Agenda item

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyn:

1.     Adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1), sy’n cynnwys defnyddio £561,454 o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Sefyllfa cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2024 (Atodiad 3).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyn:

1.     Adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1), sy’n cynnwys defnyddio £561,454 o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Sefyllfa cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2024 (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Hysbysu’r Bwrdd Uchelgais am ei sefyllfa ariannol ar gyfer refeniw a chyfalaf 2023/24.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad oedd yn darparu trosolwg o sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf 2023/24. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 gan dynnu sylw at golofn olaf y tabl sy’n dangos y gorwariant neu’r tanwariant fesul pennawd. Nodwyd mai’r tanwariant terfynol ar y pennawd Swyddfa Rheoli Portffolio yw £75,000, sy’n bennaf oherwydd trosiant staff yn ystod y flwyddyn. Adroddwyd bod y pennawd Gwasanaethau Cefnogol yn dangos tanwariant o £39,000.

 

Nodwyd bod y tanwariant terfynol ar y pennawd Cydbwyllgor yn £41,000, sydd yn sgil tanwariant ar y penawdau Cefnogaeth Gyfreithiol Allanol, y Ffioedd Cyllidol Allanol a'r Bwrdd Cyflawni Busnes. Mynegwyd mai’r tanwariant terfynol ar y pennawd Prosiectau yw £129,000. Eglurwyd bod y gwariant o dan y pennawd Grantiau yn cynnwys cynlluniau sy’n cael eu hariannu gan grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd bod y rhan Trosglwyddiadau i gronfeydd yn dangos cyfraniadau llog y partneriaid ar gyfer 2023/24.

 

Cyfeiriwyd at ail dudalen Atodiad 1 ble rhestrir y prif ffrydiau incwm ar gyfer 2023/24 a dangosir y sefyllfa alldro net terfynol ar gyfer 2023/24, sef tanwariant o £460,000. Eglurwyd bod hyn yn dangos cynnydd yn y tanwariant o £341,000 a ragwelwyd yn yr adolygiad diwedd Rhagfyr. Nodwyd bod y tanwariant yn deillio o lwyddiant y Swyddfa Rheoli Portffolio gyda’u cais rhanbarthol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ogystal â gostyngiad mewn gwariant ar sawl pennawd yn y gyllideb. 

 

Gofynnwyd i’r Bwrdd gymeradwyo swm gostyngedig o £561,000, o’i gymharu â’r gyllideb wreiddiol o £1,000,000 o grant y Cynllun Dwf i’w ddefnyddio i ariannu’r gwariant refeniw yn 2023/24 er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 oedd yn dangos y symudiadau yn y cronfeydd yn ystod y flwyddyn a’r balansau ar 31 Mawrth 2024. Nodwyd mai cyfanswm y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2024 oedd £278,000 a bod £67,000 wedi ei neilltuo ar gyfer cyllideb 2024/25 a £61,000 pellach ar gyfer cyllideb 2025/26. Adroddwyd mai balans y gronfa prosiectau ar 31 Mawrth 2024 oedd £152,000 a balans y gronfa llog ar 31 Mawrth 2024 oedd £4.7 miliwn. Nodwyd bod cynnydd sylweddol yma oherwydd y llog a dderbyniwyd ar y Grant Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn.

 

I gloi cyfeiriwyd at sefyllfa gyfalaf y Grant Cynllun Twf ar gyfer 2023/24. Nodwyd mai’r prif wahaniaeth rhwng y gyllideb Cyfalaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ym mis Mawrth yw’r gwariant o £0.75m ar y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter ac mae’r gyllideb o 2.15% ar gyfer cyllido refeniw yn 2023/24 wedi gostwng i £0.56m i adlewyrchu’r ffigyrau alldro refeniw terfynol. Ychwanegwyd bod grant cyfalaf ychwanegol o £423,000 wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Uwchraddiad Ffeibr Llawn Leol.

 

Gwnaethpwyd sylw bod y Bwrdd Uchelgais wedi elwa o gyllid o’r gronfa ffyniant gyffredin a  gofynnwyd beth fydd y canlyniadau i gyllidebau pe bai’r arian yma ddim yn cael ei dderbyn.

·        Mewn ymateb nodwyd bod incwm o’r gronfa ffyniant gyffredin wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2024/25, hyd at ddiwedd Rhagfyr 2024 a bod y gyllideb wedi ei seilio ar y derbyniadau yma hyd at ddiwedd y flwyddyn galendr. Ychwanegwyd, o bersbectif ariannu adnoddau a staffio, bod sicrwydd yma hyd at fis Mawrth 2026; ond ni ellir dweud ymhellach na hynny heb wybod beth fydd dyfodol y gronfa.

 

Gofynnwyd am eglurhad pellach ar y ffigyrau Hyfforddiant a Theithio gan fynegi y dylai’r Bwrdd Uchelgais wneud eu gorau i gadw’r costau hyn mor isel â phosib drwy gynnal popeth sy’n bosib yn rhithiol.

·        Mewn ymateb eglurwyd bod y ffigyrau Hyfforddiant, Teithio a Chynhaliaeth yn berthnasol i staff y Bwrdd Uchelgais yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd bod staff y Bwrdd Uchelgais yn ceisio teithio cyn lleied ag sy’n bosib ond bod lleoliadau safleoedd yn bodoli ar draws Gogledd Cymru a bod angen mynychu’r rhain yn achlysurol.

·        Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod y Bwrdd Uchelgais yn dîm rhanbarthol a bod disgwyliad i’r Bwrdd Uchelgais fod yn weladwy mewn digwyddiadau yng Nghaerdydd neu Lundain sy’n golygu bod angen teithio i’r lleoliadau hyn.

·        Credwyd ei bod yn hanfodol cynrychioli Gogledd Cymru a dylanwadu ar y sector fusnes mewn digwyddiadau o’r fath a theimlwyd y dylai’r Bwrdd Uchelgais fod yn weladwy tu allan i’r rhanbarth.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 22 o’r Rhaglen gan ofyn am eglurhad pellach ar y prosiect Porth Caergybi a’i gost o £34.47 miliwn rhwng 2024 a 2027.

·        Mewn ymateb eglurwyd mai proffil gwariant am y cyfnod yw’r cyfanswm o £34.47 miliwn gan nodi nad oedd sicrwydd llwyr ar gyfer y prosiect hwn.

·        Mewn ymateb i’r cwestiwn os yw’r ffigyrau hyn yn mynd i gynyddu ymhellach nodwyd mai rhagfynegiadau o’r gwariant yw’r ffigyrau ond ni all y cyllid sydd ar gael i’r prosiectau gynyddu. Nodwyd pe bai cynnydd yng ngwerth y prosiectau yna'r disgwyliad yw y bydd noddwr y prosiectau yn ariannu’r costau ychwanegol hynny.

·        Gofynnwyd am gopïau o’r ffigyrau os yw’r Bwrdd Uchelgais wedi ymrwymo £34.47 miliwn ar gyfer y prosiect Porth Caergybi. Nodwyd bod pob prosiect yn seiliedig ar gyflwyno a chwblhau achos busnes llwyddiannus. Ychwanegwyd na fydd unrhyw benderfyniad ar wariant na chyllid yn cael ei wneud nes bydd achos busnes llawn wedi ei dderbyn.

·        Eglurwyd and yw’r achos busnes wedi ei dderbyn eto am y prosiect Porth Caergybi. Serch hyn, cadarnhawyd y byddai’r Cyfarwyddwr Portffolio yn hapus darparu rhagor o wybodaeth i’r aelod.

 

Holwyd ynghylch prosiect Stiwdio Kinmel y cyfeiriwyd ato yn Atodiad 3, gan nodi bod y sefyllfa bellach wedi newid. Gofynnwyd am ddiweddariad trwy e-bost.

·        Mynegwyd y bydd y prosiectau newydd yn cael eu trafod fel rhan o Adroddiad Perfformiad a Risgiau Chwarter 4 sydd wedi ei gynnwys ar Raglen y cyfarfod hwn felly bydd trafodaeth ar y prosiect hwn dan yr eitem nesaf.

 

Dogfennau ategol: