Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Pwysleisiwyd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn sefyll yn gadarn ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg gan beidio cyfaddawdu, gan ei fod yn gosod cynsail ar gyfer gweddill y Cyngor. Mynegwyd rhwystredigaeth nad yw cyfleusterau Cymraeg digonol yn cael ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru gan ymhelaethu bod trafodaethau yn aml yn cael eu cynnal yn y Saesneg. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain ar sicrhau bod cyfleusterau digonol yn cael eu defnyddio mewn cyfarfodydd ac o’r herwydd, tynnwyd sylw at lythyr a yrrwyd i Weinidog yr Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder y Tîm Arweinyddiaeth am y sefyllfa bresennol.

 

Adroddwyd bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cyngor yn cydweithio gyda nifer o gyrff cenedlaethol a rhanbarthol. Sicrhawyd yr aelodau bod swyddogion yn annog y cyrff hynny i geisio efelychu polisi iaith Cyngor Gwynedd a hyrwyddo defnydd mewnol o’r Gyrmaeg. Rhannwyd enghraifft o hyn sef bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r UwchYmgynghorydd  Iaith a Chraffu yn aelodau o Grŵp Llywio a sefydlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn datblygu modelau polisi i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Eglurwyd bod y Grŵp, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gan nifer o sefydliadau, yn caniatáu i swyddogion y Cyngor rannu profiadau megis datblygu polisi iaith, dulliau recriwtio, defnydd mewnol y Cyngor o’r Gymraeg, hyfforddiant ac anogaeth a gynigir i staff er mwyn datblygu eu hyder yn y Gymraeg. Ymhelaethwyd bod yna gynrychiolaeth o’r Cyngor ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gan nodi bod y Bwrdd wedi bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud gyda  materion recriwtio gweithlu diweddar er mwyn denu aelodau staff Cymraeg. Soniwyd hefyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd er mwyn datblygu prosiectau.

 

Esboniwyd bod gan y Cyfarwyddwr Statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyfrifoldebau penodol o ran hyrwyddo defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn y sector gofal. Eglurwyd y disgwylir bod pob awdurdod  lleol a Bwrdd Iechyd yng Nghymru, yn penodi uwch arweinydd yn ‘bencampwr’ y Gymraeg fel rhan o raglen waith ‘Mwy Na Geiriau’, gan gadarnhau mai’r Cyfarwyddwr Statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol) sy’n arddel y rôl honno yng Ngwynedd. Cadarnhawyd ei fod yn ofynnol yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant (Cymru) 2014 i’r ‘pencampwr’ sicrhau defnydd rhagweithiol o’r Gymraeg fel ei fod ar gael heb i ddefnyddwyr gorfod gofyn amdano. Pwysleisiwyd mai dyma yw’r arferiad o fewn Cyngor Gwynedd ers nifer o flynyddoedd a bod y Cyfarwyddwr yn defnyddio ei rôl fel ‘pencampwr’ a Chadeirydd ‘Mwy Na Geiriau’ er mwyn cynorthwyo eraill i fod yn rhagweithiol yn y Gymraeg. Ymhelaethwyd ei fod hefyd wedi bod yn feirniad ar wobrau cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru ar y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sector gofal yn ddiweddar.

 

Cydnabuwyd bod y defnydd o Saesneg o fewn technoleg gwybodaeth wedi bod yn her i’r Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf. Er hyn, ymfalchïwyd bod y mwyafrif helaeth o staff y Cyngor sy’n defnyddio cyfrifiaduron fel rhan o’u swyddi, yn gwneud hynny gyda meddalwedd Gymraeg ar eu dyfeisiau. Manylwyd bod hyn yn galluogi i swyddogion weithio ar e-byst, Microsoft Office a mwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod y newid hwn yn un sydd wedi bod yn peri gofid i rai aelodau staff, ond mae’r staff hynny yn hapus gyda’r meddalwedd wedi iddynt ddod i’r arfer ag o.

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol yn dîm o 25 swyddog sy’n gweithio ym maes cyfreithiol, etholiadau, cefnogi’r crwner yn ogystal â dyletswyddau priodoldeb sydd ynghlwm â’r Pwyllgor Safonau a rôl y Swyddog Monitro.

 

Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol yn hybu’r Gymraeg drwy ddarparu gwasanaeth i nifer o brif sefydliadau rhanbarthol a darparu cefnogaeth gyfansoddiadol iddynt fel rhan o rôl Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod lletya.. Manylwyd bod y Cyngor yn defnyddio’i gynrychiolaeth o fewn y sefydliadau rhanbarthol hyn i gynnal cyfarfodydd a pharatoi dogfennaeth ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.

 

Eglurwyd bod y gwasanaeth cyfreithiol hefyd yn cefnogi swyddogion y gwasanaeth etholiadau, gan ymateb i ddeddfwriaethau newydd yn barhaus drwy ddiweddaru polisïau. Nodwyd bod y Cyngor yn tynnu sylw’r llywodraeth a chyrff eraill at unrhyw angen ieithyddol Cymraeg sydd yn ddiffygiol er mwyn sicrhau bod darpariaeth o’r Gymraeg ym mhob agwedd o’r gwaith ble mae modd.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod sefyllfa recriwtio’r gwasanaeth cyfreithiol wedi gwella yn ddiweddar gan eu bod wedi llwyddo i ddenu swyddogion cymwysedig sy’n meddu â sgiliau Cymraeg. Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth hefyd wedi bod yn rhan o raglen Cynllun Yfory a phrentisiaid er mwyn addysgu sgiliau angenrheidiol i swyddogion ifanc newydd gan ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn ddwyieithog i’r dyfodol. Cydnabuwyd bod y gwasanaeth yn defnyddio gweithwyr dros dro o’i bryd i’w gilydd sydd ddim yn meddu ar sgiliau ieithyddol Cymraeg. Pwysleisiwyd eu bod yn cael eu cyflogi am gyfnod byr pan mae angen arbenigedd penodol gan nad yw’r arbenigedd ar gael gan swyddogion y Cyngor. Nodwyd bod y gwasanaeth yn symud i ffwrdd o ddefnyddio gweithwyr dros dro oherwydd llwyddiannau recriwtio ond mae’n annhebygol na fyddent yn stopio cael eu defnyddio’n gyfan gwbl oherwydd natur y gwaith mae’r gwasanaeth yn ymwneud ag o.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am sicrhau bod y Cyngor yn arwain ar faterion ieithyddol yn Genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: