I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned a thynnwyd
sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
Tynnwyd sylw at raglen Arfor
gan nodi bod Cyngor Gwynedd yn cymryd rôl arweiniol ar Fwrdd y prosiect.
Eglurwyd bod y Bwrdd yn y broses o werthusoeffaith y
prosiectau ar ardaloedd a thrigolion er mwyn derbyn cyllideb i’r dyfodol.
Atgoffwyd bod prosiect Arfor wedi ei ariannu hyd at
ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-25 ac felly mae’n bwysig gweithio ar geisio
derbyn ymrwymiad ariannol i’r dyfodol ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod cydweithio
pwysig yn mynd rhagddo rhwng siroedd rhanbarth Arfor
sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu arian
gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Prydain, gan gadarnhau fod cronfa
grant i fusnesau ar gael o’r gyllideb hon yn ychwanegol i brosiect Arfor. Eglurwyd bod telerau ac amodau a ddatblygwyd drwy
brosiect Arfor wedi cael eu cynnwys ar gyfer
ceisiadau busnesau am arian drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd. Eglurwyd y
golyga hyn bod rhaid i gwmnïau amlygu'r defnydd o Gymraeg a wneir fel rhan o’u
busnes yn ogystal â rhannu sut mae’r cwmni yn hybu’r iaith Gymraeg, wrth iddynt
wneud cais am arian. O ganlyniad i hyn nodwyd bod 79 busnes o Wynedd wedi
cwblhau asesiad ‘Cynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg yn ystod 2023/24 gydag
12 o’r cwmnïau hynny eisoes wedi derbyn yr achrediad. Cydnabuwyd na fydd yr un
anogaeth ar gael pan nad oes grantiau busnes ar gael. Er hyn, pwysleisiwyd bod
gwaith yn mynd rhagddo er mwyn gallu cynnig cymorth i fusnesau bychan i
gyrraedd yr achrediad gan Comisiynydd y Gymraeg. Ategwyd mai’r gobaith yw y
bydd cwmnïau yn cymryd y cyfle i ymgeisio am
achrediad ‘Cynnig Cymraeg’ yn wirfoddol i’r dyfodol ond nodwyd nad oes
modd i’r Adran eu gorfodi. Mynegwyd siomiant mai Gwynedd yw’r unig Sir yn y
gogledd sydd wedi gosod yr amod hwn ar geisiadau am grant busnes drwy’r Gronfa
Ffyniant Gyffredin.
Cadarnhawyd bod yr Adran wedi lawnsio Cynllun
Gwynedd ac Eryri 2035 sef Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy ar gyfer yr ardal
ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Atgoffwyd mai un o
flaenoriaethau clir y cynllun yw hybu perchnogaeth leol ac i ddatblygu
cyfleoedd i amlygu’r iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n treftadaeth.
Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fonitro’r effaith mae’r cynllun yn ei
gael ar y flaenoriaeth honno ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod y flaenoriaeth hon
wedi cael ei chynnwys fel cymal ac i’r adran gytuno i gefnogi digwyddiadau, er mwyn
sicrhau bod y digwyddiad yn cyrraedd gofynion y gofynion ieithyddol a
diwylliannol hynny.
Esboniwyd bod yr Adran wedi mabwysiadu mesurydd
newydd o fewn y maes twristiaeth marchnata a digwyddiadau, sef ‘Canran o
drigolion y Sir sy’n credu fod twristiaeth yn cael dylanwad cadarnhaol ar y
Gymraeg a diwylliant Cymru’. Nodwyd bod y mesurydd newydd hwn yn cael ei
gynnwys mewn holiadur blynyddol i drigolion Gwynedd. Eglurwyd y gobeithircasglu data o’r holiadur er mwyn mesur effaith y
gwaith a wneir o fewn y maes. Tybir mai dyma yw’r dull gorau o gael atebion
cadarnhaol gan ei fod yn galluogi cymunedau i ymrwymo cyn gymaint neu cyn
lleied ac maent yn ei ddymuno.. Ymhelaethwyd fod y mesurydd wedi cael ei
dreialu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru y llynedd a gobeithir bydd
siroedd eraill yn ymgorffi’r mesurydd yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae cydweithio gyda
busnesau gwyliau, lletyau gwyliau a meysydd carafanau er mwyn sicrhau bod yr
iaith yn amlwg yn eu diwylliant, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod gwaith
diddorol yn mynd rhagddo er mwyn annog busnesau i fod yn llysgenhadon yr iaith
Gymraeg. Cadarnhawyd bod hyn yn waith sydd wedi cael ei fabwysiadu o fewn y
Cynllun Economi Ymweld newydd ac mae gofyn i lysgenhadon gael ymwybyddiaeth o
ddiwylliant ac iaith yn ogystal â pharchu’r tirwedd a’r amgylchedd. Mynegwyd
gobaith bydd hyn yn cryfhau’r iaith gan y bydd ymwelwyr yn gweld y Gymraeg yn
glir wrth iddynt ddod i ymweld â’r ardal. Pwysleisiwyd bod y cynllun wedi cael
ei dreialu o fewn ardal Parc
Cenedlaethol Eryri a bod canlyniadau cadarnhaol wedi dod i law ac felly mai’r
gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn llwyddiant ar hyd Gwynedd gyfan, wrth i
becyn gwybodaeth gael ei rannu â busnesau.
Adroddwyd bod yr Adran yn parhau i gefnogi cwmnïau
a sefydliadau o fewn y maes amgueddfeydd a’r celfyddydau gan nodi bod effaith
ieithyddol a diwylliannol yn rhywbeth sy’n cael sylw. wrth fynd ati i’w
cefnogi. Cyfeiriwyd hefyd at brosiect Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Ymhelaethwyd bod yr adran yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar gynllun tymor
hir, a bydd cryn dipyn o amser yn mynd rhagddo cyn gweld newidiadau ac effaith
y cynllun hwn. Esboniwyd bod ennyn diddordeb gwirfoddolwyr sydd yn meddu a
sgiliau ieithyddol Cymraeg yn gallu bod yn her i’r Adran. Cydnabuwyd bod hyn yn
broblem sy’n peri gofid ers rhai blynyddoedd a'i fod yn her fwy mewn rhai
ardaloedd penodol o fewn y Sir. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cefnogi’r
ardaloedd hynny drwy gynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli drwy amrywiol
gynlluniau ar y cyd gydag ysgolion a cholegau er mwyn ennyn diddordeb siaradwyr
Cymraeg i wirfoddoli. Rhannwyd enghraifft o ble mae’r cynlluniau hyn wedi bod
yn llwyddiannus megis Storiel ym Mangor ble mae mwy o
wirfoddolwyr Cymraeg yn siarad erbyn hyn.
Rhannwyd enghreifftiau o sut mae llyfrgelloedd
Gwynedd yn cyfrannu i hybu’r iaith Gymraeg yn ogystal â darparu gwasanaeth yn
ddwyieithog. Pwysleisiwyd bod y gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn y
llyfrgelloedd yn boblogaidd iawn ymysg trigolion Gwynedd a manylwyd bod adborth
cadarnhaol gan fynychwyr di-gymraeg o’r ffordd mae’r llyfrgell leol yn hybu’r
Gymraeg yn effeithiol. Soniwyd bod gwasanaeth y llyfrgelloedd ar gael yn
ddwyieithog ar draws y Sir ond cydnabuwyd bod rhai sesiynau yn cael eu cynnal
ble nad oes modd cael yr holl ddeunyddiau yn Gymraeg yn achlysurol. Eglurwyd
bod yr Adran yn ymwybodol o’r broblem ac yn ystyried bod yr her yn codi mewn
rhai ardaloedd ble mae niferoedd gwirfoddolwyr Cymraeg yn isel. Pwysleisiwyd
bod yr Adran yn ymdrechu i gefnogi pawb sydd eisiau cynnal gweithgareddau o
fewn y llyfrgelloedd i allu gwneud hynny yn ddwyieithog. Cadarnhawyd bod polisi
iaith y Cyngor yn sicrhau nad oes unrhyw weithgaredd yn cael ei wneud yn
uniaith Saesneg, gan gydnabod bod rhai elfennau yn cael eu cynnal yn
ddi-gymraeg mewn achlysuron prin.
Adroddwyd bod cynnydd yn niferoedd staff yr adran
sydd wedi cwblhau hunanasesiad ieithyddol gan bwysleisio bod 96.65% o staff yr
adran wedi cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi. Nodwyd bod hyn yn gynnydd o’r
93% adroddwyd arno yn 2023. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi wynebu heriau wrth
geisio cyflogi swyddogion traethau a morwrol dros dro yng nghyfnod yr haf ac
wedi gorfod penodi timoedd ac unigolion di-gymraeg yn y gorffennol.
Ymhelaethwyd mai’r her sy’n codi o hyn yw nad ydynt yn gyflogedig â’r Cyngor am
gyfnod ddigon hir i gael eu trochi yn yr iaith. Pwysleisiwyd bod y Rheolwr
Morwrol yn cymryd camau gweithredol er mwyn sicrhau bod swyddogion yn siarad
Cymraeg gyda'i gilydd a chwsmeriaid ar bob cyfle.
Manylwyd bod materion ariannol yn rhwystr sy’n
wynebu’r Adran ar hyn o bryd. Eglurwyd bod cyfran helaeth o waith yr Adran yn
ddibynnol ar grantiau ac mae hynny yn ffordd dda o osod amodau ieithyddol o
fewn y Sir. Pwysleisiwyd bod digwyddiadau diwylliannol cyhoeddus rheolaidd yn
chwarae rôl bwysig wrth i bobl ymarfer eu sgiliau iaith yn gyhoeddus yn enwedig
os nad oes ganddynt fodd arall o wneud hynny. Cydnabuwyd bod sicrhau parhad
gwasanaeth neu ddigwyddiadau wrth i amrywiol grantiau ddod i ben yn gallu bod
yn heriol i’r Adran yn enwedig o ystyried heriau ariannol cyffredinol sy’n
wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn parhau i dargedu cyllideb
grant yn rheolaidd er mwyn sicrhau cefnogaeth i gymunedau i’r dyfodol.
Diolchwyd am
yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: