Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a
ganlyn:-
Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru
wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu'r penderfyniad, a gofyn am
ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
Mae’r penderfyniad gan
Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau
canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u
canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau
canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Mae’r Cyngor hwn yn gwrthwynebu'r
penderfyniad, ac yn gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan
Lywodraeth Cymru.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu’r
penderfyniad, a gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan
Lywodraeth Cymru.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Flwyddyn
a hanner yn ôl, y bu i’r Cyngor bleidleisio yn unfrydol o blaid ei chynnig yn
galw ar y cyrff perthnasol i gadw canolfannau Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle
a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol, ond
roedd y penderfyniad diweddar i gau’r canolfannau hynny yn siomedig a thorcalonnus,
ac yn ergyd drom i Wynedd gyfan.
·
Y
daeth Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru, sy’n cynnwys pedwar Aelod Lleyg a saith
Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cymru, i benderfyniad mwyafrifol ddiwedd Ebrill i
dderbyn argymhellion Adolygiad Gwasanaeth y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo
Meddygol Brys (EMRTS), i uno canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng
ar safle newydd yng nghanol Gogledd Cymru, gyda’r union leoliad i'w benderfynu.
·
Bod
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys – y ddau ranbarth iechyd sydd
yn benodol am gael eu heffeithio yn sgil y penderfyniadau - yn erbyn y
penderfyniad, ond ni wrandawyd o gwbl ar angen na barn cyhoedd yr ardaloedd hyn
ar y mater. Gan hynny, roedd yn ofynnol
ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd a chynnal ymchwiliad llawn i'r penderfyniad.
·
Bod
yr argymhellion yn nodi y bydd y penderfyniad hwn yn galluogi mwy o bobl i elwa
ar yr arbenigedd clinigol a gaiff ei ddarparu gan dimau'r gwasanaeth gofal
critigol hwn a hefyd yn cynnwys darparu gwasanaeth pwrpasol ychwanegol ar y ffyrdd
ar gyfer cymunedau gwledig. Fodd bynnag,
fel roedd Aelodau Seneddol Gwynedd wedi nodi, roedd yna gwestiynau cwbl ganolog
sydd heb eu hateb eto, yn enwedig o gwmpas y ddarpariaeth bwrpasol ychwanegol
ar y ffyrdd, ac roedd y cyfan yn parhau yn gwbl amwys.
·
Na
chredid bod synnwyr o gwbl symud y canolfannau o Ddinas Dinlle a’r Trallwng, ar
gyrion rhai o ardaloedd mwyaf pellgyrhaeddol a gwledig Cymru, a’u hail-leoli
mewn ardal boblog ar gyrion yr A55 yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
·
Bod
rhaid amlygu ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, ac fel aelodau
etholedig i elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a thimau clinigol Gwasanaeth Casglu a
Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) GIG Cymru.
Mae’r gwaith a’r gwasanaeth gwych maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu
gofal brys yn ein cymunedau yn hollol amhrisiadwy, ac mae elusen Ambiwlans Awyr
Cymru yn un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl.
·
Y
dymunai hefyd ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgysylltu dros y
misoedd diwethaf, a bod y gefnogaeth gref iawn yn lleol i gadw’r safleoedd hyn
yn eu lleoliadau presennol yn amlwg yn ystod y broses ymgysylltu.
Mynegodd nifer o
aelodau gefnogaeth frwd i’r cynnig.
Nodwyd:-
·
Ei
bod yn rhy hawdd dweud y bydd y newidiadau yn arwain at well gwasanaeth, a bod
rhaid mynnu’r dystiolaeth a’r manylion sy’n dangos hynny.
·
Yr
erfynnid ar yr holl aelodau i arwyddo a rhannu’r ddeiseb ar wefan Senedd Cymru
yn galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r
Trallwng.
Yn ei sylwadau
cloi, nododd y cynigydd bod y 3 chynnig gerbron y cyfarfod hwn o’r Cyngor yn
ymwneud â’r cam mae ein hardaloedd gwledig yn gael gan y sefydliadau canolog, a
phwysleisiodd bwysigrwydd parhau i gydweithio ac i ymgyrchu yn erbyn y
penderfyniad i gau canolfannau ambiwlans awyr Dinas Dinlle a’r Trallwng.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru
wledig. Mae’r Cyngor hwn yn
gwrthwynebu'r penderfyniad, ac yn gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r
penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.