig, gyda’r anghenion uwch yn tueddu i
fod yn egwyl fer yn Hafan y Sêr a mwy o oriau cefnogol efallai na’r anghenion
is.
·
Bod amrywiaeth o anghenion yn cael eu darparu yn yr
oriau cefnogol a bod ceisio dadansoddi rhywfaint o hynny yn ddarn o waith na
lwyddwyd i’w wneud efallai ar gyfer yr adroddiad hwn, ond y gellid ei wneud
mae’n debyg gyda rhywfaint o ymdrech.
·
Bod gweithgareddau’r gwasanaeth gwirfoddoli yn
benodol ar gyfer y lefelau is o anghenion, gyda llai o ddibyniaeth ar, efallai,
asesiad gweithiwr cymdeithasol i fod yn darparu hynny, tra bod yr asesiad gofal
a chefnogaeth gan weithiwr cymdeithasol yn rhan allweddol o’r gofyn yng
nghyswllt y gwasanaethau dros nos a’r gwasanaethau cefnogol mwy dwys.
·
Bod cyfarch yr anghenion i’r dyfodol yn mynd i fod
yn her, yn enwedig o ystyried sefyllfa ariannol y Cyngor, a petai yna asesiadau
sy’n dangos yr angen, bod cyfrifoldeb ar y Gwasanaeth i ddarparu hynny
rhywsut. Dyma’r her a wynebir o ran
cynllunio gwasanaethau ac ni ellid ateb gydag unrhyw sicrwydd o safbwynt sut
mae’r cynnydd yn y galw yn mynd i newid eto.
Holwyd a oes yna
restr aros i fynd i Hafan y Sêr, ac os felly, am ba hyd mae unigolion ar y
rhestr aros honno. Gofynnwyd hefyd ydi
Hafan y Sêr yn llawn bellach yn dilyn Cofid.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Er bod rheolwr Hafan y Sêr yn ceisio uchafu’r
niferoedd sy’n gallu aros yn yr uned bob nos, ei bod yn her i lenwi’r 6 gwely
yn yr uned drwy’r adeg, ond nid oedd hynny oherwydd rhesymau staffio. Roedd staffio’r uned wedi bod yn eithaf
sefydlog bob amser, ac yn ogystal â’r staff ar gytundebau sefydlog, roedd yna
hefyd banc o staff wrth gefn ar gyfer sefyllfaoedd unigol.
·
Bod rhaid amrywio staffio i gyd-fynd ag anghenion y
plant, e.e. roedd rhai plant ddim yn cysgu drwy’r nos a rhai plant angen 2
aelod staff ar eu cyfer, ac roedd hyn oll yn rhan o’r gwaith cynllunio wrth
dderbyn plentyn i’r uned.
·
Mai’r
ffactor hwn oedd weithiau’n arwain at y ffaith bod plentyn yn gorfod aros am le
yn yr uned, gan fod rhaid ystyried pa blant eraill fydd yn aros yn yr uned ar
yr un pryd â’r plentyn yna, a beth yw anghenion yr holl blant ac ydi’r
anghenion hynny yn cyd-blethu hefo’i gilydd.
·
Y gellid cael anghenion eithaf heriol gydag ambell
blentyn sy’n gallu ansefydlogi plant eraill, ac roedd hynny i gyd yn nwylo’r
rheolwr o safbwynt y gwaith paratoi.
·
Bod y rhestr aros am le dros nos yn yr uned yn gallu
bod oddeutu 3 mis, ond bod hynny’n cynnwys cyflwyno’r plentyn yn raddol i’r
uned yn ystod y cyfnod.
·
O ran oedrannau’r plant sy’n agored i Derwen yn
gyffredinol, bod mwy o blant ifanc yn dod i mewn nag sydd o blant hŷn yn
gadael ar hyn o bryd. Credid bod yr un
peth yn wir am Hafan y Sêr, ac roedd hyn yn mynd i gael effaith ar y capasiti
a’r trosiant a’r rhestrau aros yn y diwedd.
Roedd hyn hefyd yn her feunyddiol o safbwynt cynllunio addasiadau, sy’n
cael eu cynllunio fisoedd ymlaen llaw.
·
Bod y Gwasanaeth yn falch iawn o’r ddarpariaeth yn
Hafan y Sêr, ond bod angen rhagor o ddarpariaeth o’r fath i ddiwallu’r angen.
·
Bod
y budd mae’r teuluoedd yn cael o’r plentyn yn treulio noson neu ddwy yn yr uned
yn enfawr, ac yn cadw teuluoedd hefo’i gilydd.
·
O
ran capasiti yn gyffredinol a’r rhestrau aros, bod teuluoedd yn gallu mynd trwy
gyfnod o argyfwng lle mae newidiadau’n digwydd ac ymddygiad y plentyn, o
bosib’, yn fwy heriol nag arfer, a bod yr uned yn ceisio’u gorau i ymateb i
sefyllfaoedd o’r fath drwy gynnig ac addasu'r arosiadau.
Yn ei sylwadau
cloi, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Iddi gael sgwrs gyda Swyddog Gwirfoddoli Prifysgol
Bangor ynglŷn â’r mater hwn a bod yna drafodaethau yn mynd rhagddynt i
gefnogi gwaith ffantastig y Swyddog Egwyl Fer yn ceisio recriwtio mwy o
wirfoddolwyr.
·
Bod
y Cabinet wedi gwarchod cyllid y math hwn o ddarpariaeth ar gyfer y plant mwyaf
bregus hyd yn hyn, ond bod y Cyngor yn wynebu heriau cwbl ddigynsail dros y
blynyddoedd i ddod. Gan hynny, byddai’n
gwerthfawrogi cefnogaeth y pwyllgor i sicrhau nad ydi’r plant yma’n colli
ceiniog o’r ddarpariaeth a byddai hithau’n gwneud popeth o fewn ei gallu i
sicrhau nad ydi’r ddarpariaeth yn wynebu toriadau, o gofio’r cyd-destun.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ddiolch
i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a mynegi gobaith y bydd y
cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen fel mae
amser yn mynd yn ei flaen.
Dogfennau ategol: