Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys
aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach
na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol
er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden.
Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi
datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.
Y ffordd i
wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu
torri.
Mae’r Cyngor yma
yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion
Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y
Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o
drenau trwy’r flwyddyn.
Penderfyniad:
Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o
bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond
yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma
yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio
neu ar gyfer pwrpasau hamdden.
Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau
torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.
Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o
drenau ac yn bendant dim eu torri.
Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i
Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y
nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn
dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau
trwy’r flwyddyn.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys aruthrol i economi
Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach na hynny mae
pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol er mwyn mynd
i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden.
Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau
torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.
Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o
drenau ac yn bendant dim eu torri.
Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i
Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y
nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid
edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bod
y Cyngor unwaith eto’n trafod sut mae Gwynedd wledig yn cael ei thrin gan y
sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan, ac yn ein gwaedu’n araf o’n
bodolaeth a’n troi i fod yn ddim byd mwy na Pharc Hamdden i Ymwelwyr.
·
Fel
un sy’n cynrychioli pentref Llanbedr ar y Cyngor, ei fod wedi blino clywed y
neges bod rhaid i’w etholwyr roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir, ac yn hytrach
ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Hawdd
dweud hynny os yn byw ar goridor yr M4 neu’r A55 efallai, ond rhywbeth sy’n
amhosib’ i’r sawl sy’n byw ar arfordir Orllewinol Gwynedd.
·
Bod
Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cael gwared â 4 trên y dydd, gyda thrên olaf y
dydd yn gadael Pwllheli am 17:42 rhwng Rhagfyr a Mawrth a 19:30 yn yr haf, a
thrên olaf y dydd yn gadael Machynlleth am 19:04 yn y gaeaf a 20:55 yn yr haf.
·
Bod
ganddo gyfarfod yn fuan gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a
Thrafnidaeth, Ken Skates, AS, i drafod Ffordd Osgoi Llanbedr, ac y byddai’n
codi’r pwynt ynglŷn â threnau hefyd, gan ei fod ar ddeall bod yr
Ysgrifennydd Cabinet wedi cymeradwyo’r newidiadau eisoes.
·
Y
dymunai ddiolch i’r ddau Aelod Seneddol, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville
Roberts, a hefyd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig, am
ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad llwyr i’r cynlluniau hyn.
·
Pan
gyfarfu Pwyllgor Rheilffordd Arfordirol y Cambrian ddiwethaf ar 22 Mawrth, ni
soniwyd gair gan Drafnidiaeth Cymru am y posibilrwydd o dorri nifer y trenau,
ac roedd Cadeirydd y Pwyllgor wedi cytuno i’w gais am gyfarfod brys o’r
Pwyllgor i drafod y sefyllfa.
·
Bod
Trafnidiaeth Cymru yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg. A wnaethpwyd asesiad o’r Gymraeg wrth wneud y
newidiadau hyn? Roedd yn ymddangos bod
Llywodraeth Cymru, trwy Drafnidiaeth Cymru, yn troi ei chefn unwaith eto ar ein
cadarnleoedd Cymraeg.
·
Petai
Cymru yn wlad annibynnol, gellid edrych ar beth sydd orau i ni yng Nghymru, a
byddai arian Trafnidiaeth Cymru yn aros yng Nghymru yn hytrach na chael ei
wario yn Lloegr ar brosiectau a elwir yn brosiectau Lloegr a Chymru.
·
Bod
Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi edrych ar ffigurau defnyddwyr y
gwasanaeth, ond yn amlwg roedd Cofid a’r gwaith sylweddol ar yr isadeiledd wedi
effeithio’n fawr ar y niferoedd dros y 3-4 blynedd ddiwethaf. Byddai gwasanaeth o safon, rheolaidd a
dibynadwy yn sicr yn arwain at gynnydd yn nifer y teithwyr.
Mynegodd aelodau
gefnogaeth frwd i’r cynnig. Nodwyd:-
·
Gyda
thoriadau i’r gwasanaethau bysiau eisoes, nad oedd Trafnidiaeth Integredig yn
bodoli bellach yn y rhan hwn o Gymru.
·
Bod
trigolion yn gaeth i’w cartrefi heb fywyd cymdeithasol, ac yn cael eu
hamddifadu o’r cyfle i ennill bywoliaeth mewn rhai achosion.
·
Y
byddai’n fuddiol gallu gwe-ddarlledu cyfarfod arbennig Pwyllgor Rheilffordd
Arfordirol y Cambrian ar 24 Mai fel y gall y cyhoedd weld yr hyn mae’r aelodau
yn ceisio ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa.
·
Nad
oedd Llywodraeth Cymru yn deall beth mae byw mewn ardal wledig yn ei olygu ac y
byddai cwtogi nifer y trenau yn cael effaith sylweddol ar economi a diwydiant
twristiaeth yr ardal.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-