Agenda item

I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried y Cynllun Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar Mehefin 11eg 2024

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·          Derbyn yr adroddiad

·          Cymeradwyo priodoldeb y broses o sefydlu blaenoriaethau y Cynllun

·          Cefnogi’r argymhelliad i’r Cabinet (11 Mehefin 2024) i gymeradwyo’r Cynllun

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn gofyn i’r aelodau graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau bod y ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a bod priodoldeb y broses o sefydlu’r blaenoriaethau wedi eu hystyried yn llawn, cyn i’r Cabinet ystyried y Cynllun yn ei gyfarfod Mehefin 11eg 2024.

 

Eglurwyd bod y Cyngor yn derbyn grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol i’w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau rheoli asedau. Pan fabwysiadwyd y Cynllun Rheoli Asedau yn 2019, adroddwyd bryd hynny bod y Cyngor yn derbyn £6.6miliwn o adnodd cyfalaf bob blwyddyn, ac nid yw wedi cynyddu ers sefydlu Cynllun blaenorol yn 2009. Rhwng 2018 a 2023, derbyniwyd symiau uwchlaw hynny( oddeutu £2miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd), ar ffurf grantiau i bwrpas penodol.

 

Fodd bynnag, amlygwyd pryder y bydd y grantiau ychwanegol yn dod i ben, a’r grant cyfalaf craidd yn parhau ar yr un lefel - £6.6miliwn y flwyddyn. Bydd hyn yn golygu na fydd modd cyflawni cymaint gyda’r adnodd craidd - o ystyried lefelau chwyddiant dros y 5 mlynedd diwethaf y mae gwerth £6.6miliwn yn 2009 gyfwerth â £4.3miliwn heddiw, sy’n lleihad o 34%.

 

Wrth osod y cynllun 10 mlynedd newydd, rhagdybiwyd fod £47.7miliwn o arian cyfalaf ar gael i ymestyn y cynllun am 5 mlynedd ychwanegol. Daethpwyd i’r casgliad yma drwy ystyried swm grant cyfalaf blynyddol ynghyd â chyfalaf a chronfeydd sydd heb eu dyrannu yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol. Ategwyd, er mwyn ymateb i gynlluniau newydd sy’n codi lle nad oes modd eu rhagweld wrth osod y cynllun hwn, y bwriad yw parhau i gynnal darpariaeth o £0.5miliwn y flwyddyn er mwyn cyfarch y gofynion hynny. Nodwyd y byddai hyn yn dod â’r swm ychwanegol sydd ar gael i ymestyn y Cynllun Rheoli Asedau hyd at 2034 i £45.2miliwn.

 

Wrth sefydlu’r Cynllun 10 mlynedd, adroddwyd bod gwahoddiadau am geisiadau wedi eu gwneud i'r Adrannau i nodi eu hanghenion cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf - derbyniwyd 70 o geisiadau gyda chyfanswm gwariant o £129.3 miliwn. Aseswyd yr holl gynlluniau gan y Prif Weithredwr gan osod mewn categori risg uchel, risg cymedrol a risg isel. Cyflwynwyd y wybodaeth i Aelodau Etholedig i gasglu barn ar yr asesiad risg ar bob un o’r cynlluniau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i  gwestiwn ynglŷn ag astudiaethau dichonoldeb ac os bydd unrhyw welliant yn ddibynnol ar astudiaeth dichonoldeb, nodwyd mai rhan helaeth o’r broses fydd ymgeisio am grantiau drwy ffynonellau eraill a’r angen i ystyried bod cwtogi ddim yn amharu yn ormodol.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Yn diolch am y gwahoddiad i’r sesiwn briffio

·         Croesawu trefn i gyfarch y bwlch

·         Croesawu cyfraniad  premiwm tai i ariannu buddsoddiad brys i ddelio gyda risgiau iechyd a diogelach mân ddaliadau

·         Ystyried cyfalaf ychwanegol drwy werthu eiddo - a yw pob adeilad yn cael defnydd llawn? A oes adolygiad wedi ei wneud ers covid i adolygu defnydd adeiladau? A yw adeiladau yn cael eu defnyddio yn rhesymol?

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwerthu adeiladau i gynhyrchu cyfalaf ychwanegol, nodwyd bod y rhestr eiddo diddefnydd yn cael ei adolygu a bod defnydd ar hyn o bryd i bob adeilad ar wahân i’r rhai hynny sydd wedi eu clustnodi ar gyfer datblygiadau tai. Os na fydd yr eiddo yn briodol ar gyfer tai, y bwriad yw gwerthu. Yng nghyd-destun swyddfeydd, gyda’r cynllun toriadau a lleihad yn y gwariant refeniw, bydd staff yn cael eu gwasgu i lai o adeiladau gyda bwriad o ddefnyddio asedau gwag ar gyfer darparu gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd atal llifogydd ar yr A499 yn cael ei ystyried yn faes blaenoriaeth, nodwyd bod yr adran mewn trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru gan mai CNC fyddai’n ariannu cynllun o’r fath.

 

PENDERFYNWYD

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cymeradwyo priodoldeb y broses o sefydlu blaenoriaethau'r Cynllun

·         Cefnogi’r argymhelliad i’r Cabinet (11 Mehefin 2024) i gymeradwyo’r Cynllun

 

Dogfennau ategol: