Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

COFNODION:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor roi cyfle i Mr A egluro cefndir y digwyddiad a chynnig rhesymau dilys i’r Is-bwyllgor pam ei fod o’r farn ei fod bellach yn bersonaddas a phriodol’ i dderbyn trwydded hacni. Os nad oedd yr Is-wyllgor wedi hynny, yn argyhoeddedig fod yr ymgeisydd yn bersonaddas a phriodol’, yna argymhellwyd fod y cais yn cael ei wrthod oherwydd ei fod yn groes i gymal 6.1 a 6.2 o’r polisi  Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr y Cyngor.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd bod y digwyddiad wedi cael ei gydnabod gan swyddogion yr Uned Drwyddedu, ond honnwyd bod yr unigolyn arall wedi ei daro yn gyntaf. Ategwyd bod ymddygiad yr unigolyn tuag at yr ymgeisydd wedi bod yn annerbyniol ar sawl achlysur, a bod yr ymgeisydd wedi ceisio ffonio'r Heddlu ond nad oeddynt yn gallu ymateb mewn pryd. Fodd bynnag, eglurwyd bod yr unigolyn arall hefyd wedi’i erlyn a’i gollfarnu am yr un drosedd.

 

Cyflwynwyd dau eirda am gymeriad yr ymgeisydd ynghyd a disgrifiadau byr o’r hyn a ddyfarnwyd yn y Llys.

 

Cytunwyd rhannu fideo o’r digwyddiad.

 

Nodwyd nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw gollfarnau na materion eraill i'w hystyried ac mai gyrru tacsi oedd ei fywoliaeth (bod ganddo drwydded ers 2018). Un digwyddiad ynysig sydd yma, yn groes i gymeriad; Nid oedd patrwm o ymddwyn yn amhriodol a’r ymgeisydd eisoes wedi derbyn cosb gan y Llys am ei ymddygiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â sut y gallai’r ymgeisydd argyhoeddi’r Is-bwyllgor ei fod yn berson addas a phriodol, nodwyd mai un digwyddiad oedd yma ac nad oedd wedi bod mewn unrhyw anghydfod o’r blaen ac nad oedd yn ddyn treisgar.

 

Mewn ymateb i sylw bod dogfennau’r ymgeisydd wedi cael eu postio i’r cyfeiriad anghywir, nododd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd yr Uned Drwyddedu wedi derbyn diweddariad o’r cyfeiriad newydd ac mai’r cyfeiriad oedd ar drwydded yr ymgeisydd oedd wedi ei  ddefnyddio.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu a Datganiadau'r Swyddogion Gorfodaeth

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd a geirdai

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Rhagfyr 2022, ataliwyd trwydded yr ymgeisydd er mwyn diogelu’r cyhoedd : yn unol â darpariaeth Adran 61 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Yn Chwefror 2023 derbyniodd gollfarn o Ddefnyddio Trais / Bygwth trais mewn man cyhoeddus ynghyd a dirwy o £200 ; costau £85 a gordal o £80.

 

Yn seiliedig ar y ffaith bod yr ymgeisydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad; penderfynodd yr Uned Drwyddedu ddirymu ei drwydded yrru cerbyd tacsi, gan roi copi o’r hysbysiad dirymu iddo yn unol ag adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaeth Amrywiol) 1976 gyda chamau gweithredu ar unwaith.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.1 yn nodi, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad cynrychiolydd yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu.

 

Adroddwyd bod gan yr Is-bwyllgor rywfaint o gydymdeimlad gyda’r ymgeisydd ynghylch y digwyddiad ac yn derbyn bod dwy ochr amlwg i'r stori, gyda’r unigolyn arall dan sylw yn rhannu cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd. Fodd bynnag, nodwyd bod rhaid rhoi sylw i ddarpariaethau Polisi’r Awdurdod, sy’n datgan y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod oni bai bod cyfnod o 3 blynedd o leiaf wedi mynd heibio ers i drosedd o’r fath ddigwydd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn ymwybodol, er bod cyfnod amser yn cael ei nodi yn y canllawiau, bod cyfle i’r ymgeisydd dystiolaethu ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded hacni/hurio preifat. Er nad oedd y swyddogion trwyddedu wedi derbyn unrhyw gwynion am ymddygiad bygythiol / treisgar gan yr ymgeisydd ers y digwyddiad ym mis Rhagfyr 2022, roedd yn achos pryder mai ond tua hanner y cyfnod disgwyliedig o dair blynedd oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiad.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth arbennig i’r ffaith bod y digwyddiad wedi digwydd tra bod yr ymgeisydd yn gweithio fel gyrrwr tacsi ac felly yn pryderu, os mewn sefyllfa o straen lle bydd tebygrwydd o orfod delio gydag ymddygiad heriol neu bryfoclyd, y byddai disgwyl iddo ymateb yn briodol. Ystyriwyd bod y modd y mae gyrrwyr yn ymateb i sefyllfaoedd o’r fath yn berthnasol, gan fod rhaid sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn ganolog i ddyletswydd yr Is-bwyllgor wrth ystyried ceisiadau.

 

Wedi ystyried yr holl ffactorau, nid oedd yr is-bwyllgor wedi eu hargyhoeddi bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded ar hyn o bryd. I gyfarch gofynion Polisi’r Awdurdod, nid oeddynt yn ystyried bod digon o amser wedi mynd heibio ers y drosedd ac nad oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol yn yr achos yma fyddai’n cyfiawnhau gwyro oddi ar y Polisi.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid gwrthod y cais ac nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.