I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a chraffu’r penderfyniadau’r Cabinet
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn yr adroddiad
·
Nodi’r risgiau perthnasol
sy’n deillio o’r Cynllun Arainnol Tymor Canolig
·
Cefnogi penderfyniadau’r
Cabinet (14 Mai 2024)
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i’r
heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Pwrpas y cynllun yw gosod allan y
rhagolygon am sefyllfa’r Cyngor dros y dair blynedd ariannol nesaf gan gynnig
rhagdybiaethau yn ogystal a chynigion i fynd i’r afael â’r bwlch ariannol mae’r
Cyngor yn ei wynebu. Amlygwyd bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan y
Cabinet (14 Mai 2024)
Eglurodd y Prif Weithredwr nad yw canfod toriadau ar gyllideb a
gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau wedi cael ei gyflwyno
yn flynyddol ers 18 mlynedd. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal
gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond cydnabuwyd yr angen i ddod
a rhai gwasanaethau i ben yn y dyfodol.
Cadarnhawyd bod y gyllideb ar gyfer eleni wedi ei gosod a rhagwelir
diffyg sylweddol yn incwm y Cyngor erbyn 2027/28 ac felly mae gwaith yn mynd
rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol. Pwysleisiwyd bod y
rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd diwethaf a'i fod
yn gynllun cychwynnol i fynd i’r afael â chyllideb y tymor canolig.
Cyfeiriwyd ar grynodeb o’r cynllun gan nodi ei fod yn manylu ar ffactorau
hysbys sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor yn ystod y tymor canolig
(rhwng 2025/26 hyd at ddiwedd 2027/28). Manylwyd y rhagwelir chwyddiant ar
gyflogau staff y Cyngor yn ogystal â phrisiau nwyddau, yn ogystal â chynnydd
ardollau yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor o fewn y cyfnod hwn. Er hyn,
pwysleisiwyd nad oes cytundeb i gynyddu cyflogau gyda’r undebau ar hyn o bryd.
Pwysleisiwyd hefyd nad oedd ystyriaeth fanwl wedi ei roi i addasu lefelau treth
Cyngor, a byddai unrhyw addasiad angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn.
Esboniwyd fod y gyfradd chwyddiant a ddefnyddir yn y Cynllun yn
seiliedig ar ragolwg Banc Lloegr a chyngor gan gwmni Arlingclose,
sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. Nodwyd bod swyddogion wedi selio cyfradd
chwyddiant rhagdybiaethol i 2% ar gyfer nifer o flynyddoedd y tymor canol er
mwyn cynllunio i gyfarch y bwlch hwnnw. Cydnabuwyd bod galw blynyddol am
gyllideb ychwanegol uwchlaw chwyddiant mewn rhai meysydd a rhagwelir bydd angen
£3 miliwn y flwyddyn er mwyn ymdrin â’r galw hwn. Pwysleisiwyd mai darpariaeth
ddarbodus yw hyn, nid targed gwariant a bydd unrhyw fid ariannol yn derbyn
ystyriaeth ofalus.
Adroddwyd bod y Cynllun yn amcangyfrif bwlch ariannol o £36,200mil (cyn
ystyried unrhyw gynnydd Treth Cyngor ac arbedion sydd eisoes wedi eu hadnabod)
yn ystod y tymor canol yn seiliedig ar ragdybiaethau ac amcanion. Cadarnhawyd y
gobeithir cyflwyno amrywiol opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol a nodwyd yr angen
i ganfod cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac addasu lefelau treth Cyngor.
Penderfynodd y Cabinet gomisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain
ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch
sylweddol yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Bydd y gwaith hefyd yn
ystyried dulliau enwyd o ariannu gwasanaethau, yn rhoi darlun clir o
gynaliadwyedd y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn gymorth i wneud
penderfyniadau mewn cyfnod anodd. Ategwyd bod y Cynllun yn gynllun byw fydd yn
cael ei ddiweddaru fel bydd gwybodaeth yn dod i law.
Diolchwyd am yr adroddiad – yn gynllun allweddol sy’n gosod darlun o’r
sefyllfa i’r dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â modd cynnal sesiynau penodol gydag
Aelodau’r Pwyllgor ar gynlluniau tymor canolig fel sail i drafodaethau, nododd
y Prif Weithredwr, yn dilyn llwyddiant y sesiynau briffio yn ystod 2023/24, y
byddai cyfres newydd o sesiynau yn cael eu trefnu - bydd y sesiynau hyn yn
amlygu’r heriau sydd yn wynebu’r Cyngor. Ategodd bod cyfathrebu clir yn rhan
greiddiol o’r broses
Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Bod yr adroddiad yn amserol
·
Eu bod yn cytuno gyda’r argymhellion a briff y comisiwn
i’r Prif Weithredwr
·
Bod yn hanfodol ystyried ffyrdd newydd o ddarparu
gwasanaethau (statudol a hanfodol) - sector breifat a’r trydydd sector
Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â’r comisiwn, nododd y Prif Weithredwr
bod amrywiol feysydd yn cael sylw. Er profiad o ystyried ffyrdd o newid
gwasanaethau, rhaid canfod £17 miliwn mewn dull gwahanol. Nid yw’r Llywodraeth
yn debygol o ariannu’r gofod ariannol ac felly gofyn ar yr Awdurdodau Lleol i
gyflawni a chynnig y gwasanaethau. Y gobaith yw y bydd y cynllun yma yn cynnig
opsiynau i’r aelodau.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad
·
Nodi’r
risgiau perthnasol sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig
·
Cefnogi penderfyniadau’r Cabinet (14
Mai 2024)
Dogfennau ategol: