Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cydnabod y gollfarn ar ei ffurflen gais am drwydded.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn. Nododd bod y digwyddiad yn un a ddigwyddodd pan roedd yn yr ysgol ac nad oedd wedi troseddu ers hynny.

 

PENDERFYNWYD

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ebrill 1976, derbyniodd yr ymgeisydd golfan mewn Llys Ieuenctid am gyflawni ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A47. Derbyniodd ddirwy o £5

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.1 yn nodi, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu’r cais gan fod yr unig gollfarn wedi'i chyflawni 48 mlynedd yn ôl sydd bell tu hwnt i’r cyfnod tair blynedd ac nad oedd unrhyw dystiolaeth o gam ymddwyn ers hynny.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.