Agenda item

I gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen.

b)    Gofyn i’r gwasanaeth:-

·         gynnal awdit o sefyllfa hyfforddiant staff proffesiynol sy’n gweithio yn y maes fel cam cyntaf.

·         Yna ystyried gosod targed ar gyfer cyflawni hyfforddiant gan anelu i’w cynnwys ar y rhaglen hyfforddiant craidd fel a ganlyn:-

a)     staff sy’n gweithio neu’n dod i gyswllt gyda phobl ag awtistiaeth (fesul adran a chan gynnwys ysgolion) a

b)     hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ymhlith holl staff y Cyngor.

·      adeiladu ar yr hyfforddiant i staff mewn ysgolion a meddygfeydd ynghylch cyfeirio at y Tîm Niwro-ddatblygiadol mewn achosion nad ydynt yn gymwys.

·      annog yr holl Gynghorwyr i ddilyn yr e-fodiwl hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a mynychu dyddiau agored ar draws y Sir sy’n galluogi pawb i gael profiad ar y bws awtistiaeth.

c)    Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.  Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu addasiad i unrhyw adeilad arall gan y Cyngor.

ch) Yn sgil pryder fod y cynllun yn cael ei ariannu trwy grant yn gyfredol, bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn gofyn am ddiweddariad ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd, gan ofyn am fewnbwn Addysg ac Iechyd unwaith eto.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth, y Cynghorydd Elwyn Jones, yn gwahodd y pwyllgor i graffu canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Elwyn Jones o’r cyfarfod, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.  Nodwyd bod Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen yn dymuno:-

 

·         Diolch i’r holl swyddogion, nid yn unig am eu gwaith yn paratoi cyn cyfarfod y grŵp tasg, ond hefyd am eu cyfraniad yn ystod y cyfarfod a’u hatebion clir a gonest.

·         Diolch i’w gyd-gynghorwyr am y gwaith o baratoi cyn y cyfarfod a chyflwyno cwestiynau mor dda yn ystod y cyfarfod, a’i fod o’r farn bod yna sicrhau dealltwriaeth glir wedi dod yn sgil y cwestiynu a’r ymatebion cadarn.

·         Pwysleisio bod gan bob un o’r aelodau hefyd rôl allweddol i ymgymryd â’r hyfforddiant sydd ar gael yn y maes awtistiaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nododd aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen:-

 

·         Fod profiad personol a mewnwelediad proffesiynol y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen wedi llywio trafodaethau’r Grŵp, a diolchodd iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr.

·         Y bu’n fraint cydweithio a gweld y gwaith sy’n mynd i mewn i’r maes awtistiaeth ac y cafwyd tryloywder clir a thrafodaeth onest gyda’r swyddogion.

·         Y dymunai dynnu sylw’n benodol at argymhelliad 3, sy’n ymwneud â sicrhau bod datblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol yn addas i unigolion gydag awtistiaeth, ac argymhelliad 4, sy’n galw am ddiweddariad i’r pwyllgor ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol:-

 

·         Bod hwn yn adroddiad ardderchog a’i fod yn falch bod y Grŵp wedi mynd i’r afael â’r pwnc hynod bwysig yma.

·         Bod y maes awtistiaeth yn faes sy’n cynyddu o ran y niferoedd o bobl sydd angen cymorth ac yn faes sy’n cynyddu o ran cymhlethdod hefyd.

·         Mai un o’r ffactorau heriol yw mai grant sy’n talu am ganran sylweddol o’r Tîm Awtistiaeth newydd, a gan nad oes sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu’r arian yma i’r dyfodol, bod angen diogelu’r Cyngor a’r bobl sy’n derbyn y gwasanaethau drwy edrych ar hynny.

·         Yn sicr bod angen cymryd cyngor wrth gynllunio unrhyw adeilad newydd neu addasiad i unrhyw un o adeiladau’r Cyngor neu ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn addas i unigolion gydag awtistiaeth, ond y byddai’n awgrymu diwygio geiriad argymhelliad 3 fel a ganlyn er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod gan yr Adran Addysg eu tîm eu hunain sydd â’r arbenigedd penodol o ran adeiladau ysgolion, a hefyd i amlygu’r cyfrifoldebau yn glir:-

 

Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.  Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu addasiad i unrhyw adeilad arall.

 

Croesawyd gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen a nodwyd bod hyn yn un enghraifft o’r hyn mae’r Pwyllgor Craffu Gofal wedi’i wneud i sicrhau y rhoddir sylw priodol i bobl ag awtistiaeth.  Diolchwyd i bawb am y gwaith ac yn enwedig y cynghorwyr hynny oedd wedi mynnu bod sylw priodol yn cael ei roi i’r maes awtistiaeth yn dilyn derbyn cŵyn am y gwasanaeth rai blynyddoedd yn ôl.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd:-

 

·         Y byddai argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen yn fuddiol iawn a’i bod yn cytuno â sylwadau’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn hapus i gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallai.

·         Y byddai’n annog yr aelodau i fynd ar y Bws Awtistiaeth a bod yna drafodaethau wedi’u cynnal ynglŷn â chynnal hyfforddiant y tu hwnt i’r Bws Awtistiaeth ar sut i gefnogi staff er mwyn cefnogi teuluoedd lle mae plentyn yn aros am ddiagnosis neu hefo diagnosis.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg:-

 

·         Ei bod hithau’n teimlo’n gryf iawn ynglŷn â’r maes pwysig hwn hefyd ac yn falch o weld yr adroddiad a’r argymhellion a’r ymgais ddidwyll ac amlwg i hybu cydweithio ar draws timau a sefydliadau, sydd mor bwysig.

·         Y cytunai â’r sylw o ran cyfeirio elfen o’r gwaith at y Gwasanaeth ADY.

·         Ei bod yn croesawu’r cyfeiriad at ochel rhag gadael i unigolion sydd ag awtistiaeth yn unig (h.y. heb anhawster dysgu) ddisgyn trwy’r rhwyd oherwydd bod sicrhau cefnogaeth i bobl sydd ddim yn amlygu eu hawtistiaeth bob amser yn hynod bwysig.

·         Ei bod yn cytuno’n llwyr â’r angen i ystyried anghenion plant a phobl ifanc sydd hefo awtistiaeth wrth gynllunio ysgolion a’r angen am ardaloedd tawelach fel bod gan unigolion ofod i encilio iddo yng nghanol bwrlwm ysgol.

·         Bod ganddi bryder am y rhestrau aros am ddiagnosis a phryder am y bobl ifanc hynny y mae amgylchedd yr ysgol yn ormod iddynt a’r diffyg cefnogaeth gyson i’w hanghenion penodol. 

·         Ei bod yn achub ar bob cyfle i gyfleu’r neges i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r heriau staffio a heriau capasiti, yn enwedig ym maes seicolegwyr addysg.

·         Ei bod yn croesawu’r adroddiad a’r argymhellion ac yn hapus i gydweithio o ran yr elfennau sy’n berthnasol i’r maes addysg.

 

Holwyd a fwriedid ymestyn yr hyfforddiant awtistiaeth i holl staff yr ysgolion, yn cynnwys staff arlwyo a staff glanhau ayb.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r Aelod Cabinet Addysg yn holi’r Adran ynglŷn â hynny ac yn mynegi pa mor bwysig yw ymestyn yr hyfforddiant i bawb oherwydd sensitifrwydd o gwmpas bwydydd a gweadau gwahanol ayb.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd:-

 

·         Bod cyfeiriad yng Nghynllun Cydraddoldeb y Cyngor at anghenion pobl niwroamrywiol a bod bwriad i edrych ar gyflogaeth a materion cydraddoldeb yng nghyd-destun niwroamrywiaeth ac yn sgil Adolygiad Buckland o Gyflogaeth Awtistiaeth.

·         Y cytunai â’r sylw ynglŷn â phrinder bobl broffesiynol, yn enwedig seicolegwyr addysg, i weithio yn y maes, a bod llythyrau wedi’u hanfon at y Gweinidog Addysg yn galw am sefydlu cwrs Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Bangor gan y byddai hynny o fudd mawr i bobl Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD

1)      Derbyn canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen.

2)      Gofyn i’r gwasanaeth:-

·         gynnal awdit o sefyllfa hyfforddiant staff proffesiynol sy’n gweithio yn y maes fel cam cyntaf.

·         Yna ystyried gosod targed ar gyfer cyflawni hyfforddiant gan anelu i’w cynnwys ar y rhaglen hyfforddiant craidd fel a ganlyn:-

a)     staff sy’n gweithio neu’n dod i gyswllt gyda phobl ag awtistiaeth (fesul adran a chan gynnwys ysgolion) a

b)     hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ymhlith holl staff y Cyngor.

·      adeiladu ar yr hyfforddiant i staff mewn ysgolion a meddygfeydd ynghylch cyfeirio at y Tîm Niwro-ddatblygiadol mewn achosion nad ydynt yn gymwys.

·      annog yr holl Gynghorwyr i ddilyn yr e-fodiwl hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a mynychu dyddiau agored ar draws y Sir sy’n galluogi pawb i gael profiad ar y bws awtistiaeth.

3)      Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.  Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu addasiad i unrhyw adeilad arall gan y Cyngor.

4)      Yn sgil pryder fod y cynllun yn cael ei ariannu trwy grant yn gyfredol, bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn gofyn am ddiweddariad ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd, gan ofyn am fewnbwn Addysg ac Iechyd unwaith eto.

 

 

Dogfennau ategol: