Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth,
2024 fel rhai cywir.
Cofnod:
Cadarnhawyd
bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 20 Mawrth,
2024, yn gywir.
Mater
yn codi o’r Cofnodion
Eitem
7 – Dyfodol Gwella Ysgolion yng Ngogledd Cymru
Cyfeiriodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE at y penderfyniad i gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod hwn
o’r Cydbwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a materion
llywodraethu, yn ogystal â goblygiadau cyllidebol, gan nodi:-
·
Y
paratowyd drafft cynnar o bapur i’w drafod gyda’r Bwrdd Rheoli, a bod y papur
eisoes wedi’i rannu gyda Phrif Weithredwr Cyngor Gwynedd, fel y Prif Weithredwr
Arweiniol.
·
Bod
y papur drafft yn cynnwys rhai o’r cwestiynau a godwyd gan aelodau’r
Cydbwyllgor, megis beth yw cost cau lawr y gwasanaeth, oes yna arbedion y
gellir eu gwneud o fewn y flwyddyn, beth yw’r modelau newydd wrth i ni
ail-siapio’r gwasanaeth a beth yn union fydd rôl y Cydbwyllgor a’r Bwrdd Rheoli
wrth symud ymlaen.
·
Y
gobeithir rhannu’r papur gyda’r Bwrdd Rheoli am sylwadau a’i gyflwyno i’r
Cydbwyllgor yng nghyfarfod Gorffennaf, neu o bosib’ bydd angen cynnal cyfarfod
brys rywle yn y canol petai’r sefyllfa yn newid yn weddol sydyn.
·
Ei bod yn eithaf clir o ddatganiad cychwynnol y Gweinidog Addysg newydd
fod y broses o ail-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion am barhau ac roedd
cwmni Isos, dan arweiniad Simon Day, wedi cael cytundeb 6 mis gan y Llywodraeth
i fwrw ymlaen ag ail ran y gwaith.
·
Y deellid bod y gweision sifil yn disgwyl i’r awdurdodau lleol ddatgan
beth yw eu partneriaethau i’r Llywodraeth yn fuan ar ôl yr hanner tymor i
ddechrau Gorffennaf, a’u bod yn parhau i lynu at yr amserlen hyd at 31 Mawrth,
2025. Yn amlwg, nid oedd unrhyw beth
wedi’i gyhoeddi nac yn ysgrifenedig o ran hynny, ond o bersbectif rhoi gobaith
a thawelwch meddwl i staff GwE, gorau po gyntaf bod y modelau, a beth yn union
yw’r swyddi o fewn y modelau hynny, yn cael eu rhannu.
·
Y
byddai cyhoeddi’r modelau hefyd yn rhoi gwybodaeth i aelodau’r Cydbwyllgor yn
eu hawdurdodau unigol ac fel awdurdodau ar y cyd ynglŷn â chost cau i lawr
y gwasanaeth a beth fydd y costau yn lleol o ran gweithio gyda phartneriaid i
gychwyn gosod y gwasanaeth newydd i fyny.
·
Gan
hynny, roedd yna ffactorau sydd angen eu penderfynu yn gynt, yn hytrach nag yn
hwyrach, os yw’r Llywodraeth am wireddu’r dyddiad o 31 Mawrth, 2025.
Mewn ymateb,
nodwyd bod y Prif Swyddogion yn llwyr ymwybodol o’r heriau a’r ansicrwydd sy’n
wynebu staff GwE, ac y dymunid sicrhau’r Cydbwyllgor bod pawb yn gweithio mor
gyflym â phosib’, yn unigol ac ar y cyd, i gyrraedd sefyllfa o sicrwydd
ynglŷn â’r trefniadau i’r dyfodol.
Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y dasg yn enfawr ac yn hynod o gymhleth
i’r awdurdodau lleol, yn enwedig o ystyried yr heriau ariannol sy’n eu hwynebu
ar hyn o bryd. Nodwyd ymhellach:-
·
Bod
un o’r gweision sifil arweiniol wedi datgan eu bod yn gwrando ar awdurdodau
lleol sy’n dweud wrthynt bod amserlen wreiddiol y Llywodraeth o safbwynt datgan
partneriaethau yn debygol iawn o fod yn afrealistig.
·
Bod
angen ychydig mwy o amser i weithio drwy’r modelau. Unwaith y bydd yna fwy o sicrwydd ynglŷn
â hynny, bwriedir datblygu partneriaethau yn lleol ac yn rhanbarthol i
gefnogi’r model hwnnw.
·
Yn
sicr, ni fydd yr awdurdodau lleol mewn sefyllfa i ddatgan eu bwriadau yn syth
ar ôl yr hanner tymor.
Mynegwyd pryder
bod staff GwE eisoes wedi wynebu 4 mis o ansicrwydd ers i’r Gweinidog wneud ei
gyhoeddiad ddiwedd Ionawr, a holwyd a fyddai’n bosib’ cael trafodaeth y tu
allan i’r cyfarfod ffurfiol ynglŷn â phriodoldeb rhyddhau rhai staff cyn
Mawrth 2025.
Mewn ymateb,
nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:-
·
Bod
manylion terfynol y comisiynau unigol gan yr awdurdodau lleol i GwE yn cael eu
paratoi ar hyn o bryd, cyn cael eu harwyddo gan y Deilyddion Portffolio Addysg,
y Cyfarwyddwyr ac yntau ar ran GwE.
·
Bod
risg y byddai staff ar secondiad yn dychwelyd i’w hysgolion, rhai staff yn
ymddeol ac eraill sy’n methu, neu’n anfodlon cymryd y risg, yn ymgeisio am
swyddi eraill yn y cyfamser.
·
Po
hiraf yr amserlen cyn penderfynu ar y modelau, yna mwya’r risg o fod mewn
sefyllfa o fethu cwblhau’r holl gomisiynau ar draws y rhanbarth, ac roedd hynny
yn ddibynnol ar y sector, daearyddiaeth a chyfrwng.
·
Bod rhaid ail-drefnu’r gweithlu bob tro mae aelod staff yn gadael, a
gellid dod i sefyllfa lle y byddai’n anodd cyfarfod â gofynion y comisiwn.
Nodwyd
yr angen i gadw mewn cysylltiad dros y dyddiau nesaf a gweithio allan y camau
nesaf.
Dogfennau ategol: