I adolygu
trefniadau cyflawni’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a monitro cynnydd o ran
gweithredu Cynllun Llesiant 2023-2028.
Penderfyniad:
· Argymell i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bod yr adroddiad
blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am:
·
sut mae’r Iaith
Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fesul amcan llesiant
·
sut mae’r
fethodoleg System Gyfan a Pwysa Iach: Cymru yn llinyn euraidd drwy’r gwaith.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor) a Rheolwr Rhaglen Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw’n fras at y prif
bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cyflwyno
trefniadau cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar gyfer
2024-2025 yn seiliedig ar Gynllun Llesiant 2023-2028 Gwynedd a Môn. Manylwyd
bod tri Amcan Llesiant penodol o fewn y cynllun sef:
·
Gweithio
i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.
·
Gweithio
i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn
botensial.
·
Gweithio
i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at sero net carbon.
Ychwanegwyd bod ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’,
strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i
atal a lleihau gordewdra yng Nghymru, wedi cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd fel
llinyn euraidd ac fe fydd yn cael ystyriaeth ganolog i weithrediad y Bwrdd.
Ystyriwyd sut bydd y Bwrdd yn monitro’r llinyn euraidd hwn gan gofio fod yr
iaith Gymraeg hefyd yn llinyn euraidd drwy weithrediad y Bwrdd.
Cydnabuwyd nad oedd yr iaith Gymraeg i’w
weld yn amlwg fel ei fod yn ganolog i waith y Bwrdd, fel soniwyd mewn
trafodaethau am waith y Bwrdd yn y Pwyllgor hwn. Pwysleisiwyd bod newid wedi
cael ei gyflwyno gan y Bwrdd er mwyn sicrhau fod yr ymrwymiad i’r iaith Gymraeg
llawer fwy amlwg erbyn hyn. Sicrhawyd bod holl bartneriaid y Bwrdd yn
gweithredu gyda’r Gymraeg yn ganolog i’w hystyriaethau.
Cadarnhawyd bod nifer o is-grwpiau’r Bwrdd
bellach wedi dod i ben ac yn cael eu trin fel grwpiau tasg a gorffen ble mae
swyddogion o bob partneriaeth yn cyfrannu ar lefel gweithredol i wireddu
amcanion. Nodwyd bod nifer o’r grwpiau hyn eisoes mewn lle megis ‘grŵp
hyrwyddo hawlio budd-daliadau’ a ‘grŵp siarter teithio’, i gynorthwyo
lliniaru effaith tlodi ar ein cymunedau. Manylwyd ar y grŵp siarter
teithio gan nodi ei fod yn ystyried nifer o ffactorau yn ychwanegol i gludiant
cyhoeddus, megis dulliau teithio staff, gwefru cerbydau a phobl yn gweithio o
adref.
Pwysleisiwyd bod yr Is-grŵp Iaith
Gymraeg yn parhau i fod yn weithredol, gyda chynrychiolaeth o bob partneriaeth
yn rhan ohono ac yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Adroddwyd bod yr
is-grŵp hwn wedi bod yn gweithio ar brosiect i ymateb i heriau recriwtio
yn yr ardal a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Adroddwyd ar weithdrefnau cyflawni lefel
uchel mae’r Bwrdd yn bwriadu eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Esboniwyd
mai gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd sydd wedi cael ei nodi hyd yma, er bod y
cynllun llesiant yn un pum mlynedd. Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi gosod
gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd yn unig er mwyn sicrhau sylfaeni cadarn o
faterion gweithredol. Cydnabuwyd mai un o heriau sy’n wynebu’r Bwrdd yw
ychwanegu gwerth i gymunedau heb ddyblygu’r gwaith mae partneriaid eisoes yn ei
gwblhau eu hunain.
Mewn ymateb i ymholiad, tynnwyd sylw at ddau
o’r gweithdrefnau cyflawni lefel uchel a gyflwynwyd. Eglurwyd bod y weithdrefn
‘bod y Bwrdd yn Wybodus am Drawma’ yn ofyniad gan y llywodraeth a bod aelodau’r
Bwrdd yn derbyn hyfforddiant manwl am y pwnc ar hyn o bryd. Cadarnhawyd mai
bwriad y weithdrefn yma yw sicrhau fod y Bwrdd a’i bartneriaid yn ymwybodol o
sefyllfaoedd defnyddwyr gwasanaeth ac yn cymryd eu profiadau i ystyriaeth wrth
ddarparu gwasanaethau. Ymhelaethwyd bod ‘Cefnogi teuluoedd a chysoni hawliau
plant’ hefyd wedi cael ei nodi fel gweithdrefn i’r Cynllun Llesiant er mwyn
sicrhau fod hawliau plant yn derbyn ystyriaeth wrth i’r Bwrdd cyflawni ei
waith.
Diolchwyd am wybodaeth drylwyr yng
nghyflwyniad llafar y swyddogion ond mynegwyd siomedigaeth gan Aelodau’r
pwyllgor am ddiffyg gwybodaeth ysgrifenedig yn yr Adroddiad. Nodwyd bod hyn
wedi arwain at anawsterau wrth geisio paratoi i graffu trefniadau’r Bwrdd yn
effeithlon yn ystod y drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
· Argymell i’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus bod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am:
· sut mae’r Iaith Gymraeg yn
cael ei hyrwyddo fesul amcan llesiant
·
sut mae’r fethodoleg System Gyfan a Pwysau Iach: Cymru Iach
yn llinyn euraidd drwy’r gwaith.
Dogfennau ategol: