Agenda item

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau ar ei drwydded yrru, y gollfarn am drosedd gyrru difrifol a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y gollfarn am yrru difrifol wedi digwydd yn Ionawr 2016 ac nid  Mehefin 2015 fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dyddiad arwyddo’r cais (27-02-2005) nododd yr ymgeisydd mai camgymeriad oedd hwn a’i fod wedi cymysgu’r dyddiad gyda phen-blwydd aelod o’r teulu.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ebrill 2023 derbyniodd yr ymgeisydd chwe phwynt cosb ar ei drwydded am beidio â datgelu gwybodaeth am bwy oedd gyrrwr y car ac ati

 

Yn Mai 2023, derbyniodd yr ymgeisydd dri phwynt cosb ychwanegol ar ei drwydded am Dorri Cyfyngiad Cyflymder ar Ffordd Gyhoeddus

 

Yn Ionawr 2016 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am drosedd o Achosi Digwyddiad Peryglus ar Ffordd neu dros Ffordd, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £155, Costau o £85 a Chostau Ychwanegol o £20

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

Mae paragraff 12.4 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni mwy nag un trosedd traffig difrifol o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf ac na ddylid ystyried unrhyw gais pellach hyd nes bod cyfnod o 3 blynedd oleiaf wedi mynd heibio yn rhydd o gollfarn.

 

Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig yn ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb.  

 

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu.

 

Yn yr achos yma, nid oedd gan yr Is-bwyllgor reswm i wyro oddi wrth ddarpariaethau'r polisi a bod yr ymgeisydd yn addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Er hynny, roeddynt yn bryderus bod gan yr ymgeisydd duedd o geisio osgoi cyfrifoldeb ac o geisio esgusodi ymddygiad oedd yn drosedd. Wrth egluro rhesymau dros dorri'r terfyn cyflymder, rhaid cydnabod bod goryrru yn drosedd beth bynnag yw’r amgylchiadau - mewn geiriau eraill, goryrru yw goryrru. Pwysleisiodd yr Is-bwyllgor bod disgwyl i yrwyr sicrhau safon uchel o ymddygiad wrth yrru tacsi ac i adrodd i’r Uned Trwyddedu ar unrhyw ddigwyddiad perthnasol neu ddiweddariad, yn unol ag amodau’r drwydded.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.