Agenda item

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i

diweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau ac ymhelaethodd y Rheolwyr Rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Rhedwyd drwy adroddiad Perfformiad a Risg Chwarter 4 y Cynllun Twf a derbyniwyd gyflwyniad gan y rheolwyr rhaglen oedd yn darparu crynodeb o’r cynnydd efo’u rhaglenni unigol. Derbyniwyd diweddariad ar y Rhaglen Ddigidol ble nodwyd bod yr achos busnes amlinellol ar gyfer Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig Allweddol ‘4G’ bellach wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Cyfeiriwyd at y prosiect LPWAN gan nodi bod angen gwneud rhagor o waith ar yr achos economaidd cyn sôn am benodiad Annog Cyf. gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

·        Holwyd am benodiad Annog Cyf. ac os oes cyhoeddiad neu lansiad ar y gweill. Cadarnhawyd y bydd lansiad cyhoeddus gan y cwmni yn yr wythnos nesaf a’u bod yn gweithio ar y negeseuon a chydbwysedd rhanbarthol. Adroddwyd y bydd cyhoeddusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a bydd cyswllt uniongyrchol efo’r cymunedau gwledig. Nodwyd y bydd y Swyddfa Rheoli Prosiect yn diweddaru’r Bwrdd pan fydd datblygiad.

 

Darparwyd diweddariad ar y Rhaglen Ynni Carbon isel oedd yn egluro sefyllfa pob prosiect megis Hwb Hydrogen a Cydnerth ymysg eraill hyd at ddiwedd chwarter 4. Nodwyd nad yw prosiect Trawsfynydd wedi ei gynnwys gan nad oedd llawer i’w adrodd hyd at ddiwedd Chwarter 4. Ychwanegwyd bod y prosiect hwn yn parhau dan statws coch oherwydd yr ansicrwydd i’r prosiect gael ei wireddu o fewn cyfnod y Cynllun Twf. Nodwyd bod y Swyddfa Rheoli Prosiect mewn trafodaethau gyda Chwmni Egino a bydd yn gofyn am eglurhad gan y Llywodraeth wrth ddechrau mapio opsiynau posib i’r Bwrdd eu hystyried os bydd y prosiect yn cael ei dynnunol o’r Cynllun Twf.

·        Mynegwyd siom am y prosiect Trawsfynydd a phryderwyd bod penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth yn hytrach na phenderfyniadau ar sail ffeithiol neu dechnolegol. Nodwyd y bydd ystyriaethau pellach ynglŷn â beth fydd yn cymryd lle’r prosiect Trawsfynydd pe bai’r prosiect yn cael ei dynnu ‘nol.

 

Adroddwyd ar y Rhaglen Tir ac Eiddo ble darparwyd diweddariad ar y prosiectau megis Parc Bryn Cegin, Bangor a Stiwdio Kinmel. Nodwyd bod y Bwrdd Uchelgais yn parhau i aros am gyfarfod wyneb yn wyneb efo Stiwdio Kinmel ers i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr dechrau Ebrill; ers y cyhoeddiad maent wedi bod mewn cyswllt e-bost efo’r Cwmni i geisio gweld beth fydd y camau nesaf.

 

Derbyniwyd y sylwadau a ganlyn:

·        Mynegwyd awydd i gael cyfarfod efo Stiwdio Kinmel cyn gynted ag y bo modd er mwyn derbyn eglurhad o’u safbwynt a darganfod sut i symud ymlaen. Pwysleisiwyd bod angen eglurder am y sefyllfa ynghylch ymddatodiad y cwmni.

·        Cadarnhawyd bod y Swyddfa Rheoli Prosiect yn pwyso am gyfarfod a byddant yn diweddaru’r Bwrdd o unrhyw ddatblygiadau.

·        Gofynnwyd am ddiweddariad ar Borth Wrecsam, yn benodol ynghylch yr asesiad traffig a’r manylion sydd yn ymwneud â’r prosiect hwn. Mynegwyd y byddai’n dda derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan nad oedd aelodau’r Bwrdd wedi cael eu diweddaru.

·        Credwyd bod adroddiad y ‘WelTAG 0’ wedi cael ei gwblhau a darparwyd y cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth i Gymru. Nodwyd bod yr asesiadau cychwynnol wedi eu cwblhau ond nad oedd diweddariad pellach ar hyn o bryd.

·        Mynegwyd dryswch os oedd y gwaith wedi ei gwblhau neu beidio. Credwyd bod diffyg dealltwriaeth o union be sy’n digwydd. Cydnabuwyd ei bod yn fater sy’n ymglymu Cyngor Wrecsam, y Bwrdd Uchelgais a Llywodraeth Cymru.

·        Gofynnwyd, os yw’r gwaith wedi ei gwblhau, i’w anfon i Arweinydd Cyngor Wrecsam. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod y Bwrdd yn cael eu briffio a’n derbyn gwybodaeth. Sicrhawyd bod gwaith yn digwydd ar hyn o bryd a bydd David Fitzsimon yn rhoi diweddariad i Arweinydd Cyngor Wrecsam ar ôl y cyfarfod.

·        Gofynnwyd am ddiweddariad ysgrifenedig am sefyllfa Stiwdio Kinmel. Credwyd ei bod yn bwysig i’r aelodau gael gwybodaeth amserol o unrhyw ddatblygiadau a beth yw’r camau sy’n cael eu cymryd yn hytrach nag aros tan gyfarfod nesaf o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i dderbyn diweddariad.

·        Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd yn cael eu diweddaru cyn y cyfarfod nesaf a bydd gwybodaeth yn cael ei ddarparu dros e-bost pe bai cyfarfod yn cael ei gynnal efo Stiwdio Kinmel.

·        Holwyd beth yw’r broses gyda phrosiectau o’r fath ble mae ansicrwydd am eu dyfodol ac ar ba bwynt fydd y Bwrdd yn cael gwybodaeth o’r sefyllfa.

·        Nodwyd bod y Swyddfa Rheoli Prosiect yn ceisio deall beth fydd goblygiadau i’r prosiect o ran symud ymlaen. Ategwyd pe bai newidiadau i’r cynnig gwreiddiol roedd y Bwrdd wedi ymrwymo iddo yna byddai yn fater i’r Bwrdd benderfynu os dylid cefnogi’r cynnig diwygiedig neu beidio. Ychwanegwyd ar hyn o bryd mae’r Swyddfa Rheoli Prosiect yn ceisio deall beth yw’r problemau a sut y gallai'r rheini effeithio ar y prosiect.

           

Darparwyd diweddariad ar y Rhaglen Bwyd-amaeth a thwristiaeth a’r Rhaglen Arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel oedd yn cynnwys diweddariad ar brosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter sydd bellach yn cael ei adeiladu ac ar y trywydd iawn. I gloi derbyniwyd diweddariad gan y Rheolwr Rhaglen Ddigidol ar gofrestr risg y Portffolio ble cyfeiriwyd at dair risg. Roedd y risg gyntaf yn ymwneud a chapasiti ac adroddwyd bod y risg yma wedi lleihau ers y Chwarter diwethaf yn dilyn recriwtio staff i’r tîm Swyddfa Rheoli Prosiect.

 

Nodwyd bod y ddau risg nesaf, sef Rheoli Cymhorthdal a Mudo i’r Cydbwyllgor Corfforedig, yn risgiau newydd sydd wedi eu nodi ar y gofrestr risg. Ymhelaethwyd bod y risg Mudo i’r Cydbwyllgor Corfforedig yn risg posib a all gael effaith ar adnoddau. Nodwyd bod y Swyddfa Rheoli Prosiect yn cadw llygaid ar y risg yma sydd yn weddol isel ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd sylw nad oedd y daith o fudo’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i’r Cydbwyllgor Corfforedig yn glir i rai Cyrff sy’n rhan o’r Bwrdd. Gwnaethpwyd cais i drefnu cyflwyniad i’r Partneriaid sydd tu allan i Lywodraeth Leol er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth am y Cydbwyllgor Corfforedig a’i oblygiadau i bartneriaid sydd ynghlwm a’r Cynllun Twf. Cynigiwyd darparu cyflwyniad i gyfarfod o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd er mwyn rhoi diweddariad ar y daith ac oblygiadau sefydlu’r Cydbwyllgor Corfforedig. Croesawyd yr awgrym yma a chytunwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio raglennu hynny.

 

Mynegwyd pryder gan gynrychiolydd Prifysgol Bangor ynghylch y broses lywodraethu ar gyfer adnewyddu contractau sy’n cymryd sawl mis a phryderwyd bod y gofynion llywodraethu yn mynd i arafu’r broses o drosglwyddo. Adroddodd y Swyddog Monitro bod cais wedi ei yrru i’r partneriaid yn gofyn am wybodaeth ar eu prosesau penderfynu. Amlygwyd bod grŵp prosiect yn cynllunio sut i gyfathrebu materion y Cydbwyllgor Corfforedig a’r broses o drosglwyddo a’r oblygiadau posib. Nodwyd bod gwaith ar droed i friffio ac ymgynghori ar y broses a nodwyd bod gwaith manwl ar gyfathrebu ac ymgysylltu yn digwydd ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod y lefel ymwybyddiaeth am y Cydbwyllgor Corfforedig yn amrywio ar draws sectorau a bod angen cyfarch hynny.

 

Dogfennau ategol: