Agenda item

Adeiladu Capel Gorffwys

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu - amodau

 

  1. 5 mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau a’r datganiad a chynllun seilwaith gwyrdd
  3. Cytuno gorffeniad allanol
  4. Amod Dwr Cymru
  5. Parcio
  6. Ni chaniateir gosod offer allanol yng nghyswllt yr oergell heb gytuno o flaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

SUDS

Nodyn goruchwyliaeth bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Adeiladu Capel Gorffwys

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd yn ymwneud a chodi adeilad newydd ar gyfer defnydd fel Capel Gorffwys. Nodwyd bod y cynllun llawr yn dangos y bydd swyddfa, lle storio oer, toiled, ardal llwytho a dadlwytho ar gyfer cerbydau a gwagle ar gyfer Capel Gorffwys o fewn yr adeilad.

 

Eglurwyd bod lleoliad y bwriad yng nghanol pentref Morfa Nefyn ar ochr y briffordd B4417 oddeutu 50m i ffwrdd i’r groesffordd gyda’r B4412. Amlygwyd nad oedd adeiladau eraill ar yr ochr yma i’r ffordd yn y lleoliad yma (heblaw am yr adeilad trefnwyr angladdau a thoiledau cyhoeddus presennol).

 

Nodwyd bod y cais yn ail-gyflwyniad o fwriad a wrthodwyd o dan gyfeirnod C22/0568/42/LL a bod asiant y cais wedi darparu datganiad yn ymateb i’r rhesymau gwrthod ar gyfer y cais hwnnw.  Yn wreiddiol, nid oedd yn glir sut fyddai’r adeilad bwriedig yn gweithredu gyda’r adeilad presennol ac nid oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ynglŷn ag union ddefnydd presennol a bwriedig o’r gweithdy presennol.

 

Erbyn hyn, mae gwybodaeth bellach wedi ei dderbyn, sy’n cadarnhau fod yr ymgeisydd yn un o dri sydd ar restr y crwner/heddlu ar gyfer delio gyda galwadau brys yn ardal Pen Llyn. Byddai’r adeilad newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cadw’r hers, darparu oergell ac ystafell i’r teulu/meddyg ymweld â’r ymadawedig.

 

Eglurwyd bod yr adeilad presennol yn rhwystredig oherwydd bod grisiau i lawr i’r rhan sy’n cael ei ddefnyddio fel oergell ar hyn o bryd ac felly nid oes posib defnyddio troli er mwyn cydymffurfio a gofynion iechyd a diogelwch. Yn ogystal, mae bwriad prynu hers newydd ac ni fyddai modd ei barcio o fewn yr adeilad presennol oherwydd bod hyd yr hers newydd yn fwy sydd yn golygu y bydd rhaid llwytho’r hers y tu allan mewn lleoliad sy’n agored i’r cyhoedd. Roedd yr ymgeisydd yn cadarnhau y byddai’r busnes yn gweithio’n effeithiol drwy ddefnyddio’r ddau adeilad ac roedd cynllun wedi ei ddarparu yn dangos sut mae’r adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio ynghyd a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio petai’r adeilad newydd yn cael ei ganiatáu.

 

Nodwyd hefyd fod cynllun safle diwygiedig wedi ei gyflwyno sy’n ymestyn safle’r cais er mwyn gwella’r mynediad i mewn i’r safle, darparu 3 llecyn parcio ychwanegol ynghyd a lle i droi o fewn y safle a chadw’r drysau mynediad cerbydol i mewn i’r adeilad yn glir. M Roedd Datganiad a Chynllun Seilwaith Gwyrdd yn cynnig plannu gwrych a gosod blychau nythu ac ystlumod ar yr adeilad bwriedig hefyd wedi ei gyflwyno.

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 28.11.2022 (ar gais yr ymgeisydd) er mwyn ceisio datrys materion priffyrdd a chyflwyno gwybodaeth bellach.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored y tu allan ond yn cyffwrdd a ffin datblygu pentref Morfa Nefyn. Ystyriwyd fod cyfiawnhad a rhesymeg digonol ar gyfer codi adeilad busnes fel estyniad i’r busnes presennol yng nghefn gwlad agored a’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisi PCYFF 1 a maen prawf 2 polisi PS 5.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd nodwyd yn flaenorol bod y llecynnau parcio wedi eu gosod o flaen y drysau mynediad i’r gofod llwytho/dadlwytho, ac nad oedd yn glir be fyddai’r trefniant petai angen defnyddio’r drysau pan fyddai’r llecynnau parcio mewn defnydd. Nodwyd bod cynllun safle diwygiedig wedi ei gyflwyno sy’n darparu 3 llecyn parcio ychwanegol ynghyd a lle parcio a throi gan adael yr ardal o flaen y drysau llwytho cerbydau yn wag.

 

Cynigiwyd sylwadau pellach gan yr Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad erbyn hyn ar sail y cynllun safle diwygiedig (rev E) ynghyd a gosod amod i sicrhau fod y llecynnau parcio yn cael eu darparu cyn defnyddio’r adeilad.

 

Yn dilyn derbyn gwybodaeth a chynlluniau diwygiedig ychwanegol yn ymwneud a’r adeilad presennol a sut byddai’r ddau adeilad yn cael eu defnyddio yn y dyfodol, ynghyd a chynllun safle gyda threfniant parcio diwygiedig a mesurau lliniaru a gwella bioamrywiaeth, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·           Bod yr adeilad presennol yn anaddas ar gyfer darparu gwasanaeth modern

·           Mai cais sydd yma i ehangu’r adeilad presennol

·           Y gwasanaeth yn angenrheidiol a’r cwmni yn methu cael safle arall addas yn y pentref - nid yw’n fusnes y gellid ei redeg mewn stryd neu mewn stad ddiwydiannol

·           Bod y safle presennol yn un delfrydol

·           Bod y cwmni a swyddogion y Cyngor wedi cydweithio yn dda i sicrhau bod pob parti yn fodlon gyda’r cais

 

c)    Nododd yr Aelod Lleol y byddai yn datgan buddiant a chamu yn ôl o’r drafodaeth. Amlygodd bod y cais, yn lleol yn un cynhennus ac felly angen penderfyniad y Pwyllgor.

 

ch) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais gan nodi fod mawr angen gwasanaeth o’r fath.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu - amodau

 

1.            5 mlynedd

2.            Unol a’r cynlluniau a’r datganiad a chynllun seilwaith gwyrdd

3.            Cytuno gorffeniad allanol

4.            Amod Dwr Cymru

5.            Parcio

6.            Ni chaniateir gosod offer allanol yng nghyswllt yr oergell heb gytuno o flaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

SUDS

Nodyn goruchwyliaeth bioamrywiaeth

 

Dogfennau ategol: