I
ddiweddaru Aelodau ar y Gwasanaeth Edrychiad Stryd.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Rheolwr
Gwasanaethau Stryd a Rheolwr Prosiectau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau
canlynol:
Nodwyd bod y tîm
Glanhau Strydoedd yn gweithredu ar ofynion statudol er mwyn sicrhau bod
strydoedd y Sir yn lân, tra bod tîm Gorfodaeth Stryd yn canolbwyntio ar gosbi
pobl am lygru, tipio neu am beidio codi baw ci. Eglurwyd bod y Tîm Tacluso
Ardal Ni yn dîm gymharol newydd sy’n cyfrannu yn sylweddol at wella edrychiad a
delwedd ein strydoedd a’n hamgylchedd.
Adroddwyd bod adolygiad manwl o wasanaeth
Glanhau Strydoedd wedi ei gwblhau a bod
cynllun gwella wedi cael ei ddatblygu yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw. Nodwyd
bod y cynllun gwella yn ffocysu ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth,
technoleg gwybodaeth a datblygu fflyd werdd. Pwysleisiwyd bod adolygu’r
cylchdeithiau yn flaenoriaeth yn dilyn yr adolygiad. Cydnabuwyd bod systemau
trefnu cylchdeithiau a chasgliadau bellach wedi dyddio ac yn creu her wrth
geisio cyflawni gwasanaethau. Cadarnhawyd bod yr Adran yn buddsoddi mewn system
newydd i optimeiddio cylchdeithiau gan obeithio bydd hyn yn adnodd i sicrhau
gwasanaeth modern ac effeithlon sy’n cyfrannu at ddelwedd y Sir, tra hefyd yn
gymorth i gyrraedd targedau arbedion presennol. Esboniwyd bydd y system yn
gallu llunio cylchdeithiau o’r newydd er mwyn sicrhau bod amser yn cael ei
reoli’n well a hefyd yn cynnig gwelliannau i'r fflyd.
Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi bod yn
llwyddiannus i dderbyn bid ariannol er mwyn sefydlu Glanhawyr Trefol. Manylwyd
y gobeithir bydd gweithwyr yn defnyddio cert a sugnydd sbwriel trydan mewn
trefi ym mhob ardal o Wynedd. Nodwyd y bwriedir newid oriau gwaith mewn
ardaloedd trefol (gan gynnwys pentrefi) o 5yb hyd at 1yh fel eu bod yn gweithio
o 8yb i 4yh tra'n parhau i gydymffurfio gyda chod ymarfer am lendid stryd
digonol erbyn 8yb ble yn briodol. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau bod y timau
yn weledol i’r cyhoedd gan ennyn gwerthfawrogiad am eu gwaith.
Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i
recriwtio mwy o swyddogion i’r gwasanaeth Gorfodaeth Stryd yn dilyn cyfnod
heriol. Cadarnhawyd bod y nifer o ddirwyon a ddosbarthwyd wedi cynyddu yn
ddiweddar oherwydd hyn. Nodwyd bod diweddariad pellach yn cael ei baratoi ar
gyfer y wasg er mwyn i drigolion fod yn ymwybodol o waith y gwasanaeth hwn i’r
dyfodol. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda Taclo Tipio Cymru
ac wedi adnabod manteision o ddefnyddio teclyn ‘Flymapper’
mewn ardaloedd prysur i daclo’r broblem. Cydnabuwyd bod Bangor yn ardal ble mae
tipio yn broblem a bod swyddogion yn datblygu cynllun ar gyfer yr ardal i
atgoffa trigolion o reolau gwaredu gwastraff. Nodwyd os bydd yr ymgyrch hwn yn
llwyddiannus, y byddai’n cael ei ddatblygu i’w rannu drwy Gymru gyfan. Tynnwyd
sylw o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ryddhau Cynllun Atal Sbwriel a Thipio
Cenedlaethol a bydd ei gyhoeddiad yn arwain i’r Adran addasu eu Cod Ymarfer.
Nodwyd mai un o flaenoriaethau’r gwasanaeth
Gorfodaeth Stryd dros y gaeaf oedd delio gyda baw cŵn. Pwysleisiwyd bod y
broblem hon yn flaenoriaeth barhaus i’r gwasanaeth a bod swyddogion wedi bod yn
adnewyddu arwyddion a biniau dros y gaeaf. Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd gan
fod mwy o gŵn yn yr ardal ers y blynyddoedd diwethaf bod yr Adran yn
ceisio canfod balans o ran prynu mwy o finiau baw ci . Cydnabuwyd bod hyn yn
her i’r Adran oherwydd heriau ariannol ac mae ychwanegu biniau i’w gwagio ar
gylchdeithiau yn effeithio ar allu gweithwyr i’w gwagio’n amserol. Er hyn,
cydnabuwyd bod newid i reoliadau yn caniatáu i berchnogion cŵn waredu baw
ci mewn unrhyw fin gweddilliol cyhoeddus arferol a ddarperir gan y Cyngor.
Soniwyd bod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael eu hadolygu ar hyn o
bryd yn unol â gofynion statudol i’w diweddaru. Cadarnhawyd bod ymgynghoriad am
y gorchymyn yn digwydd dros yr wythnosau nesaf a bydd hyn yn gyfle i unrhyw un
leisio barn am broblemau baw cŵn sydd yn eu hardaloedd ymhlith materion
cysylltiedig eraill.
Eglurwyd bod Tîm Tacluso Ardal Ni yn brysur
iawn gydag ystod eang o gyfrifoldebau. Nodwyd bod y gwasanaeth hwn yn fwy
gweledol i drigolion Gwynedd ac mae’r Adran yn derbyn adborth cadarnhaol am eu
gwaith yn rheolaidd. Esboniwyd bod natur gwaith y tîm yn newid wrth iddo
ddatblygu gan nodi fod cryn bwyslais yn cael ei roi ar ymgyrchoedd canol trefi
yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod y gweithwyr bellach yn arbenigwyr gyda’r offer
sy’n cael ei ddefnyddio i gyflawni’r gwaith. Ymfalchïwyd bod Cyngor Sir
Gaerfyrddin wedi lansio ymgyrchoedd timau tacluso yn ddiweddar gan ddilyn nifer
o brosesau a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd.
Cadarnhawyd bod 5 o finiau clyfar wedi cael
eu gosod mewn lleoliadau prysur ar draws y Sir. Eglurwyd bod y biniau yn cael
eu pweru gan egni solar er mwyn cywasgu’r sbwriel fel nad oes angen i’w gwagio
mor aml. Nodwyd bod neges yn cael ei yrru gan y bin i systemau’r gwasanaeth i’w
hysbysu bod angen ei wagio, cyn iddo fynd yn orlawn ac achosi blerwch.
Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu arian grant eleni er mwyn
buddsoddi mewn isadeiledd canol trefi. Eglurwyd bydd cyfran o’r arian yn cael
ei ddyrannu i fuddsoddi mewn mwy o finiau clyfar a meinciau clyfar. Nodwyd bod
cost y biniau clyfar yn ddrud ac felly mae’r Adran yn cydweithio gydag Adran
Technoleg Gwybodaeth y Cyngor i geisio datblygu technoleg gyffelyb i’w
ddefnyddio ar finiau yng Ngwynedd am bris rhatach na’u prynu.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod
bwriad i ychwanegu mwy o finiau ailgylchu cyhoeddus ar draws y Sir. Er hyn,
nodwyd bod y biniau ailgylchu sydd eisoes wedi cael eu lleoli yn cael eu
camddefnyddio ac felly mae angen datrys y broblem hon cyn ychwanegu mwy
ohonynt. Eglurwyd nad ydi cynnwys biniau gweddilliol a biniau clyfar ddim yn
cael eu didoli gan fod eu cynnwys yn cael ei losgi.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: