Agenda item

I graffu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ac ymateb y Cyngor i’r sylwadau.

Penderfyniad:

(i)    Derbyn yr adroddiad ac argymell i’r Cabinet y dylid cadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

(ii)  Gofyn i’r Aelod Cabinet Amgylchedd gyfleu’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth i’r Cabinet.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod angen i’r Cyngor gyflawni proses pedair cam wrth ymdrechu i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fewn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Nodwyd mai’r cam cyntaf oedd gosod Rhybudd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Manylwyd mai ail gam y broses oedd cynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus. Eglurwyd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad ym mis Awst 2023 am gyfnod o 6 wythnos gan gynnwys holiaduron, llythyru 52,000 o dai a holiadur pwrpasol ar wefan y Cyngor. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r gwasanaeth am sicrhau cyfnod ymgynghoriad a oedd yn ddwbl y gofyn statudol. Rhannwyd canmoliaeth gyda’r Adran am ddenu cynifer o ymatebion i’r ymgynghoriad, gan eu hannog i rannu arferion da eu profiad gydag adrannau eraill y Cyngor wrth iddynt ymgymryd ag ymgynghoriadau cyhoeddus yn y dyfodol. Tynnwyd sylw mai nifer isel iawn o bobl ifanc a ymatebodd i’r ymgynghoriad a chydnabuwyd bod ennyn diddordeb pobl ifanc i ymateb i ymgynghoriadau yn her sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Adroddwyd bod y Cyngor bellach wedi cyrraedd trydydd cam y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd gan ei fod yn ystyried ymatebion y cyfnod ymgynghori. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi derbyn 3902 o ymatebion. Eglurwyd bod y Cyngor wedi dyrannu ei ymateb i sylwadau a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad i mewn i themâu ac is-themâu o fewn yr adroddiad. Ymhelaethwyd nad oes unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi ei ganfod sydd yn cyfiawnhau peidio â chadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl yn seiliedig ar asesiad o’r ymatebion i’r sylwadau sydd wedi ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus, ystyriaeth o’r dystiolaeth sydd yn y papur cyfiawnhad Erthygl 4 a’r gwaith ymchwil pellach a wnaed mewn ymateb i rai o’r sylwadau a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i allu’r Cyngor i weithredu’r cyfarwyddyd pe byddai’n cael ei gyflwyno. Ystyriwyd os byddai un dull canolog o weithredu a gorfodaeth yn effeithiol yng Ngwynedd.  Nodwyd nad oes gan y Cyngor llawer o reolaeth ar faterion newid dosbarth defnydd tai ar hyn o bryd ac felly pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael ymyrraeth gadarn er mwyn gwarchod y stoc dai tra hefyd yn gwarchod cymunedau a’r anghenion tai a welir mewn amrywiol gymunedau ledled y Sir. Oherwydd hyn, cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi cwblhau ymchwil manwl ar ddulliau addas o sefydlu prosesau ymyrraeth ariannol, cynllunio, cofrestriadau a thrwyddedu a chadarnhawyd bod angen gweithdrefnau amrywiol ar gyfer y rhain yn hytrach na un system ganolog er mwyn delio gyda sefyllfaoedd yn ddigonol. Pwysleisiwyd bod y cyfarwyddyd yn ffocysu ar y defnydd o’r eiddo ac unrhyw newid i ddefnydd, nid ei berchnogaeth ac felly ni fydd rhaid i unigolion dderbyn caniatâd cynllunio wrth brynu tai.

 

Cydnabuwyd nad yw’r Cyngor wedi darparu asesiad effaith economaidd yn benodol ar golli incwm o’r farchnad eilaidd i‘r sector gwestai,  bobl sy’n gwario arian yn y siopau a’r cyfyngiadau sy’n cynnig cyfleoedd busnes a chyflogaeth i bobl. Er hyn, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cwblhau asesiad effaith trylwyr ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol. Ymhelaethwyd bod polisïau twristiaeth a’r Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi eglurder ar nifer o bwyntiau i’w hystyriaeth megis darparu diffiniad o ystyr ‘gormodedd’ ac yn rhannu ystyriaethau am warchod stoc dai cymunedau Gwynedd. Mewn ymateb i ymholiad ar gysyniad darparwyr morgeisi lleol byddai cyflwyno’r cyfarwyddyd yn cymhlethu neu atal ceisiadau morgeisi, cadarnhaodd y swyddogion eu bod wedi bod mewn cyswllt gyda darparwyr morgeisi nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf ac nid ydynt wedi gallu darparu tystiolaeth o sut byddai’r cyfarwyddyd yn effeithio ar allu i ganiatáu morgeisi yn negyddol. Pwysleisiwyd na ragwelir hyn fel rhwystr i gymeradwyo’r cyfarwyddyd a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar y mater hwn cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Mewn ymateb i ymholiad os yw’r asesiadau economaidd yn ddigonol a digon manwl o ystyried nad oedd asesiad effaith economaidd penodol, cadarnhawyd bod y gwasanaeth yn derbyn cefnogaeth barhaus gan Wasanaeth Cyfreithiol y Cyngor er mwyn ystyried a datrys unrhyw risgiau sy’n codi. Oherwydd hynny, ystyriwyd bod y Cyngor yn rheoli risgiau sy’n codi mor effeithiol a bod modd. Pe dymunai’r Pwyllgor, gellid gofyn i’r cyfreithwyr am gadarnhad pellach o’r risg yng nghyswllt asesiad o’r effaith economaidd. Nodwyd hefyd bod y Polisi Cynllunio cyfredol yn rhoi ystyriaeth i letyau gwyliau ac yn gwarchod stoc dai'r Sir. Sicrhawyd bydd gwybodaeth am effaith Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gynnwys o fewn y Canllaw Cynllunio Atodol os byddai’n cael ei gymeradwyo gyda’r weledigaeth o addasu’r polisïau yn y dyfodol i roi eglurder ar weithrediad Erthygl 4 mewn manylder. Sicrhawyd bydd data trylwyr wedi cael ei gasglu cyn newid polisïau’r Cyngor yn ogystal â fframwaith monitro gyda dangosyddion penodol er mwyn asesu effaith y cyfarwyddyd. Adroddwyd y gobeithir i’r cyfarwyddyd ddod i rym ar 1 Medi 2024 ac felly bydd hyn yn caniatáu amser i’r Cyngor gasglu data ac ystadegau priodol.  

 

Sicrhawyd bod y gwasanaeth yn ymchwilio i sgil effeithiau posib cyflwyno cyfarwyddyd erthygl 4 o fewn awdurdod cynllunio Gwynedd er mwyn bod yn ymwybodol o ystyriaethau ychwanegol os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r cyfarwyddyd. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o unrhyw heriau fel maent yn codi er mwyn delio â hwy yn effeithiol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor i’r dyfodol gan gynnwys adnoddau a swyddogion i fonitro a gorfodi’r cyfarwyddyd. Ymhelaethwyd os oes modd ailedrych ar drefniant ffioedd torri amodau cynllunio er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cadw eu gafael ar yr arian hynny. Sicrhawyd bod swyddogion yn ystyried materion o’r fath gan nodi eu bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y mater. Cydnabuwyd bod y gwasanaeth angen cymorth ychwanegol gan gyfeirio at gynlluniau recriwtio a ddatblygwyd i swyddogion fod yn y rolau erbyn 1 Medi yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cabinet i’r cyfarwyddyd.

 

Nodwyd pwysigrwydd sicrhau bod fframwaith monitro gan gynnwys mesurau monitro mewn lle pe cyflwynir y cyfarwyddyd.

 

Awgrymwyd y dylid darparu taflen wybodaeth i Gynghorwyr yn cynnwys gwybodaeth o ran y newid yn y byrdymor a’r hirdymor yn sgil gweithredu’r cyfarwyddyd. Nodwyd pwysigrwydd cyfathrebu i’r cyhoedd beth fyddai gweithredu’r cyfarwyddyd yn ei olygu.

 

Diolchwyd i Awdurdodau Lleol cyfagos ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am eu cydweithrediad clos drwy gydol y broses hyd yma. Cadarnhawyd y dymunir i’r berthynas hon barhau i’r dyfodol gan sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu er mwyn cyfarch anghenon cymunedol yn effeithiol.

 

Eglurwyd byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet gyda sylwadau’r Pwyllgor hwn er mwyn iddynt wneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 neu beidio. Manylwyd bydd rhaid i’r Cyngor weithredu ar roi cyhoeddusrwydd i’r penderfyniad o gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn unol â gofynion statudol. Ymhelaethwyd y gobeithir cynnal sesiynau gwybodaeth i aelodau etholedig y Cyngor er mwyn rhannu gwybodaeth fanwl am y cyfarwyddyd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)         Derbyn yr adroddiad ac argymell i’r Cabinet y dylid cadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

(ii)        Gofyn i’r Aelod Cabinet Amgylchedd gyfleu’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth i’r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: