Agenda item

I roi diweddariad ar raglan waith archwilio a thrin clwyf gwywiad yr onnen ac ar weithgareddau’r tîm yn gyffredinol.

Penderfyniad:

(i)             Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)            Bod y Pwyllgor yn ystyried blaenoriaethu’r mater i’w graffu yn ystod 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran.

 

Cyfeiriwyd at ddau wall yn yr Adroddiad, gan gywiro bod 1550 o goed risg uchel wedi cael eu torri neu thocio hyd yma, o’i gymharu â’r ffigwr o 710 o goed fel nodwyd ym mharagraff 3.4 yr Adroddiad. Aethpwyd ymlaen i nodi mai tystiolaeth ail law sy’n awgrymu bod clwyf gwywiad yr onnen yn peri llai o risg wrth i amser fynd rhagddo, parthed y wybodaeth a gyflwynwyd ar ddechrau paragraff 5.1 o’r Adroddiad.

 

Eglurwyd bod clwyf gwywiad yr onnen wedi ymledu i Gymru ers nifer o flynyddoedd ac amcangyfrifwyd bydd 80% o goed ynn yn cael eu heffeithio’n andwyol ganddo. Cadarnhawyd bod tîm wedi cael ei sefydlu o fewn yr adran er mwyn delio gyda’r heriau mae’n ei achosi. Pwysleisiwyd bod ymateb i’r clwyf yn flaenoriaeth ar gofrestr risg corfforaethol y Cyngor. Manylwyd bod y Cyngor wedi ariannu archwiliad cychwynnol yn 2020 er mwyn gweld effaith y clwyf yn yr ardal ar stoc goed y Cyngor. Cydnabuwyd bod risg uchel gan fod nifer uchel o goed eisoes wedi cael eu heintio. O ganlyniad, penodwyd tîm arbenigol pwrpasol i ymchwilio i’r haint ar ffyrdd a thiroedd y Cyngor.

 

Adroddwyd mai un o brif rolau’r tîm yw cynnal archwiliadau ar stoc goed y Cyngor ar ffyrdd a thiroedd y Sir. Nodwyd bod y tîm yn gwneud y gwaith hwn eu hunain ar brydiau ond hefyd yn defnyddio archwilwyr arbenigol er mwyn sicrhau bod pob ardal yn cael archwiliadau yn amserol, gan bwysleisio nad yw unrhyw archwilwyr allanol yn gweithredu ar goed sydd wedi eu heintio. Cadarnhawyd mai dyma’r trefniant oherwydd bod yr Adran yn gyfrifol am oddeutu 3,000km o ffyrdd yn ogystal â thiroedd eraill. Manylwyd bod yr Adran wedi datblygu system blaenoriaethu er mwyn cynnal archwiliadau gan sicrhau bod y flaenoriaeth uchaf yn cael ei roi i goed ynn sydd ger ysgolion, ffyrdd, mynwentydd, parciau a lleoliadau cyffelyb. Nodwyd bod y tîm yn gyfrifol am drin y coed os yw’r archwiliadau yn nodi eu bod wedi eu heintio. Cadarnhawyd bod y rhain yn mynd ar raglen waith y tîm gan sicrhau bod yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu blaenoriaethu.

 

Rhannwyd diweddariad bod yr Adran wedi comisiynu Ymgynghoriaeth Gwynedd i ddatblygu’r defnydd o ddrôn i gynnal archwiliadau, gan fod modd iddynt weithio ar raddfa eang iawn na gweithwyr ar droed. Nodwyd bod canlyniadau yn foddhaol iawn ar hyn o bryd a gobeithiwyd bydd hyn yn ddull bydd yn cael ei ddefnyddio’n gyson er mwyn cynnal archwiliadau ar goed. Ymhelaethwyd bod y tîm wedi bod mewn cyswllt gyda Choleg Glynllifon ac mae disgyblion yno wedi cael hyfforddiant ar dechnoleg newydd yr un pryd a’r tîm ar y dulliau technolegol newydd o archwilio am yr haint.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r adran yn torri’r coed i lawr unwaith maent wedi eu heintio. Adroddwyd bod y tîm yn ceisio achub gymaint â bod modd drwy docio digon arnynt fel eu bod yn ddiogel i’r cyhoedd a ddim yn effeithio ar rywogaethau. Sicrhawyd bod coed newydd yn cael eu plannu am bob coeden mae’r tîm yn eu torri lawr.

 

Sicrhawyd bod dros 23,000 o goed bellach wedi cael eu harchwilio gan y tîm ac o’r rheini mae 8,000 wedi cael eu nodi fel coed risg uchel oherwydd yr haint. Ymhelaethwyd bod 1,550 ohonynt eisoes wedi derbyn triniaeth a bod 30 o goed ar diroedd ysgolion wedi cael eu canfod i fod mewn cyflwr eithriadol o wael ac wedi derbyn ymyrraeth yn syth.

 

Soniwyd bod y tîm hefyd yn cynorthwyo swyddogion eraill y Cyngor ar faterion sydd yn ymwneud â choed. Trafodwyd bod y nifer o geisiadau yn cynyddu wrth i amser fynd yn ei flaen ac yn  gosod pwysau ar y tîm. Ychwanegwyd bod y tîm yn cydweithio gyda’r adran Amgylchedd ac yn eu cynorthwyo o fewn eu rôl gyda Phartneriaeth Natur Gwynedd.

 

Ystyriwyd bod tystiolaeth ail law gan Awdurdodau Lleol eraill yn awgrymu bod y clwyf yn lleihau mewn ardaloedd ar ôl cyfnod o amser. Er hyn, pwysleisiwyd ei fod yn dystiolaeth ail law ac nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r safiad hwn. Nodwyd bod y sefyllfa yng Ngwynedd yn dangos bod y clwyf yn parhau i fodoli yma a bod gan y tîm gwaith dros nifer o flynyddoedd i’w reoli.

 

Cadarnhawyd mai tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am gynnal coed sy’n tyfu ar eu tiroedd a bod ganddynt ddyletswydd gofal i sicrhau nad ydynt yn fygythiad i bobl nac eiddo. Eglurwyd bod y tîm wedi canfod 700 o goed risg uchel sy’n deillio o diroedd preifat a bod ganddynt bŵer o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i fynd ar ôl tirfeddianwyr i wneud coed peryglus yn ddiogel. Er hyn, cydnabuwyd nad yw’r tîm wedi cael cyfle i fynd ar ôl y tirfeddianwyr hyn hyd yma oherwydd adnoddau annigonol.

 

Cydnabuwyd bod y tîm yn dibynnu ar gontractwyr i waredu coed sydd wedi cael eu torri lawr oherwydd yr haint. Ystyriwyd bod defnydd gwell i’r coed fel asedau i’r Cyngor a rhannwyd ystyriaethau gyda phartneriaethau er mwyn sychu’r coed er mwyn gallu ei ddefnyddio i’r dyfodol ar wahanol brosiectau. Er hyn, cadarnhawyd nad yw’r arbenigedd yn y Cyngor ar hyn o bryd a bydd unrhyw ddatblygiadau yn y maes hwn yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Esboniwyd bod gan y Cyngor Polisi Rheoli Coed ers nifer o flynyddoedd ond ei fod wedi dyddio erbyn hyn. Cadarnhawyd bod gweithgor wedi cael ei sefydlu, gyda rôl arweiniol gan yr Adran a’r tîm, er mwyn edrych i mewn i’r polisi gan ei ddiweddaru yn ôl yr angen. Gobeithiwyd bydd y polisi diwygiedig yn weithredol o fewn y flwyddyn bresennol ond pwysleisiwyd bod angen cymeradwyaeth adrannau eraill y cyngor megis adrannau Addysg a Thai ac Eiddo er mwyn iddo fod yn weithredol, gan ei fod yn effeithio ar eu tiroedd. Ymhelaethwyd bod gofynion statudol yn nodi’r angen i archwilio coed risg uchel pob dwy flynedd ac felly cydnabuwyd byddai hyn yn her i’r tîm. Cadarnhawyd bydd y tîm yn cael sgyrsiau pellach gyda’r Adran er mwyn cynhyrchu bid am arian i gynorthwyo gyda’r gofynion hyn tra mae polisi newydd yn cael ei ddatblygu i ganfod y ffordd orau ymlaen.

 

Cyfeiriwyd at rai o heriau eraill sy’n wynebu’r tîm. Nodwyd bod cyfathrebu gydag awdurdodau lleol eraill yn ddefnyddiol ond ar hyn o bryd nid yw’r tîm yn derbyn arweiniad o hyn gan fod Cyngor Gwynedd ar y blaen i ymdrin â’r clefyd. Cyfeiriwyd hefyd at yr heriau all godi wrth archwilio coed megis mai dim ond rhwng mis Mai a Medi yn flynyddol mae modd cynnal archwiliadau gan mai dyna pryd mae dail ar y coed.

 

Nodwyd bod yr Adran wedi cychwyn trafodaethau gydag adrannau eraill y cyngor er mwyn derbyn mewnbwn ar sefydlu ‘siop un stop’ ble mae holl ymholiadau am goed yn cael eu hymdrin gan un tîm. Esboniwyd bod hyn yn deillio o’r ffaith bod arbenigedd adrannau am goed yn amrywio o adran i adran ac felly byddai canoli’r arbenigedd hwnnw yn hwyluso datrysiadau i ymholiadau i’r dyfodol. Eglurwyd mai trafodaethau cychwynnol sydd wedi cael eu cynnal hyd yma, a bydd diweddariadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.

 

Pwysleisiwyd bod y clwyf yn her fawr o fewn y Sir, gan fod yr archwiliadau a wneir gan y tîm yn rhai sydd yn effeithio’r cyhoedd neu ar dir y Cyngor, gan nodi bod posibilrwydd bod y clwyf i’w weld ar dir  preifat hefyd. Ar ddiwedd y drafodaeth, gofynnodd yr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried rhaglennu diweddariad ar y mater yn 2025-26.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

(i)             Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)           Bod y Pwyllgor yn ystyried blaenoriaethu’r mater i’w graffu yn ystod 2025/26.

 

Dogfennau ategol: