Agenda item

I ddiweddaru’r Aelodau ar y Llawlyfr Cynnal Priffyrdd.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau ac argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a Ymgynghoriaeth Gwynedd:

 

·       yn rhoi trefniadau mewn lle i adael i gynghorwyr wybod pan fo problem a adroddwyd wedi ei ddatrys.

·       yn edrych ar sefydlu trefniadau i adolygu safon archwiliadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth yr Adran a Pheiriannydd Ardal Dwyfor. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Llawlyfr Cynnal Priffyrdd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2023 a'i fod bellach yn weithredol. Tynnwyd sylw at brif amcanion y llawlyfr wrth ei weithredu, sef sicrhau:

 

·       Bod gweithdrefnau cynnal asedau priffyrdd y Cyngor yn cydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol presennol.

·       Bod y Cyngor yn darparu rhwydwaith priffyrdd diogel sydd wedi ei gynnal yn dda.

·       Bod safonau cynnal priodol yn cael ei gweithredu’n gyson ledled Gwynedd

·       Bod safonau a dull gweithredu’r Cyngor yn gyson ag awdurdodau priffyrdd eraill o fewn Cymru.

·       Bydd y Cyngor yn parhau i allu amddiffyn hawliadau trydydd parti a chamau cyfreithiol gan unigolion.

·       Bod dyraniadau cyllideb cynnal priffyrdd yn y dyfodol yn cael eu dylanwadu gan risg yn hytrach na gan ffactorau eraill.

 

Cadarnhawyd bod y llawlyfr wedi cael ei ddatblygu i gynllunio sut mae’r Cyngor yn cydymffurfio gyda’r dyletswydd penodol o dan Deddf Priffyrdd 1980 yn ogystal â nifer o godau ymarfer cenedlaethol, i gynnal y ffyrdd a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Manylwyd bod y llawlyfr wedi ei selio ar Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (Gorffennaf 2010) a oedd ynddo’i hun wedi cael ei ddylanwadu gan ‘Code of Practice for Highway Maintenance Management 2005’.

 

Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu ar sail ardaloedd Dwyfor, Arfon a Meirionnydd oherwydd maint y Sir. Eglurwyd bod hyn yn drefn effeithiol er mwyn ymateb i ymholiadau cynnal ffyrdd yn amserol, gan sicrhau fod yr un trefniadau a gweithdrefnau mewn lle ar gyfer yr holl ardaloedd.

 

Cadarnhawyd bod y llawlyfr yn cael ei ddefnyddio fel canllaw dyddiol ar sut i gynnal ffyrdd y Sir ac yn amddiffyn y Cyngor rhag hawliadau trydydd parti ac achosion llys. Pwysleisiwyd bod y Cyngor wedi derbyn 343 o geisiadau hawlio trydydd parti rhwng 1 Ebrill 2016 ac 1 Ebrill 2024 a bod y Cyngor wedi llwyddo i amddiffyn 294 ohonynt. Manylwyd bod hyn yn gyfradd llwyddiant o bron i 86%.

 

Esboniwyd bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cydymffurfio â chod ymarfer newydd a gyhoeddwyd yn 2016 sef ‘Well-managed Highway Infastructure: A Code of Practice. Ymhelaethwyd bod Cymdeithas Syrfëwr Sirol Cymru yn ymgynghori gydag awdurdodau lleol er mwyn llunio cynlluniau sy’n gyson yn genedlaethol er mwyn sicrhau nad oes newidiadau i gyflyrau’r ffyrdd pan mae teithwyr yn symud o un Sir i’r llall. Pwysleisiwyd bod awdurdodau lleol yn ymgymryd â sefydlu hierarchaeth rhwydwaith, trefniadau arolygu, trefn trwsio yn ogystal â defnyddio risg i ddylanwadu ar sut y caiff y gyllideb ei ddyrannu, i sicrhau nad oes newidiadau mawr ymysg Siroedd.

 

Tynnwyd sylw penodol i gymal 7.1 o’r llawlyfr a oedd yn nodi bod categori diffygion ffyrdd yn cael eu categoreiddio fel diffyg critigol, diffyg diogelwch neu ddiffyg cynnal. Nodwyd bod y gwasanaeth yn arolygu ffyrdd yn rheolaidd gan wneud hynny yn fisol, pob 3 mis neu bob 6 mis yn ddibynnol ar ddosbarth y ffordd a’r defnydd a wnaed ohono.

 

Eglurwyd bod y gwasanaeth yn ymateb i unrhyw gwynion ac ymholiadau am gyflyrau ffyrdd gan y cyhoedd, cynghorau cymuned ac Aelodau Etholedig cyn gynted â phosib, gan ystyried diffygion posibl cyfagos eraill wrth wneud hynny pan yn briodol. Adroddwyd bod system asedau’r adran yn caniatáu i weithwyr weld hanes diffygion y ffordd wrth iddynt ymweld â rhai newydd, er mwyn gweld os yw’r diffygion hynny dal yn broblem neu os ydynt wedi eu datrys. Esboniwyd byddent yn gyrru adroddiadau i system WDM, sef y brif system i fonitro’r gwaith. Cadarnhawyd bod system WDM yn gyrru adroddiad wythnosol i swyddogion am y diffygion sydd wedi cael eu gweithredu arnynt ac i weld os ydynt wedi cael eu datrys yn amserol.

 

Mewn ymateb i’r uchod, awgrymodd aelod y byddai’n fuddiol i aelodau dderbyn cadarnhad pan fo problem a adroddwyd wedi ei ddatrys.

 

Esboniwyd bod trefniadau’r gorffennol yn gofyn i weithwyr ymateb i unrhyw ddiffygion diogelwch o fewn 24 awr gan ddatrys unrhyw ddiffygion neu amserlennu ei ddatrysiad. Cydnabuwyd bod hyn yn rhoi pwysau mawr ar weithwyr y gwasanaeth ac yn aml iawn nid oedd yn ddefnydd da o amser. Nodwyd bod y trefniant hwn bellach wedi cael ei newid fel bod gweithwyr yn ymweld â’r diffygion diogelwch erbyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol o bryd gaiff ei hysbysu, gan roi hyblygrwydd ar benwythnosau a gwyliau banc. Eglurwyd bod hyn yn caniatáu i weithwyr raglennu gwaith yn fwy effeithiol a chreu pecynnau o waith er mwyn sicrhau bod y diffygion yn cael sylw yn amserol wrth sicrhau nad yw gweithwyr yn gwastraffu amser yn teithio. Cadarnhawyd nad oedd pryderon wedi eu hadnabod ers i’r newid hwn gael ei gyflwyno ond bydd yr Adran yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

 

Nododd aelod ei gefnogaeth i’r llawlyfr a oedd yn nodi’r disgwyliadau gan ei wneud yn fesuradwy o ran perfformiad. Holodd os oedd yn ofyniad i arolygwr edrych ar yr adroddiadau archwilio blaenorol ac os oedd trefn mewn lle i adolygu adroddiadau archwiliad.

 

Mewn ymateb, nodwyd nad oedd archwiliadau yn cael eu hadolygu yn bresennol. Nodwyd y rhoddir ystyriaeth i wneud ymweliadau ad-hoc fel rhan o’r trefniadau newydd. Eglurwyd bod yr arolygwyr ffordd gyda mynediad i archwiliadau hanesyddol ar y tabled a ddefnyddir. Nodwyd bod sefydlu trefn i adolygu archwiliadau gan swyddogion allanol yn rhywbeth i’w ystyried.

 

Esboniwyd bod yr Adran yn y broses o ddarparu rhaglen waith ar sail nifer o gategorïau cynnal strwythurol er mwyn adlewyrchu’r gwir flaenoriaeth o ffyrdd sydd angen sylw ar sail Gwynedd gyfan. Cydnabuwyd bod pwysau sylweddol ar gyllideb Cynnal Ffyrdd ac felly manylwyd mai’r categorïau a ystyrir wrth flaenoriaethu gwaith yw:

 

·       Hierarchaeth

·       Data sganiwr

·       Cyflwr gweledol

·       Blaenoriaethau ardal a rhwydwaith lleol

·       Lefelau diffygion

·       Oed adeiladu

 

Sicrhawyd os nad yw’r ffyrdd a flaenoriaethwyd  yn derbyn sylw o fewn y flwyddyn gyfredol, bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn ffyrdd blaenoriaeth uchel yn y flwyddyn ddilynol. Er hyn, Cydnabuwyd bod rhai elfennau yn dylanwadu ar drefn blaenoriaethu’r rhaglen waith megis dirywiad sydyn mewn cyflwr ffyrdd eraill neu dirlithriad. Pwysleisiwyd mai bwriad yr Adran yw datblygu rhaglen waith dros dair blynedd yn hytrach na rhaglenni blynyddol er mwyn nodi beth yw blaenoriaethau’r rhaglen waith a rhestru unrhyw resymau pam fod unrhyw ffordd wedi llithro ar y rhestr blaenoriaethau.

 

Eglurwyd bod goleuadau stryd yn derbyn ystyriaeth o fewn y llawlyfr cynnal priffyrdd a’u bod yn cael eu hasesu am eu cyflwr gweledol a diogelwch trydanol. Manylwyd bod rhaglen wedi ei ddatblygu ar gyfer cynnal profion strwythurol ar golofnau goleuadau drwy gontractwr allanol. Nodwyd bod y profion hyn yn sgorio’r colofnau i gategorïau ‘coch’ (bydd angen ei waredu ymhen 4 awr), ‘ambr’ (bod angen ailbrofi’r golofn ymhen 6 mis) neu ‘gwyrdd’ (bod angen ailbrofi’r golofn ymhen 5 mlynedd). Derbyniwyd sylw bod goleuadau stryd yn gallu bod yn rhy dywyll mewn rhai ardaloedd gan beri gofid i gerddwyr gyda’r nos. Cydnabuwyd bod angen ail ymweld â rhai lleoliadau i asesu’r sefyllfa gan addasu’r gosodiadau ‘pylu’ goleuadau gyda’r nos yn ôl yr angen.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau ac argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a Ymgynghoriaeth Gwynedd:

 

·       yn rhoi trefniadau mewn lle i adael i gynghorwyr wybod pan fo problem a adroddwyd wedi ei ddatrys.

·       yn edrych ar sefydlu trefniadau i adolygu safon archwiliadau.

 

Dogfennau ategol: