I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr
Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y bartneriaeth, a bod y
cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau
rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer
da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC
erbyn hyn.
Tynnwyd
sylw at y ddwy gronfa ecwiti sydd wedi bod yn weithredol ers dros 5 mlynedd
bellach ac felly’n gyfnod rhesymol i asesu’r perfformiad. Cyfeiriwyd at
berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu
arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Amlygwyd
wrth yr Aelodau, bod y gronfa yma, ers ei sefydlu wedi disgyn tu ôl i’r meincnod
a’r Bartneriaeth felly yn edrych ar opsiynau i ail ddatblygu'r gronfa yma.
Yng
nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cael ei rheoli
drwy arddull dull cyfunol gydag wyth rheolwr gwahanol. Er na fydd pob rheolwr
yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa
sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir.
Cyfeiriwyd
at berfformiad y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar gyda
Gwynedd yn buddsoddi £270 miliwn ynddo; gyda ffocws glir ar yr hinsawdd ac ar
dargedau Sero Net. Amlygwyd bod y perfformiad wedi bod yn is na’r meincnod ers
y dechrau a hynny oherwydd tan bwysau (underweight) stoc y sector ynni sydd
wedi perfformio yn dda, arwahan i’r chwarter olaf. Nodwyd mai dyddiau cynnar yw
hi i’r gronfa yma ac y bydd y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl.
Yng
nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased,
Enillion bond absoliwt, a Chredyd Byd Eang adroddwyd bod rhain yn hanesyddol
wedi bod yn tanberfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda
rhyfel Wcráin, cyfyngiadau cofid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym a
chwyddiant uchel. Ategwyd, er pryderon, bod yr amodau yn dechrau gwella a bod
cynnydd i’w weld ym mherfformiad y tri mis diwethaf. Gyda’r ymrwymiad yn un
tymor hir, bod parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr
amodau yn parhau i wella.
Adroddwyd
bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr
buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau
eto yn heriol iawn mewn nifer o wledydd a sectorau, ond y gobaith yw bydd
gwellhad yn amodau’r farchnad a gwell dychweliadau.
Cyfeiriwyd
at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud
yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y
mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat a dechrau buddsoddi yn y
cronfeydd hyn. Nodwyd bod Cronfa Gwynedd yn gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd
ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl.
Ategwyd bod y broses caffael ar gyfer Rheolwr Eiddo yn datblygu yn dda gyda
gwahoddiad i dendro wedi ei ryddhau ym mis Ionawr a’r cynigion bellach yn cael
eu gwerthuso - bydd y canlyniad yn dod i’r amlwg dros yr Haf. Bydd penodiad
Rheolwr Eiddo yn cynnig opsiynau eiddo ehangach i’r Gronfa megis eiddo byd eang
ac effaith (impact)
Cyfeiriwyd
at ddiweddariad penodi Gweithredwr gyda’r cytundeb presennol yn dod i ben
Rhagfyr 2024. Adroddwyd bod proses dendro agored wedi ei chynnal ynghyd â
phroses werthuso gydag adroddiad yn argymell y cynigydd a ffafrir wedi ei
gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu a’r wyth awdurdod cyfansoddiadol -
unwaith bydd materion cyfreithiol wedi eu cwblhau, bydd manylion y cwmni
llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn swyddogol yn yr wythnosau nesaf.
Tynnwyd
sylw at ddatblygiad yn y maes ‘pleidleisio ac ymgysylltu’ ac at y gwaith da mae
Robeco yn ei wneud yn y maes yma gyda diweddariadau yn cael i’w cyflwyno i’r
Pwyllgor a'r Cydbwyllgor yn chwarterol. Er hynny, amlygwyd, bod sefyllfa wedi
amlygu ei hun, pan fydd ymgysylltu gwael yn digwydd, mai anodd yw ymateb a
gweithredu ar y sefyllfa. O ganlyniad, nodwyd bod PPC wrthi’n llunio polisi
uwch gyfeirio er mwyn mynd i’r afael â hyn, sydd yn cael ei weld fel cam pwysig
ymlaen.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth ddilynol
·
Ystyriwyd bod y perfformiad yn dda ar y cyfan a bod
y canran o 83%, sydd eisoes wedi ei fuddsoddi gyda’r Bartneriaeth, yn uchel
iawn o gymharu ag eraill
·
Byddai cynnwys canran a symiau’r buddsoddiadau
ymhob cronfa yn fanteisiol i’r dyfodol
Mewn
ymateb i ddiweddariad penodiad y Gweithredwr newydd, nodwyd yr angen i gronfa
Bensiwn Gwynedd, fel un o’r wyth Awdurdod Cyfansoddiadol fod yn barod i
gefnogi'r cytundeb newydd. Ategodd y Rheolwr Buddsoddi bydd llawer yn dibynnu
ar ddull y gweithredwr o weithredu ac ymateb i newidiadau gydag amryw o
faterion angen eu sortio. Nodwyd y bydd y cyfnod yn cael ei weld fel cyfnod newydd
gyda pharodrwydd i gydweithio a’r bwriad o weld swydd rhan amser yn cael ei
chreu i gefnogi gwaith y Bartneriaeth.
Mewn
ymateb i sefydlu polisi uwch gyfeirio sydd yn mynd i’r afael ag ymgysylltu
gwael, cefnogwyd yr angen am ddull o ddelio gyda’r pryderon / materion
cynhennus yn enwedig os yw penderfyniadau’r Darparwr yn effeithio ar enw da'r
Bartneriaeth. Nodwyd y bydd hyn eto yn creu gwaith ychwanegol i swyddogion a gwnaed
cais i sicrhau cefnogaeth.
Mewn
ymateb i sylw bod yr enillion a’r perfformiad yn dda ond nad oedd y perfformiad
yn erbyn y meincnod gystal â’r disgwyl, nodwyd, e.e, yn y cronfeydd ecwiti bod
gwaith yn cael ei wneud i edrych ar opsiynau amgen ac yn y cronfeydd sefydlog
bod yr amodau diweddar wedi bod yn heriol, ond bod rheolwyr yn monitro'r
sefyllfa yn rheolaidd a’r penderfyniad wedi ei wneud i ddyfalbarhau. Mewn ymateb
i gwestiwn atodol bod y sefyllfa / ffactorau / amgylchiadau heriol yn effeithio
pawb, nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod rheolwyr buddsoddi gyda
gwahanol arddull o weithio, amrywiaethau stoc i’w hystyried a gosodiad
portfolio amrywiol - rhain yn elfennau all greu effaith. Ategwyd, gyda’r
buddsoddiadau tymor hir hyn, ei fod yn parhau yn hyderus ac y bydd gwelliant yn
debygol.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: