Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at brosiectau sydd yn rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028.

 

Adroddwyd bod 885 o gyflwyniadau digartref wedi cyrraedd yr Adran rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, gan ymhelaethu bod nifer yr unigolion a theuluoedd mewn llety argyfwng hefyd yn parhau i fod yn uchel. Nodwyd bod bron i 250 o aelwydydd wedi eu lleoli mewn lletyau dros dro ar draws y Sir. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn parhau i weithio’n ddiflino i gynnig datrysiadau i’r sefyllfa hon drwy nifer o brosiectau a ffrydiau gwaith.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn anelu i godi o leiaf 83 o unedau llety â chefnogaeth i unigolion mewn lleoliadau ar draws y Sir, yn unol â’r Cynllun Gweithredu Tai. Tynnwyd sylw at ddatblygiad Dôl Sadler yn Nolgellau sydd wedi derbyn adborth cadarnhaol yn ddiweddar. Manylwyd bod cynlluniau unedau llety presennol yn cynnwys lleoliadau ym Mangor, Pwllheli a Chaernarfon.

 

Tynnwyd sylw at gynllun yr Adran i annog landlordiaid preifat i lesu ei heiddo i’r Cyngor am gyfnod o 5-25 mlynedd tra’n gwarantu rhent iddynt am y cyfnod. Nodwyd bod yr adran wedi llwyddo i ddenu grant o dros £2.7 miliwn i ddatblygu’r pecynnau hyn, ac yn anelu i ddod â 100 o dai ar y Cynllun yn y deng mlynedd nesaf. Cadarnhawyd bod 14 eiddo bellach ar y cynllun sydd wedi galluogi’r Adran i helpu 22 o bobl i rentu tŷ. Ymhelaethwyd bod 11 eiddo arall yn cael eu hasesu ar hyn o bryd a bod yr Adran yn parhau i ymateb i fynegiannau o ddiddordeb.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi penodi dau swyddog ar gyfer cynorthwyo gyda chefnogaeth i unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl er mwyn osgoi sefyllfaoedd ble mae unigolion bregus yn colli eu tenantiaeth. Manylwyd bod y swyddogion wedi llwyddo i helpu dros 100 o bobl dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac yn cefnogi 40 o bobl ychwanegol ar hyn o bryd.

 

Cydnabuwyd bod argyfwng tai yng Ngwynedd ar hyn o bryd a phwysleisiwyd bod cynyddu’r cyflenwad o dai i bobl leol yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Manylwyd bod 278 o dai cymdeithasol gan gadarnhau bod 260 o unedau ychwanegol ar y gweill ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at gynllun Tŷ Gwynedd sef datblygiad o 33 o dai canolraddol a fydd ar gael i’w prynu neu rentu.

 

Adroddwyd bod yr Adran ar drac i gyflawni’r nifer o bryniannau a osodwyd fel uchelgais cynllun Prynu i Osod ar gyfer 2023-24, gan fod 21 o dai wedi eu prynu gyda 5 ychwanegol yn agos i’w cwblhau.

 

Diweddarwyd bod yr Adran bellach wedi dosbarthu 4102 o dalebau ynni er mwyn darparu cymorth i bobl gyda costau ynni cynyddol a thlodi tanwydd. Manylwyd bod cyfanswm cost y talebau hyn yn £167,820 ac wedi mynd yn uniongyrchol i helpu pobl Gwynedd.

 

Nodwyd bod yr Adran yn wyneb her pan yn ceisio cysylltu gyda chwmnïau cyfleustodau yn enwedig mewn cysylltiad gyda chwmnïau atgyweirio ac adeiladu. Manylwyd bod asiantaethau megis Dŵr Cymru ac eraill yn gallu bod yn achosi oedi ar ddatblygiadau gan eu bod yn cymryd peth amser i gysylltu cyflenwadau angenrheidiol i safleoedd. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi codi’r pryderon a rhwystrau hyn gyda’r Llywodraeth.

 

Diolchwyd i’r Adran am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

 

Awdur:Carys Fôn Williams: Pennaeth Adran Tai ac Eiddo

Dogfennau ategol: