Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd
wedi cydnabod y gollfarn ar ei
ffurflen gais am drwydded.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir
y gollfarn. Nododd bod y digwyddiad yn un a ddigwyddodd yn ystod ysgariad
anodd. Pwysleisiodd bod y gollfarn yn un di-drais (A2) ac yn ymwneud
â diffyg cyfathrebu. Ategodd ei fod
bob amser yn egluro’r sefyllfa gyda chyflogwyr a’i fod yn
teimlo embaras o’i ymddygiad.
PENDERFYNWYD
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Datganiad DBS
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Mawrth
2017, derbyniodd yr ymgeisydd
golfan yn Llys Ynadon Gwynedd am ymddygiad oedd
yn gyfystyr ag aflonyddu, yn groes
i Ddeddf Diogelu Rhag Aflonyddu 1997 A.2(1) +
A.2(2). Derbyniodd yr ymgeisydd
ddedfryd o 20 wythnos wedi ei ohirio
am 18 mis ynghyd a dirwy o £425, gofyniad i ymgymryd â gwaith di-dâl a gweithgaredd adsefydlu. Gosodwyd gorchymyn atal ar yr ymgeisydd
hefyd.
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0
o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod
gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.2
yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais
yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried
ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.
CASGLIADAU
Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad
yr ymgeisydd o’r amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu’r cais gan fod yr unig
gollfarn wedi'i chyflawni 7 mlynedd yn ôl sydd
bell tu hwnt i’r cyfnod tair
blynedd ac nad oedd unrhyw dystiolaeth
o gam ymddwyn ers hynny. Derbyniwyd bod y drosedd wedi digwydd
yn ystod cyfnod o amgylchiadau personol anodd a diolchwyd i’r ymgeisydd
am fod yn onest ac agored wrth drafod cefndir
ei gollfarn, gan gydnabod a derbyn cyfrifoldeb am ei ymddygiad yn
llawn. Nid oedd tystiolaeth o unrhyw gollfarnau pellach ac felly roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i gael
trwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd