Agenda item

Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

  1. Nid oes angen wedi ei brofi ar gyfer codi annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd â pharagraffau 4.2.37 - 38 o Bolisi Cynllun Cymru a rhan 4.3 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy sy’n sicrhau mai dim ond mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad agored.  

 

  1. Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan achosi ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle ac ni fyddai'n integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cofnod:

Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys manylion draenio tir  - o dderbyn y sylwadau hyn, roedd y trydydd rheswm gwrthod, oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, yn cael ei ddileu.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi annedd unllawr newydd ar lecyn o dir ger Capel Rhoslan. Roedd y safle yn cael ei ystyried fel un yng nghefn gwlad agored, tu allan i unrhyw ffin datblygu ac i ffwrdd o bentref clwstwr fel y diffinnir yn y CDLl.

 

Nodwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Eglurwyd nad oedd polisi TAI 6, sydd yn caniatáu tai newydd fforddiadwy mewn clystyrau, yn berthnasol oherwydd pellter y safle i ffwrdd o’r pentref. Adroddwyd mai dim ond tai newydd sydd yn mewnlenwi rhwng adeiladau neu’n union gyferbyn a chwrtil adeilad fyddai’n cael eu caniatáu gan y polisi yma a gyda safle’r cais wedi ei leoli ymhell o’r clwstwr tai agosaf, nid yw’r polisi felly’n gefnogol i gais o’r fath.

 

O ganlyniad, adroddwyd mai polisi PCYFF1 oedd yn berthnasol yma; yn caniatáu datblygiadau newydd yng nghefn gwald agored pan fydd tystiolaeth o gyfiawnhad dros hynny. Eglurwyd hefyd bod PS17 Strategaeth Aneddleoedd yn cadarnhau mai datblygiadau tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6, yn unig fydd yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored gyda chefnogaeth i ddatblygiadau megis tai amaethyddol neu dai sydd ynghlwm a menter weledig.

 

Tynnwyd sylw at y wybodaeth o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad oedd yn nodi bod yr ymgeisydd yn gweithio yn y fyddin ac yn dymuno codi , ger ei rieni sy’n trigo yng Nghapel Rhoslan. Er yn ymddangos fod yr ymgeisydd yn berson lleol, wedi ei eni a’i fagu yn yr ardal, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod angen presennol am , nac angen  am fforddiadwy. Nid yw’r safle yn cael ei ystyried yn addas fel safle eithrio gweledig oherwydd ei leoliad i ffwrdd o’r clwstwr ac nid oedd daliad amaethyddol ar y tir nac unrhyw gyfiawnhad amaethyddol neu fenter wledig wedi ei brofi. O ganlyniad, adroddwyd nad oedd un polisi o fewn y CDLl na pholisi cenedlaethol yn gefnogol i gais o’r fath.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, er bod dyluniad y wedi ei addasu ers y gwrthodiad blaenorol, byddai caniatáu y cais yn golygu datblygiad newydd ar dir gwyrdd yng nghefn gwlad agored fyddai’n arwain at ymlediad trefol mewn ffordd sydd yn weledol o’r ffordd ac o lwybrau cyhoeddus cyfagos. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi CYFF 3 y CDLl.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol a rhoi ystyriaeth lawn i ymatebion yr ymgynghoriadau a’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i sawl polisi lleol a chenedlaethol ac felly'r argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Bod yr ymgeisydd eisiau dychwelyd i fyw ym mro ei febyd - yn ddyn ifanc ac angen tŷ yn agos i’w rieni

·         Bod yr angen am dŷ wedi ei gynnwys yn y Datganiad Dylunio a Mynediad gwreiddiol

·         Bod prisiau cyfartalog yr ardal allan o afael yr ymgeisydd - y cais yn un rhesymol i gael annedd

·         Bod y cais yn un am dŷ unllawr, 3 stafell wely – tŷ i deulu sydd angen cefnogi rhieni’r ymgeisydd

·         Bod amod 106 ar y tŷ gyda’r cytundeb wedi ei wneud rhwng y Cyngor a rhieni'r ymgeisydd

·         Bod y bwriad wedi ei leoli yng ngardd y Capel ac yn agos i adeilad preswyl (eiddo arall gerllaw)

·         Bod y cais gwreiddiol wedi cael cefnogaeth y Cyngor Cymuned ond y gefnogaeth heb ei gynnwys yn adroddiad y swyddogion

·         Yn nhermau cynllunio, y safle mewn ‘cefn gwlad agored’ ond ychydig fetrau fyddai o’r Capel - y Capel wedi ei leoli yn ganolbwynt i’r gymuned, yn gwasanaethu’r gymuned a chasgliad o dai gerllaw

·         Y pentref yn ‘bentref clwstwr’ - nid yw’r ffin yn hawdd i’w ddehongli

·         Bod tir y cais wedi ei ddynodi yn y CDLl fel tir addas ar gyfer paneli solar - tir gwael sydd yma ac nid tir glas, amaethyddol da

·         Uned Bioamrywiaeth yn nodi na fydd yn amharu ar rywogaethau

·         Swyddogion yn nodi nad yw’r deunyddiau’r bwriad yn gweddu i’r ardal - y dyluniad ar ffurf siediau gyda gorffeniad allanol o ddalenni rhychiog du - yn efelychu adeilad amaethyddol traddodiadol - nid yw yn ormesol - annedd un llawr sydd yma

·         Dim gwrthwynebiadau gan Ymgynghoriaeth Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru na’r Uned Trafnidiaeth

·         Dim cais sydd yma i fanteisio ar y drefn cynllunio, ond cais gan unigolyn i adeiladu tŷ gerllaw ei deulu  a magu teulu Cymraeg

·         Cais i’r Pwyllgor i ystyried Polisi Tai 15 a chefnogir cais ar ei rinweddau ei hun

 

c)    Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr aelodau o’r angen i ystyried y cais sydd wedi ei gyflwyno; mewn egwyddor tŷ marchnad agored sydd yma a phetai’r cais yn cael ei ystyried fel un am dŷ fforddiadwy, byddai’n parhau yn groes i bolisi oherwydd yr elfen cefn gwlad. Nodwyd hefyd mai ar y Capel yn unig yr oedd yr amod 106 ac nad oedd y telerau hynny yn berthnasol i’r datblygiad dan sylw.

 

Cadarnhawyd bod sylwadau Cyngor Cymuned wedi eu derbyn

 

d)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais gan ei fod yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed sylw gan Aelod, petai’r angen yn cael ei brofi am dŷ fforddiadwy byddai modd ystyried hyn

 

PENDERFYNWYD: PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

1.    Nid oes angen wedi ei brofi ar gyfer codi annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd â pharagraffau 4.2.37 - 38 o Bolisi Cynllun Cymru a rhan 4.3 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy sy’n sicrhau mai dim ond mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad agored. 

 

2.    Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan achosi ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle ac ni fyddai'n integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn

 

Dogfennau ategol: