Agenda item

I ddarparu cefndir i Aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ben Swyddog Menter Iaith Gwynedd. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Fenter bellach wedi ymadael a’r enw ‘Hunaniaith’ gan ail-frandio yn enw ‘Menter Iaith Gwynedd’ a bod y fenter wedi cael ei gofrestru fel Cwmni nid er elw gyda’r Tŷ Cwmnïau o dan arweiniad pedwar o gyfarwyddwyr gwirfoddol. Ymhelaethwyd mai ei brif fwriad yw cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau ac ym mhob cymuned ledled Gwynedd.

 

Esboniwyd bod un aelod o staff y Fenter wedi gadael er mwyn gweithio gydag adran arall o fewn Cyngor Gwynedd. Cydnabuwyd nad yw’r swydd wag hon wedi cael ei lenwi ar hyn o bryd er mwyn esmwytho’r broses o allanoli o’r Cyngor. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn cynorthwyo i gyflogi swyddog newydd o fewn ardal Meirionnydd ar gyfer 2024/25

 

Eglurwyd bydd y Fenter yn troi’n annibynnol o fis Ebrill 2025, gyda’r tri swyddog cyfredol y Fenter yn parhau i fod yn gyflogedig gan y Fenter, yn ogystal â’r swyddog newydd yn ardal Meirionnydd. Cydnabuwyd bod oediad wedi bod yn y trosglwyddiad allanoli hwn, ond eglurwyd bod hynny wedi bod yn sgil cymhlethdodau ymrwymiadau pensiwn i swyddogion. Pwysleisiwyd bod Bwrdd Prosiect yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i ddatrys y trafferthion sy’n codi.

 

Adroddwyd ar ymgyrch sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mai sy’n ffocysu ar bobl sydd wedi symud i’r ardal a dysgu’r Gymraeg, gan rannu storïau astudiaethau achos o sut mae unigolion wedi llwyddo i fagu ymdeimlad o berthyn i gymdeithasau Gwynedd. Ymhelaethwyd bod ail gynllun ar y gweill gyda chymorth ‘Gareth yr Orangutang’ er mwyn egluro hanes yr iaith Gymraeg gyda phobl ifanc a rhannu syniadau am sut i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg, gan bwysleisio mai gwneud defnydd o’r iaith sy’n bwysig, nid poeni am unrhyw gamgymeriadau a wneir.

 

Rhoddwyd diweddarwyd bod y Fenter wedi bod yn cefnogi canolfannau trochi i gefnogi teuluoedd. Eglurwyd bod swyddogion yn darparu cyflwyniadau digidol i holl rieni mynychwyr canolfannau trochi yn dymhorol. Mewn ymateb i heriau mae’r addysgwyr yn ei gael ar ôl bod mewn canolfannau trochi ac yn dychwelyd i’r ysgol, cadarnhawyd bod y Fenter wedi comisiynu awdur i greu cynhyrchiad gyda mewnbwn y plant cyn ei berfformio i’r rhieni. Pwysleisiwyd mai’r Fenter bydd yn berchen y cynhyrchiad ac felly bydd modd ail-greu’r cynllun hwn mewn ardaloedd eraill yn ôl yr angen. Rhannwyd syniad y gallai’r Fenter ddefnyddio enghreifftiau o deuluoedd sydd wedi meithrin y Gymraeg yn dilyn y cynlluniau hyn er mwyn ysbrydoli eraill yn y dyfodol.

 

Ymfalchïwyd bod y Fenter wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn i gig a gynhaliwyd mewn ysgolion uwchradd yn ddiweddar. Eglurwyd bod Tara Bandito yn mynd o gwmpas i wneud gweithdai lles a rhannu gwybodaeth am ferched mewn cerddoriaeth cyn perfformio gig yn y prynhawn gyda’r band Skylark. Rhannwyd adborth gan un ysgol bod disgyblion wedi bod yn gwylio ar glipiau o’r artistiaid yn annibynnol, wrth iddynt fynychu gwers rydd yn y dyddiau yn dilyn y perfformiad, gan awgrymu bod plant a phobl ifanc yn mynd i gael eu denu at ddiwylliant Gymraeg modern pan maent yn cael eu cyflwyno iddo. Nodwyd bod y digwyddiad hwn wedi cael ei gynnal mewn chwe ysgol uwchradd yng Ngwynedd

 

Adroddwyd bod y Fenter wedi cyd-ariannu swydd gymunedol gyda chymorth yr Urdd acAdran Ieuenctid Cyngor Gwynedd. Esboniwyd ei bod yn swydd benodol er mwyn sefydlu aelwydydd Urdd newydd o fewn cymunedau gyda’r bwriad o dargedu disgyblion uwchradd blwyddyn 7 a 8. Cadarnhawyd bod aelwydydd newydd wedi agor yng Nghaernarfon ac yn y Felinheli yn ogystal â chlybiau’r Urdd mewn ysgolion megis Ardudwy. Manylwyd ar glwb yr Urdd Ardudwy, gan nodi bod nifer o’r plant ddim yn dod o gartrefi Cymreig ond eu bod wedi dechrau mynychu’r aelwyd wrth iddo fynd yn fwy poblogaidd. Diolchwyd i Cadi Roberts am ei gwaith o fewn y maes yma. Cadarnhawyd mai bwriad i’r dyfodol yw sicrhau bod gwirfoddolwyr yn dod ymlaen i gynorthwyo’r aelwydydd yn rheolaidd fel eu bod yn gallu rhedeg heb i swyddog cyflogedig fod yn bresennol pob tro. Gobeithiwyd y gellid denu gwirfoddolwyr drwy ganolbwyntio ar ardaloedd penodol gan geisio sicrhau bod digon o bobl yn helpu er mwyn i wirfoddoli peidio teimlo ei fod yn feichus.

 

Cyfeiriwyd at Lwyfan Llŷn gan fod y Fenter wedi cefnogi’r cynllun hwn wrth iddo gychwyn yn sgil Covid-19. Cadarnhawyd bod y grŵp yn cyfarfod yn wythnosol yn Sarn Meyllteryn. Tynnwyd sylw bod y cynllun hwn yn enghraifft o sut all y Fenter gefnogi cymunedau pan mae bwlch i’w weld yn y gymdeithas, a’i adeiladu i fod yn hunangynhaliol o fewn cymunedau heb fod yn ddibynnol ar y Fenter wrth iddo ddatblygu. Gobeithiwyd bydd y llwyddiant yma yn cael ei weld gyda Theatr Derek Williams yn y Bala wrth i’r Fenter gydweithio gyda nhw i ail-sefydlu clwb drama.

 

Diolchwyd i Meirion Owen, swyddog y Fenter yn ardal Bangor am drefnu digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor eleni. Pwysleisiwyd bod y Fenter wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau yn ogystal â gorymdaith gan sicrhau bod nifer o fusnesau a sefydliadau yn cydweithio gyda’i gilydd. Ymhelaethwyd bod nifer o sesiynau i ddysgwyr yn cael eu cynnal yn rheolaidd ym Mangor a phwysleisiwyd bod adborth cadarnhaol thu hwnt i’r sesiynau hyn.

 

Eglurwyd bod y Fenter yn cydweithio gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru gan fod y Gymdeithas yn tyfu wrth i fwy o deuluoedd symud i Fangor gyda myfyrwyr hŷn sy’n mynychu Prifysgol Bangor. Nodwyd bod cyfres o ddigwyddiadau ‘Croeso i’r Gymraeg’ wedi eu trefnu ar gyfer aelodau’r Gymdeithas a sesiynau cyffelyb i ddefnyddwyr gwasanaeth Adfer yn yr ardal. Esboniwyd bod y sesiynau hyn yn cael eu defnyddio fel cyflwyniad cychwynnol i’r iaith a gobeithir y bydd y mynychwyr yn dymuno derbyn gwersi Cymraeg ffurfiol i’r dyfodol.

 

Cydnabuwyd bod cyfran helaeth o waith y Fenter yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol megis Llŷn, Bangor-Ogwen a Phenllyn â’r Bala. Eglurwyd bod hyn yn fwriadol er mwyn gweithio ar lefel leol i greu gwahaniaeth y gellir eu tystiolaethu. Pwysleisiwyd mai pwrpas y fenter yw ‘Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Gwynedd gyfan’ a bwriedir allanoli i gynyddu capasiti er mwyn galluogi’r Fenter i ganolbwyntio ar bob ardal yng Ngwynedd.

 

Cytunwyd bod angen cydweithio gyda phobl ifanc sydd ar fin gorffen yn yr ysgolion uwchradd er mwyn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy cyson. Esboniwyd mai un her yw bod holl ddeunydd cyfryngau cymdeithasol yn Saesneg a bod hynny yn dylanwadu arnynt. Pwysleisiwyd bod y Fenter wedi bod yn gweithio ar nifer o gynlluniau megis cystadleuaeth Dydd Miwsig Cymru er mwyn annog pobl ifanc hŷn i ddefnyddio’r Gymraeg. Manylwyd ar gynllun cyffroes gydag MSparc ble mae meddalwedd newydd ar gyfer gemau fideo sy’n sicrhau bod defnyddwyr yn gallu sgwrsio gyda'i gilydd yn Gymraeg wrth iddynt chwarae ar ddyfeisiadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: