Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Paul Rowlinson

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2023/24:

Colofn A

Colofn B   Colofn C

Colofn Ch

Gor /

(Tan)

Wariant Gros

2023/24

Addasiadau a Argymhellir

Gor/ (Tan) Wariant

Addasedig

2023/24

£ '000 

£'000

£'000

£ '000 

Oedolion, Iechyd a Llesiant

3,906

(3,806)

0

100

Plant a Theuluoedd

2,611

(2,511)

0

100

Addysg

0

0

0

0

Economi a Chymuned

308

0

(308)

0

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

687

(587)

0

100

Amgylchedd

1,237

(1,137)

0

100

Tai ac Eiddo

255

(155)

0

100

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(11)

0

0

(11)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(10)

0

0

(10)

Cyllid 

(7)

0

0

(7)

Nodwyd bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Adran Amgylchedd a’r Adran Tai ac Eiddo eleni (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

Cadarnhawyd darparu cymorth ariannol o £308k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

Ar gyllidebau Corfforaethol:

-      Defnyddio’r balans o £4,402k sydd ar ôl yn y Gronfa Covid i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio (£2,091k) o’r tanwariant ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Gweddill y tanwariant (£495k) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

Cymeradwywyd symiau i’w cario ymlaen (y golofn ‘Gor/(Tan) Wariant Addasedig’ yn colofn CH uchod ac yn Atodiad 1.

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-      Cynaeafu (£1,703k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio £2,975k i gyllido bidiau un tro 2024/25 yn dilyn dad ymrwymo £1,113k o’r Gronfa Trawsffurfio a throsglwyddo £1,862k o’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod gorwariant o oddeutu £9 miliwn ymhlith adrannau’r Cyngor o fewn y flwyddyn ariannol 2023-24. Darparwyd diweddariad ar sefyllfa’r holl adrannau’n unigol gan dynnu sylw at y prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol megis:

·       Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant -  Nodwyd bod rhagolygon mis Tachwedd 2023 yn amcangyfrif gorwariant o £5.4 miliwn o fewn yr Adran. Cadarnhawyd mai gwir orwariant yr Adran ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oedd £3.9 miliwn yn dilyn derbyn grantiau ac incwm ychwanegol. Ymhelaethwyd bod £1.8 miliwn o’r gorwariant oherwydd y pwysau cynyddol a chostus llety cefnogol yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu ond pwysleisiwyd bod bid ariannol o £1.6 miliwn wedi cael ei gyflwyno gan yr Adran ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 i ymdrechu i gyfarch yr her hon. Cyfeiriwyd hefyd at heriau lefelau salwch, cyfraddau oriau gwaith digyswllt a chostau staffio sy’n arwain at orwariant yn y maes Gofal Cartref ond pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i ddatrys yr heriau hyn.

·       Adran Plant a Theuluoedd – Cydnabuwyd bod gorwariant yr Adran wedi cynyddu i £2.6 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol o’i gymharu â’r rhagdybiaeth o £1.3 miliwn yn adolygiad mis Tachwedd 2023. Pwysleisiwyd bod y gorwariant hwn yn deillio o’r cynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol o ganlyniad i gymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol diweddar o leoliadau heb eu cofrestru. Nodwyd y gobeithir mewnoli’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd bod pwysau i’w weld ar gyllideb Gwasanaeth Derwen.

·       Adran Addysg – Pwysleisiwyd bod y tueddiad o bwysau cynyddol ar y gyllideb cludiant tacsis a bysus ysgolion yn parhau, gyda gorwariant o £1.5 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn. Nodwyd bod swyddog wedi ei benodi i gyflawni adolygiad a’r sefyllfa. Eglurwyd bod trosiant staff, derbyniad incwm a grantiau a llai o bwysau ar gyllidebau eraill yr Adran yn lleihau’r gorwariant i £95k. Adroddwyd bod yr Adran yn defnyddio £95k o’u cronfa tanwariant adrannol i ddiddymu’r gorwariant yn llwyr.

·       Byw’n Iach – Atgoffwyd bod y Cyngor wedi rhoi £550k i’r cwmni yn y flwyddyn ariannol 2022/23 fel cefnogaeth ariannol uwchlaw’r taliad cytundebol o fewn y contract ddarparu, i helpu’r cwmni yn sgil y Pandemig. Cadarnhawyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni gyda’r swm gofynnol wedi lleihau i £308k. Pwysleisiwyd y rhagwelir na fydd y cwmni angen cefnogaeth ariannol erbyn terfyn y flwyddyn ariannol gyfredol.

·       Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC – Nodwyd bod gorwariant o £687k yn sgil pwysau ar y gyllideb cynnal ffyrdd a goleuo yn ogystal â lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol. Ymfalchïwyd bod YGC wedi gwneud elw o £100k sy’n rhagori ar y rhagdybiaeth elw o £39k a ddisgwyliwyd ar gyfer 2023-24.

·       Adran Amgylchedd – Eglurwyd bod y tueddiad o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac wedi cynyddu i £1.2 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu argymhellion WRAP Cymru i fynd i’r afael a’r tuedd hwn. Cydnabuwyd bod diffyg incwm meysydd parcio o £601k wedi cyfrannu at orwariant o fewn yr Adran.

·       Adran Tai ac Eiddo – Esboniwyd bod pwysau sylweddol llety dros dro digartrefedd yn parhau i ddwysau gan achosi gorwariant o £2 miliwn o fewn yr Adran. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa hon yn her fawr gan ei fod yn gorwario er bod cyllideb ychwanegol i £3 miliwn o bremiwm treth Cyngor a grant o £597k gan y Llywodraeth wedi ei ddyrannu i’r maes. Pwysleisiwyd bod ddyraniad un tro o £1.4 miliwn o ddarpariaeth Covid corfforaethol yn ogystal â £701k o gronfa tanwariant adrannol wedi lleihau’r gorwariant eleni i £255k.

·       Ysgolion – Diweddarwyd bod balansau’r ysgolion wedi gweld gostyngiad o £3.4 miliwn, gan leihau o £11.9 miliwn yn 2022/23 i £8.5 miliwn yn 2023/24. Nodwyd bo cynnydd sylweddol i falansau’r ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn derbyn grantiau sylweddol, ond rhagwelwyd y byddent yn ôl i lefelau arferol erbyn diwedd 2024/25.

Diolchwyd i’r adran Gyllid am ddarparu crynodeb glir o sefyllfa’r adrannau a’r her ariannol sy’n wynebu’r Cyngor i’r dyfodol. Ymfalchïwyd bod yr adrannau’n ystyried yr heriau ariannol presennol gyda chyfrifoldeb gan roi ystyriaeth barhaus iddo wrth ymdrechu i barhau cynnal gwasanaethau.

Awdur:Ffion Madog Evans: Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau

Dogfennau ategol: