Agenda item

Codi 10 uned ddiwydiannol, mynediad newydd, parcio a thirlunio.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.     Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.     Caniateir defnyddio’r Unedau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8

5.     Amod tirlunio / gwelliannau bioamrywiaeth.

6.     Oriau Agor : 06:30 i 18:00 Llun i Gwener, 06:30 i 17:00 Dydd Sadwrn a 08:00 i 16:00 ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

7.     Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer allanol a osodir ar yr adeilad

8.     Ni ddylid dod ag unrhyw uned i ddefnydd hyd nes bydd cysylltiad gyda’r garthffos gyhoeddus wedi ei gwblhau.

9.     Dylid gweithredu’n unol a’r Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu a gyflwynwyd

10.  Amod Dŵr Cymru

11.  Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

            Nodiadau

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

3.         Uned Iaith

Cofnod:

Codi 10 uned ddiwydiannol, mynediad newydd, parcio a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad ar lain gwag o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai. Nodwyd y  byddai’r adeilad wedi ei rannu'n ddeg uned, gyda'r bwriad o gael caniatâd o fewn Dosbarthiad Defnydd B2  sef Diwydiant cyffredinol. Er nad yn hollol berthnasol i’r cais, nodwyd nad oes defnyddwyr penodol eto ar gyfer yr unedau.

 

O ran egwyddor y datblygiad adroddwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu, ond mewn rhan o safle sydd wedi ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol o fewn y CDLl ar gyfer defnyddiau B1, B2 & B8. Nodwyd, gan fod y bwriad ar gyfer defnydd B bydd yn cydymffurfio gyda pholisi CYF 1 sydd yn ymwneud a gwarchod, dynodi ac amddiffyn tir ac unedau ar gyfer defnydd cyflogaeth.

 

Nodwyd y byddai llain o amgylch yr adeilad yn cynnwys 31 gofod parcio a byddai’r mynediad yn cael ei ddarparu trwy'r fynedfa gerbydol bresennol sy'n darparu mynediad o'r ffordd fewnol sy'n gwasanaethu’r parc busnes ehangach.

 

Er yn eithaf mawr, (arwynebedd llawr o 995m2 ac yn 8.2m at frig y to), byddai’r adeilad newydd o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n ddisgwyliedig oddi wrth adeiladau diwydiannol cyfoes. Ystyriwyd bod y dyluniad ac edrychiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisi PCYFF 3. Yn ychwanegol, byddai effaith ar fwynderau yn gallu cael ei reoli gydag amodau sy’n ymwneud ag oriau agor ac unrhyw beirianwaith allanol e.e. systemau echdynnu.

 

Derbyniwyd datganiad yn rhoi ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg ac fel rhan o’r broses ymgynghori, derbyniwyd sylwadau yn amlygu pryder am effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Mewn ymateb, derbyniwyd eglurhad gan yr ymgeisydd yn nodi na fydd yn gallu hysbysu’r unedau ar gyfer tenantiaid hyd nes bydd y cais yn derbyn caniatâd Cynllunio. Er mwyn hybu’r iaith Gymraeg roedd yr ymgeisydd wedi datgan ei barodrwydd i gydweithio gyda’r Uned Iaith a chreu ffeil trosglwyddo ar gyfer yr unedau fydd yn ymrwymo’r tenantiaid i’r Cynnig Cymraeg sydd yn unol â chyngor yr Uned Iaith.

 

Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi cael eu derbyn gan yr Uned Trafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad a bod datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei dderbyn oedd yn cydymffurfio gydag anghenion Polisi Cynllunio Cymru. O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir fel man cychwyn ar gyfer datblygiadau busnes ar y safle. Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)    Nododd y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro na allai fod yn bresennol, ond roedd wedi anfon y sylwadau canlynol drwy e-bost:

 

Does gen i ddim gwrthwynebiad mewn egwyddor i'r bwriad gan fod galw yn lleol am unedau diwydiannol o'r maint yma, ond mae gen i bryder nad yw'r datblygwr wedi darparu tystiolaeth ddigonol i ddangos sut byddai'r datblygiad yn cynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg.

 

Fodd bynnag rwy'n nodi parodrwydd y datblygwr i gydweithio gydag Uned Iaith y Cyngor er mwyn creu ffeil trosglwyddo ar gyfer yr unedau a fydd yn ymrwymo’r tenantiaid i "Gynnig Cymraeg" Comisiynydd y Gymraeg, ac edrychaf ymlaen at weld ffrwyth y gwaith hwn.

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais. Yn croesawu datblygiad ar y safle sydd wedi bod yn segur ers amser

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.         Caniateir defnyddio’r Unedau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8

5.         Amod tirlunio / gwelliannau bioamrywiaeth.

6.         Oriau Agor : 06:30 i 18:00 Llun i Gwener, 06:30 i 17:00 Dydd Sadwrn a 08:00 i 16:00 ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

7.         Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer allanol a osodir ar yr adeilad

8.         Ni ddylid dod ag unrhyw uned i ddefnydd hyd nes bydd cysylltiad gyda’r garthffos gyhoeddus wedi ei gwblhau.

9.         Dylid gweithredu’n unol a’r Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu a gyflwynwyd

10.       Amod Dŵr Cymru

11.       Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

 

Nodiadau

·         Dŵr Cymru

·         Uned Draenio Tir

·         Uned Iaith

 

Dogfennau ategol: