Agenda item

Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cynllun tirlunio

4.         Manylion gorffeniadau/deunyddiau

5.         Gwaredu planhigion ymledol

6.         Cytuno/rhwystro ardaloedd gwaith

Cofnod:

Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr  - yn dilyn ail ymgynghoriad derbyniwyd sylwadau pellach gan yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd  i gynnal gwaith allanol ynghlwm ac eiddo preswyl. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Morfa Nefyn ac yn rhan o glwstwr o adeiladau preswyl eraill sydd yn ymylu gyda’r traeth gerllaw. Nid yw’r safle o fewn ardal dynodiad AHNE Llŷn ond gorweddir o fewn Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Eglurwyd bod y cynnig wedi ei ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i bryderon a’r cynnig bellach yn golygu:

·         Creu wal flaen trwy ddefnyddio caergewyll wedi eu llenwi gyda cherrig fyddai hefyd yn cynnwys gofod mewnol i’w ddefnyddio fel storfa

·         Gwella ac ymestyn y teras/ardal allanol presennol uwchben y wal uchod a chynnwys triniaeth ffin newydd ar ffurf cyfres o bostiau pren gyda weiren rhyngddynt (mae’r elfen yma wedi ei newid o’r cyflwyniad gwreiddiol a oedd yn gynnwys triniaeth ffin gwydr)

·         Codi lefel llawr o flaen yr eiddo trwy a chreu wal garreg isel i wahaniaethu rhwng tir mae’r perchnogion yn dymuno cadw’n breifat ac ardal sydd yn cydredeg gyda wal y môr lle maent yn hapus i’r cyhoedd parhau i ddefnyddio fel llwybr tramwy pan fod angen. (Pwysleisiwyd nad oedd y llwybr yn lwybr cyhoeddus ffurfiol, ond yn lwybr sydd wedi ei ddefnyddio yn hanesyddol gan y cyhoedd yn enwedig ar adegau pan fydd llanw uchel).

 

Ategwyd, drwy ddefnyddio amodau i gytuno ar ddeunyddiau a gorffeniadau, roedd yr Awdurdod Cynllunio o’r farn nad oedd y bwriad yn groes i’r polisïau dylunio na i’r polisïau hynny sy’n gwarchod mwynderau preswyl a gweledol.

 

Er pryder am y bwriad, nodwyd bod y tir sydd yn destun y cais, o fewn cwrtil eiddo preswyl, lle mae gan y perchennog yr hawl i atgyweirio lefelau'r patios presennol a chodi ffensys heb yr angen am hawl Cynllunio, ac nad oedd rheolaeth dros y lliwiau a math o ddeunyddiau sydd i’w defnyddio. Ategwyd mai ar gyfer y gwaith peirianyddol a newid lefelau sydd angen hawl, ond bod yn  bwysig cadw mewn cof be all yr ymgeisydd wneud heb hawl. Amlygwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi bod yn fwy na pharod i drafod a chytuno ar orffeniadau ac wedi cymryd sylw o’r pryderon oedd wedi codi trwy ddiwygio’r cais. Er hynny, fel unrhyw gais cynllunio, atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad yn gorfod bod yn un rhesymol yn enwedig pan fod modd cytuno ar faterion trwy amodau. 

 

Adroddwyd bod yr eiddo yn rhan o glwstwr o dai cyfochrog sydd yn rhannol oddi fewn i ran o ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) Porth Dinllaen i Borth Pistyll ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a gyferbyn ag ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Derbyniwyd sylwadau gan CNC a’r Uned Bioamrywiaeth ac roedd casgliadau’r ddau yn nodi na fyddai’r bwriad yn debygol o gael effaith sylweddol ar y safleoedd gwarchodedig. 

 

Nodwyd hefyd bod y Datganiad Seilwaith Gwyrdd yn amlygu y bydd cynnal ardal blannu newydd i flaen y teras newydd ynghyd a phlannu llwyni ychwanegol i’r cefn yn gwella’r fioamrywiaeth a bod hyn i’w groesawu. Byddai angen cytuno ar fanylion o’r math o rywogaethau cynhenid er mwyn ei ystyried fel gwelliant Bioamrywiaeth ac y byddai cytuno ar y math o blannu yn sicrhau fod edrychiad y safle yn ymddangos yn naturiol; byddai hyn yn cyfrannu at feddalu’r gwaith cerrig.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau a dderbyniwyd oedd yn codi pryder am effaith y bwriad ar sefydlogrwydd y clogwyni tu cefn i’r safle. Nodwyd, bod cyfres o waliau cynnal eisoes yn bodoli ar dir yr ymgeisydd ac nad oedd awgrymiad y byddai gwaith yn cael ei wneud i newid yr elfennau yma; y datblygiad arfaethedig i’w gynnal o fewn rhan blaen y safle ac ni fyddai’n ymledu i gefn y safle. Amlygwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi comisiynu adroddiad geotechnegol sy’n dod i’r casgliad na fyddai’r gwaith yn effeithio ar y clogwyn ac fel sydd gydag unrhyw eiddo mewn lleoliad o dan glogwyn, bydd angen monitro’r sefyllfa. Nodwyd hefyd nad oedd CNC wedi amlygu pryder ynglŷn â sefydlogrwydd y clogwyni.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol, roedd yr Awdurdod Cynllunio yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Ei fod yn gwrthwynebu’r cais ar sail gorddatblygiad

·         Byddai’r addasiadau yn difetha cymeriad y bwthyn traddodiadol

·         Ei fod yn ddiolchgar i’r Swyddogion am gynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i ystyried newid y cynllun gwreiddiol – y postyn ar weiren yn gweddu yn well na gwydr

·         ‘Hafan’ yw enw’r tŷ – nid oes angen anharddu’r hyn sydd yma – cadw yn ‘Hafan Deg’

·         Y lleoliad yn amlwg, yn agored ac yn gyhoeddus ac felly angen sicrhau bod yr addasiadau yn chwaethus ac yn gweddu’r ardal

·         Bod galw lleol i’r patio fod yn llai amlwg, nad oedd dim yn amharu ar y clogwyn a bod y cyhoedd yn parhau i gael defnyddio'r llwybr tramwy pan fod angen (awgrym i amodi defnydd y llwybr)

 

c)    Mewn ymateb i’r awgrym o gael amod i sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i gael mynediad a defnyddio'r llwybr tramwy, nododd y Rheolwr Cynllunio bod hyn tu hwnt i’r caniatâd cynllunio a mater sifil oedd hwn gan mai tir preifat ydoedd. Ategodd bod yr ymgeisydd yn hollol glir nad oedd bwriad ganddo atal mynediad cyhoeddus.

 

Ynglŷn â phryderon sefydlogi tir, petai mwy o waith angen ei wneud byddai angen cyflwyno cais cynllunio, ond ar hyn o bryd nid oedd yn ystyried y byddai’r gwaith dan sylw yn creu effaith.

 

Yng nghyd-destun amodau, nododd nad oedd modd gosod amodau ar gyfer maint na siâp y bwriad, ond bod modd gosod amodau ar y deunyddiau.

 

d)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais.

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         Byddai modd gweithredu’r addasiadau heb ganiatâd cynllunio

·         Bod yr addasiadau yn creu effaith negyddol ar glwstwr o hen dai pysgotwyr sydd wedi eu lleoli ar y traeth ac sydd yn ymylu ar yr AHNE - angen gwarchod yr olygfa

·         Bod angen cryfhau’r polisïau i warchod tai traddodiadol - trist fyddai colli'r clystyrau bach hyn  ar yr arfordir - yn atyniad yn eu hunain

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cynllun tirlunio

4.         Manylion gorffeniadau/deunyddiau

5.         Gwaredu planhigion ymledol

6.         Cytuno/rhwystro ardaloedd gwaith

 

Dogfennau ategol: