Agenda item

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cydnabod y gollfarn ar ei ffurflen gais am drwydded.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn. Nododd bod y digwyddiad yn un a ddigwyddodd pan oedd oddeutu ugain oed. Mi blediodd yn euog i’r cyhuddiad ac nid oedd wedi troseddu ers hynny.

 

PENDERFYNWYD

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ebrill 1987, derbyniodd yr ymgeisydd golfan yn Llys Ynadon Bangor am Achosi Niwed Corfforol Difrifol yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A47. Derbyniodd ddirwy o £50, Costau o £80 a Chostau ychwanegol o £20

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu’r cais gan fod yr unig gollfarn wedi'i chyflawni 37 mlynedd yn ôl sydd bell tu hwnt i’r cyfnod tair blynedd ac nad oedd unrhyw dystiolaeth o gam ymddwyn ers hynny. Diolchwyd i’r ymgeisydd am fod yn onest ac agored wrth drafod cefndir ei gollfarn.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.