Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Paul Rowlinson

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2025-26 – 2027/28.

 

Comisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, fel amlinellir yn rhan 4.6 o’r adroddiad, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn ein cyllideb dros y tair mlynedd nesaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2025-26 – 2027/28.

 

Comisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, fel amlinellir yn rhan 4.6 o’r adroddiad, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn ein cyllideb dros y tair mlynedd nesaf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet yn sgil yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, i rhagweithio er mwyn cynllunio i ddelio â’r wasgfa ariannol.

 

Eglurwyd nad yw canfod toriadau ar gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau wedi cael ei gyflwyno yn flynyddol ers 18 mlynedd. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond cydnabuwyd yr angen i ddod a rhai gwasanaethau i ben yn y dyfodol.

 

Cadarnhawyd bod y gyllideb ar gyfer eleni wedi ei gosod a rhagwelir diffyg sylweddol yn incwm y Cyngor erbyn 2027/28 ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol. Pwysleisiwyd bod y rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd diwethaf ac ei fod yn gynllun cychwynnol i fynd i’r afael â chyllideb y tymor canolig.

 

Cyfeiriwyd ar grynodeb o’r cynllun gan nodi ei fod yn manylu ar ffactorau hysbys sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor yn ystod y tymor canolig (rhwng 2025/26 hyd at ddiwedd 2027/28). Manylwyd y rhagwelir chwyddiant ar gyflogau staff y Cyngor yn ogystal â phrisiau nwyddau, yn ogystal â chynnydd ardollau yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor o fewn y cyfnod hwn. Er hyn, pwysleisiwyd nad oes cytundeb i gynyddu cyflogau gyda’r undebau ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd hefyd nad oes ystyriaeth fanwl wedi ei roi i addasu lefelau treth Cyngor, a byddai unrhyw addasiad angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn. Nodwyd bod swyddogion wedi rhagweld cynnydd o 5% o fewn y cynllun er mwyn cyfarch y risg hwn i’r gyllideb er y tybir bydd y cynnydd i gyflogau yn is na’r gyfradd hynny.

 

Esboniwyd fod y gyfradd chwyddiant a ddefnyddir yn y Cynllun yn seiliedig ar ragolwg Banc Lloegr a chyngor gan gwmni Arlingclose, sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. Nodwyd bod swyddogion wedi selio cyfradd chwyddiant rhagdybiaethol i 2% ar gyfer nifer o flynyddoedd y tymor canol er mwyn cynllunio i gyfarch y bwlch hwnnw. Cydnabuwyd bod galw blynyddol am gyllideb ychwanegol uwchlaw chwyddiant mewn rhai meysydd a rhagwelir bydd angen £3 miliwn y flwyddyn er mwyn ymdrin â’r galw hwn. Pwysleisiwyd mai darpariaeth darbodus yw hyn, nid targed gwariant a bydd unrhyw fid ariannol yn derbyn ystyriaeth ofalus.

 

Adroddwyd bod y Cynllun yn amcangyfrif bwlch ariannol o £36,200k (cyn ystyried unrhyw gynnydd Treth Cyngor ac arbedion sydd eisoes wedi eu hadnabod) yn ystod y tymor canol yn seiliedig ar ragdybiaethau ac amcanion. Cadarnhawyd y gobeithir cyflwyno amrywiol opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol a nodwyd yr angen i ganfod cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac addasu lefelau treth Cyngor. Gofynnwyd am ganiatâd y Cabinet i ymchwilio i wasanaethau’r holl adrannau er mwyn llunio opsiynau a gofynnwyd i’r Aelodau rhoi ystyriaeth fanwl i wasanaethau eu hadrannau mewn ymgynghoriad â’r swyddogion perthnasol.

 

Pwysleisiwyd bod angen bod yn ystyrlon i lesiant staff y Cyngor wrth symud ymlaen i’r dyfodol, yn enwedig y staff hynny sydd yn cyflawni gwasanaethau statudol ar ran y Cyngor, gan sicrhau bod cyfathrebu clir yn parhau gyda’r holl staff. Amlinellwyd ar y drefn 3 cam a gyflwynwyd er mwyn ymgeisio gwarchod gwasanaethau statudol:

 

1.    Cael trefn ar wariant, gan rewi gwariant mewn rhai meysydd a derbyn rhybuddion cynnar os bydd rhai gwasanaethau yn gorwario yn fuan yn y flwyddyn.

2.    Bwriedir i pob Adran ddod gerbron panel o aelodau a swyddogion i fynd drwy gweithgaredd pobl tîm eu hadran, eu cost, effaith ac effaith dod a’r gwasanaethau hynny i ben. Nodwyd bydd canlyniadau’r cyfarfodydd hynny yn cael ei rannu gyda’r Cabinet. Cadarnhawyd bydd pob ymdrech i flaenoriaethu ar sail risg ac angen trigolion.

3.    Sicrhau ystyriaeth ym mhob agwedd a chyfystyr er mwyn sicrhau bod pob carreg wedi’i droi.

 

Mynegwyd rhwystredigaeth nad yw’r Llywodraeth yn debygol o gynyddu cyfanswm setliad grant oherwydd byddai hynny yn gymorth mawr i lenwi bwlch yng nghyllideb y Cyngor.

 

Diolchwyd i’r Adran Gyllid am eu gwaith trylwyr wrth baratoi’r adroddiad.

 

Awdur:Dewi Morgan: Pennaeth Cyllid Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: