Agenda item

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y bartneriaeth, a bod y cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC erbyn hyn.

 

Tynnwyd sylw at y ddwy gronfa ecwiti sydd wedi bod yn weithredol ers dros 5 mlynedd bellach ac felly’n gyfnod rhesymol i asesu’r perfformiad. Cyfeiriwyd at berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Amlygwyd wrth yr Aelodau, bod y gronfa yma, ers ei sefydlu wedi disgyn tu ôl i’r meincnod a’r Bartneriaeth felly yn edrych ar opsiynau i ail ddatblygu'r gronfa yma.

 

Yng nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cael ei rheoli drwy arddull dull cyfunol gydag wyth rheolwr gwahanol. Er na fydd pob rheolwr yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar gyda Gwynedd yn buddsoddi £270 miliwn ynddo; gyda ffocws glir ar yr hinsawdd ac ar dargedau Sero Net. Amlygwyd bod y perfformiad wedi bod yn is na’r meincnod ers y dechrau a hynny oherwydd tan bwysau (underweight) stoc y sector ynni sydd wedi perfformio yn dda, arwahan i’r chwarter olaf. Nodwyd mai dyddiau cynnar yw hi i’r gronfa yma ac y bydd y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl.

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased, Enillion bond absoliwt, a Chredyd Byd Eang adroddwyd bod rhain yn hanesyddol wedi bod yn tanberfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda rhyfel Wcráin, cyfyngiadau cofid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym a chwyddiant uchel. Ategwyd, er pryderon, bod yr amodau yn dechrau gwella a bod cynnydd i’w weld ym mherfformiad y tri mis diwethaf. Gyda’r ymrwymiad yn un tymor hir, bod parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr amodau yn parhau i wella.

 

Adroddwyd bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn heriol iawn mewn nifer o wledydd a sectorau, ond y gobaith yw bydd gwellhad yn amodau’r farchnad a gwell dychweliadau.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat a dechrau buddsoddi yn y cronfeydd hyn. Nodwyd bod Cronfa Gwynedd yn gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Ategwyd bod y broses caffael ar gyfer Rheolwr Eiddo yn datblygu yn dda gyda gwahoddiad i dendro wedi ei ryddhau ym mis Ionawr a’r cynigion bellach yn cael eu gwerthuso - bydd y canlyniad yn dod i’r amlwg dros yr Haf. Bydd penodiad Rheolwr Eiddo yn cynnig opsiynau eiddo ehangach i’r Gronfa megis eiddo byd eang ac effaith (impact)

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad penodi Gweithredwr gyda’r cytundeb presennol yn dod i ben Rhagfyr 2024. Adroddwyd bod proses dendro agored wedi ei chynnal ynghyd â phroses werthuso gydag adroddiad yn argymell y cynigydd a ffafrir wedi ei gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu a’r wyth awdurdod cyfansoddiadol - unwaith bydd materion cyfreithiol wedi eu cwblhau, bydd manylion y cwmni llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn swyddogol yn yr wythnosau nesaf.

 

Tynnwyd sylw at ddatblygiad yn y maes ‘pleidleisio ac ymgysylltu’ ac at y gwaith da mae Robeco yn ei wneud yn y maes yma gyda diweddariadau yn cael i’w cyflwyno i’r Pwyllgor a'r Cydbwyllgor yn chwarterol. Er hynny, amlygwyd, bod sefyllfa wedi amlygu ei hun, pan fydd ymgysylltu gwael yn digwydd, mai anodd yw ymateb a gweithredu ar y sefyllfa. O ganlyniad, nodwyd bod PPC wrthi’n llunio polisi uwch gyfeirio er mwyn mynd i’r afael â hyn, sydd yn cael ei weld fel cam pwysig ymlaen.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Ystyriwyd bod y perfformiad yn dda ar y cyfan a bod y canran o 83%, sydd eisoes wedi ei fuddsoddi gyda’r Bartneriaeth, yn uchel iawn o gymharu ag eraill

·        Byddai cynnwys canran a symiau’r buddsoddiadau ymhob cronfa yn fanteisiol i’r dyfodol

 

Mewn ymateb i ddiweddariad penodiad y Gweithredwr newydd, nodwyd yr angen i gronfa Bensiwn Gwynedd, fel un o’r wyth Awdurdod Cyfansoddiadol fod yn barod i gefnogi'r cytundeb newydd. Ategodd y Rheolwr Buddsoddi bydd llawer yn dibynnu ar ddull y gweithredwr o weithredu ac ymateb i newidiadau gydag amryw o faterion angen eu sortio. Nodwyd y bydd y cyfnod yn cael ei weld fel cyfnod newydd gyda pharodrwydd i gydweithio a’r bwriad o weld swydd rhan amser yn cael ei chreu i gefnogi gwaith y Bartneriaeth.

 

Mewn ymateb i sefydlu polisi uwch gyfeirio sydd yn mynd i’r afael ag ymgysylltu gwael, cefnogwyd yr angen am ddull o ddelio gyda’r pryderon / materion cynhennus yn enwedig os yw penderfyniadau’r Darparwr yn effeithio ar enw da'r Bartneriaeth. Nodwyd y bydd hyn eto yn creu gwaith ychwanegol i swyddogion a gwnaed cais i sicrhau cefnogaeth.

 

Mewn ymateb i sylw bod yr enillion a’r perfformiad yn dda ond nad oedd y perfformiad yn erbyn y meincnod gystal â’r disgwyl, nodwyd, e.e, yn y cronfeydd ecwiti bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar opsiynau amgen ac yn y cronfeydd sefydlog bod yr amodau diweddar wedi bod yn heriol, ond bod rheolwyr yn monitro'r sefyllfa yn rheolaidd a’r penderfyniad wedi ei wneud i ddyfalbarhau. Mewn ymateb i gwestiwn atodol bod y sefyllfa / ffactorau / amgylchiadau heriol yn effeithio pawb, nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod rheolwyr buddsoddi gyda gwahanol arddull o weithio, amrywiaethau stoc i’w hystyried a gosodiad portfolio amrywiol - rhain yn elfennau all greu effaith. Ategwyd, gyda’r buddsoddiadau tymor hir hyn, ei fod yn parhau yn hyderus ac y bydd gwelliant yn debygol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ategol: