Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i  gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol.  

 

Penderfyniad:

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Deddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod meddwl am y di-boblogi mawr fu yng nghefn gwlad dros y ganrif ddiwethaf yn codi pryder a hiraeth arno, a bod y di-boblogi hwnnw yn parhau.

·         Bod Cyngor Gwynedd wedi bod ar flaen y gad o ran yr argyfwng tai, ac wedi cymryd camau cadarnhaol mewn ymgais i ddatrys y broblem enfawr sy’n wynebu ein cymunedau.

·         Mai Deddf Eiddo yw’r cam naturiol nesaf er mwyn datrys yr argyfwng tai, gan y byddai deddf o’r fath yn cynnwys polisïau fydd yn rhoi cymunedau yn gyntaf, gan reoleiddio’r farchnad dai a sicrhau bod pobl leol yn cael cyfle teg i fyw yn eu cymunedau.

·         Y byddai Deddf Eiddo hefyd yn pwysleisio ar fuddsoddi yn lleol a chreu cyfle i gymunedau gael cymorth i brynu asedau yn y gymuned, fel sy’n digwydd yn yr Alban.

·         Y byddai’r Senedd yn trafod materion yn ymwneud â thai dros y misoedd nesaf ac roedd yn allweddol bod Deddf Eiddo yn cael ei derbyn fel rhan o amcanion y Llywodraeth.

 

Mynegodd aelodau gefnogaeth frwd i’r cynnig.  Nodwyd:-

 

·         Bod hyn yn rhan o’r un stori â’r cynnig blaenorol, sef sut mae sicrhau cymunedau iach a llewyrchus yng nghefn gwlad Cymru.

·         Bod Deddf Eiddo yn rhywbeth cwbl sylfaenol.  Heb bobl, ni ellir cael cymunedau; heb dai, ni ellir cael pobl i fyw yn y cymunedau hynny, a heb gymunedau ni fydd gennym economi yng nghefn gwlad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddiwygio brawddeg gyntaf y cynnig fel a ganlyn er mwyn gwneud y cynnig yn fwy penodol yn ddaearyddol:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol. 

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant ar y sail bod angen i ni edrych ar ôl ein pobl ein hunain.

 

Mynegodd aelod ei wrthwynebiad i’r gwelliant gan nad oedd yn diffinio ‘pobl leol’ tra bod y cynnig gwreiddiol yn cynnwys pawb.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro na chredai fod geiriad y gwelliant yn amhriodol gan fod ‘angen lleol’ yn derm cydnabyddedig ac mai cais am ddeddfwriaeth ydoedd yn ei hanfod.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd. 

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd y cynigydd mai ei bryder am y sefyllfa tai oedd un o’i brif resymau dros ddod yn gynghorydd, ac er bod y trafodaethau yn anodd, roedd yn bwysig bod pawb yn cydweithio er mwyn cael datrysiad i bobl Gwynedd, a hefyd pobl Cymru.

 

Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol.  Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Deddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol.