I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Nodi’r
risgiau perthnasol
·
Cefnogi
penderfyniadau’r Cabinet (14 Mai 2024) i gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen; i
gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
Nodyn:
Darparu
gwybodaeth am yr ysgolion hynny oedd efo diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
a’r symiau perthnasol.
Cofnod:
Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr
adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet 14 Mai 2024 lle cymeradwywyd y
trosglwyddiadau. Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu a chynnig sylwadau ar y
penderfyniad.
Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant
y Cyngor yn 2023/24, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau
unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr
holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd,
·
Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: Gwelwyd lleihad yn y gorwariant i £3.9
miliwn o’i gymharu ag adolygiad diwedd Tachwedd gan i’r adran dderbyn grantiau
ac incwm ers yr adolygiad diwethaf, sydd wedi cynorthwyo’r sefyllfa. Nodwyd bod
£1.8 miliwn o orwariant oherwydd pwysau cynyddol a chostus llety cefnogol yn y
Gwasanaeth Anabledd Dysgu. Yn y maes Gofal Cartref, mae costau staffio uwch a
lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel, tra bod pwysau ar y
gyllideb darparwyr gofal cartref preifat. Nodwyd bod bid o £1.6miliwn i
gynyddu’r gyllideb i ddelio â Gwasanaethau Anabledd Dysgu wedi ei wneud ynghyd
a bod gwaith ar y gweill i geisio gwell rheolaeth ar y cyllidebau – y
gorwariant yn ormodol ac felly rhaid mynd i’r afael a hyn.
·
Adran Plant: Ers adolygiad Tachwedd, gorwariant yr Adran wedi cynyddu o
£1.3 miliwn i £2.6 miliwn, oherwydd cynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol o
ganlyniad i gymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb
eu cofrestru, sy’n fwy costus. Bod gobaith i geisio trefn i fewnoli’r
gwasanaeth fel bod modd mynd i’r afael â’r gorwariant. Pwysau hefyd i’w weld ar
gyllideb y Gwasanaeth Derwen.
·
Adran Addysg: Tuedd o bwysau cynyddol ar y
gyllideb tacsis a bysus ysgolion yn parhau gyda gorwariant o £1.5 miliwn ar
ddiwedd y flwyddyn. Bod adolygiad strategol i’r sefyllfa gyda swyddog neilltuol
wedi ei benodi i ddelio â hyn. Trosiant staff, derbyniad incwm a grantiau, a
llai o bwysau ar gyllidebau eraill yn lleihau’r gorwariant i £95 mil. Yr adran
yn defnyddio £95 mil o'u cronfa tanwariant adrannol i ddiddymu'r gorwariant.
·
Adran Economi / Byw’n Iach. Yn 2022/23 rhoddodd y Cyngor £550 mil o
gefnogaeth ariannol i Gwmni Byw'n Iach uwchlaw taliad cytundebol y contract
ddarparu, er mwyn iddynt gynnal eu gwasanaethau a pharhau’n hyfyw fel cwmni. Y
gefnogaeth ariannol yn parhau eleni, a’r swm gofynnol wedi lleihau i £308 mil.
Rhagweld na fydd angen cefnogaeth i’r dyfodol.
·
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol; Gorwariant o £687 mil, oherwydd pwysau
ar y gyllideb cynnal ffyrdd a goleuo a lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei
gomisiynu gan asiantaethau allanol. Yn y maes bwrdeistrefol, gwelir pwysau
ychwanegol ar gyllidebau staff, a cholled incwm. Er hynny, Ymgynghoriaeth
Gwynedd yn rhagori ar y gyllideb.
·
Adran Amgylchedd: Tuedd o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu yn parhau ac yn £1.2 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn. Yr Adran yn
gweithredu argymhellion WRAP Cymru i geisio mynd i’r afael a’r gorwario. Diffyg
hefyd o £601 mil ar incwm parcio.
·
Adran Tai ac Eiddo: Tuedd o bwysau sylweddol llety dros dro digartrefedd
yn parhau i fod yn ddwys gyda gorwariant o £2 miliwn (er bod cyllideb
ychwanegol o £3 miliwn o bremiwm treth cyngor a grant o £597 mil gan y
Llywodraeth wedi ei ddyrannu i’r maes). Bod digartrefedd yn broblem sylweddol
ac yn creu pwysau gorwariant sylweddol. Y defnydd o ddyraniad un tro £1.4m o
ddarpariaeth covid corfforaethol a chronfa tanwariant
adrannol yn lleihau’r gorwariant a adroddir ar gyfer yr adran i £255 mil.
·
Ysgolion: Bod balansau’r ysgolion wedi gweld
gostyngiad o £3.4 miliwn, gan leihau o £11.9 miliwn yn 2022/23 i £8.5 miliwn yn
2023/24. Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn dilyn derbyn grantiau sylweddol, ond
rhagwelir y byddant yn ôl i lefelau arferol erbyn diwedd 2024/25.
·
Bod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wrth gau’r
cyfrifon, llwyddwyd i gynaeafu £2.8 miliwn o adnoddau.
O ran camau nesaf,
nodwyd bod gwaith ar y gweill i gwblhau’r datganiadau ariannol statudol 2023/24
i’w cyflwyno i Archwilio Cymru i’w harchwilio
Diolchwyd am yr
adroddiad a chydnabuwyd bod y cyfnod yn
un heriol iawn i wasanaethau.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod derbyn adroddiadau parhaus ar y sefyllfa yn fuddiol, ond bod
gorwariant sylweddol gan y Cyngor – ffodus o arian wrth gefn
·
Bod risg i’r gorwariant waethygu yn y tymor
hwy gyda phroblemau i’w rhagweld gyda nifer pobl hŷn yn cynyddu bydd yn
arwain at gynnydd mewn defnydd gwasanaethau ac felly’n cynyddu’r risg
gyllidebol i’r dyfodol - awgrym i ystyried allanoli gwasanaethau
·
Bod gorwariant mewn rhai meysydd yn ganlyniad i dan-gyllido –
disgwyliadau uchel gydag ychydig o fuddsoddiad
·
Byddai cynnwys symiau’r ysgolion hynny sydd gyda diffyg ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa
·
Bod toriadau wedi cyrraedd sefyllfa argyfyngus ac anodd
·
Yng nghyd-destun digartrefedd, angen deall y sefyllfa a derbyn
gwybodaeth am y niferoedd. Awgrym i ystyried cynnal sesiwn gwybodaeth i
aelodau’r pwyllgor ddeall y maes yn well ac i ddeall y rhesymau pam fod y gost
mor uchel
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod Cabinet mai’r prif reswm dros
y gorwariant yw nad oes cyllideb ddigonol a thoriadau yn mynd yn anoddach pob
blwyddyn sy’n cael ei adlewyrchu mewn meysydd gorwariant newydd. Ategodd bod
gwaith ar y gweill i ddelio gyda'r gorwariant gyda camau i reoli drwy
drefn o rybudd cynnar wedi ei ychwanegu ar adroddiadau. Nododd
hefyd bod pwysau ariannol yn rhoi pwysau ar wasanaethau sydd yn eu tro yn
arwain at golli gwasanaeth ac felly yn cael effaith ar drigolion Gwynedd a hyn
o ganlyniad i dangyllido gan Lywodraeth Ganolog.
PENDERFYNWYD
·
Nodi’r
risgiau perthnasol
·
Cefnogi
penderfyniadau’r Cabinet (14 Mai 2024) i gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen;
i gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
Nodyn:
·
Darparu gwybodaeth am yr
ysgolion hynny oedd efo diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a’r symiau
perthnasol.
·
Ystyried cynnal sesiwn
gwybodaeth i aelodau’r pwyllgor ddeall y maes yn well ac i ddeall y rhesymau
pam fod y gost mor uchel
Dogfennau ategol: