Trafod newidiadau arfaethedig i amserlenni Rheilffordd Arfordir y Cambrian
2024
Cofnod:
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru eu bod yn bwriadu
lleihau nifer teithiau ynghyd ag addasu rhai amseroedd teithiau ar reilffordd y
Cambrian, gwaned cais gan rai o’r Aelodau i gynnal
cyfarfod arbennig fel bod modd cynnal sgwrs gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru
i gael mwy o wybodaeth gefndirol ar sut wnaed y penderfyniadau ynghyd ag
eglurhad o’r cyfiawnhad dros y newidiadau.
Adroddwyd bod cyfarfod Grŵp Cyswllt Trafnidiaeth wedi ei gynnal yn
yr Amwythig 11eg Ebrill 2024 i drafod y newidiadau. Mynegodd y Cyng. Gwynfor
Owen siom bod pob penderfyniad eisoes wedi ei wneud ac nad oedd unrhyw resymeg
dros ffigyrau y defnyddwyr a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad gan fod y rhain
yn creu argraff gamarweiniol o ddefnydd y rheilffordd. (pandemig COVID-19,
gwaith sylweddol ar yr isadeiledd, sgil effaith tywydd garw, anawsterau
dibynadwyaeth a pherfformiad wedi cael effaith sylweddol ar lefel y gwasanaeth
ac o ganlyniad ar ddefnydd y rheilffordd).
Cyfeiriwyd at rybudd o gynnig a gafwyd yng nghyfarfod o’r Cyngor Llawn
(Mai 2024) lle cynigodd y Cyng. Gwynfor Owen i Cyngor Gwynedd ddatgan yn glir i
Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru (perchnogion Trafnidiaeth Cymru), nad
yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian
yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau
trwy’r flwyddyn. Derbyniwyd y cynnig yn unfrydol gan Aelodau’r Cyngor.
Amlygwyd bod Ken Skates (Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth), wedi cytuno gyda’r angen am
doriadau o £700k er bod trenau newydd yn cael eu hychwanegu mewn rhai llefydd.
Cyfeiriodd y Cyng. Eryl Jones Williams at lythyr roedd Cyngor Tref Abermaw wedi
ei anfon at Ken Skates yn amlygu siom yn y newidiadau
arfaethedig i wasanaeth rheilffordd ar Reilffordd y Cambrian.
Roedd y llythyr yn nodi bod y cyfnod ymgynghori wedi bod yn rhy fyr (nad oedd
32 diwrnod yn ddigon o amser i gasglu ymatebion) a bod yn rhaid i ymatebwyr
gofrestru i gyflwyno eu barn yn debygol o atal pobl rhag cymryd rhan.
Mewn ymateb i’r sylw, nododd Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) mai
Adolygiad Amserlen Ar-lein oedd wedi ei gynnal i gasglu barn a gwybodaeth ar yr
addasiadau, ac nid ymgynghoriad.
Sylwadau cyffredinol yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Siom bod y penderfyniad wedi ei
wneud cyn rhannu gwybodaeth gyda defnyddwyr. Siomedig na chafwyd unrhyw
wybodaeth am y bwriad i newid yr amseroedd / teithiau yng nghyfarfod mis Mawrth
2024
·
Bod cyfnod yr ymgynghoriad yn rhy
fyr o lawer - pobl heb dechnoleg yn cael eu cau allan. Anodd deall nad
ymgynghoriad ydoedd
·
Dylai Trafnidiaeth Cymru ymgynghori cyn gwneud
unrhyw newidiadau - hyn yn sarhad ar bobl yr ardal. Hynod siomedig nad oedd
ymgynghoriad llawn – beth yw’r rheswm dros hyn?
·
Y neges sydd yn cael ei rhannu gan
Lywodraeth Cymru, yw ‘nad oes buddsoddi mewn ffyrdd newydd felly defnyddiwch
drafnidiaeth gyhoeddus’. Erbyn hyn maent yn gwneud toriadau i wasanaethau
rheilffordd!
·
Sut mae’r addasiadau yn cyd-fynd
â’r Polisi Gwyrdd o leihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd?
·
Nifer pobl ifanc yn gadael y Sir a
thrafnidiaeth yn un o’r rhesymau dros hyn.
·
Y newidiadau yn gosod cyrffyw ar bobl ifanc i aros allan
·
Bod y newidiadau yn gic arall i
ardal wledig – nid yw’n dderbyniol
·
Byddai colli gwasanaeth ynghyd ag
oediad i wella gwasanaethau a cholli trenau o wasanaeth prin i ddechrau yn creu
effaith enfawr ar ddefnyddwyr rheolaidd y Cambrian -
yn debygol o greu anrhefn i drefniadau teithio gweithwyr, myfyrwyr a theithwyr
i faes awyr Birmingham ynghyd ar effaith ar fusnesau a’r economi o golli
defnydd gan ymwelwyr. Bydd toriadau yn israddio’r rheilffordd ac yn creu
dyfodol ansicr i nifer.
·
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i’r
gwaith o adnewyddu Traphont Abermaw, syndod bod toriadau i’r gwasanaeth.
Ystyriwyd y byddai annog cynnydd yn fodd o dalu am y gwariant.
·
Cyn y toriadau, hapus gyda
pherfformiad Trafnidiaeth Cymru gyda chynnydd mewn dibynadwyedd a phethau yn
ymddangos yn nol i’r arfer wedi cyfnod covid: bydd y toriadau yn cael effaith sylweddol ar
hyn.
Yng nghyd-destun y ffigyrau a ddefnyddiwyd i gyrraedd y penderfyniad
mynegwyd anghrediniaeth mai’r ffigyrau a ddefnyddiwyd oedd defnydd o’r
rheilffordd yn ystod covid-19, pan oedd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar yr
isadeiledd, sgil effaith tywydd garw ac anawsterau dibynadwyaeth a
pherfformiad. Roedd rhain i gyd wedi cael effaith sylweddol ar lefel y
gwasanaeth ac o ganlyniad ar y defnydd o’r rheilffordd. Gyda hyn mewn golwg, ni
fyddai modd defnyddio a dibynnu ar ddata nifer y teithwyr yn y cyfnodau yma ac
felly nid oes darlun cywir na theg yn cael ei adlewyrchu. Yn ychwanegol, pan
mae trenau yn llawn, yn syml, nid oes tocynnwr yn casglu arian ac felly hyn yn
arwain at golledion ariannol a data camarweiniol.
Croesawyd Rhian Williams (Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd
Cyngor Gwynedd) i’r cyfarfod ac i gynnig sylwadau am y cyhoeddiad. Nododd ei
bod yn mynegi siom a bod ei sylwadau yn cyfateb gyda’r hyn oedd wedi ei nodi yn
barod. Ategodd bod cais wedi ei wneud i Trafnidiaeth Cymru ail ystyried y
penderfyniad, ond nad oedd ymateb wedi ei dderbyn.
Gwahoddwyd Gail Jones a James Nicholls o Trafnidiaeth Cymru i ymateb i’r
sylwadau. Amlygodd y ddau bod llawer iawn o ohebiaeth wedi cael ei dderbyn ynglyn a newidiadau i amseroedd trenau’r Cambrain a bod yr holl negeseuon yn cael eu hadolygu.
Ategwyd bwysigrwydd casglu tystiolaeth o’r effaith a’r angen i gyflwyno engreifftiau yn amlgyu
pwysigrwydd y Cambrian – annogwyd
pobl i godi eu llais.
Nododd James Nicholls bod pwysigrwydd i’r Cambrain
– bod y rheilffordd yn cael ei gydnabod fel un o’r rhai gyda’r golygfeydd gorau
o unrhyw reilffordd yn y byd a bod pob ymgais yn cael ei wneud i gydweithio yn
lleol a gwneud y rheilffordd yn well. Ategodd, yn dilyn effaith covid bod anhawster cael y lefelau teithwyr yn ol i’r ffigyrau cyn covid, ond
bod angerdd amlwg ymysg y pwyllgor i gyflwyno achos cryf a pharhau i hyrwyddo’r
rheilffordd.
Mewn ymateb i gais i ymestyn y cyfnod ymateb, nodwyd nad oedd hyn yn
bosib ond bod ambell sylw eisoes yn gofyn am oedi’r newidiadau am 12mis fel bod
modd ail edrych ar y ffigyrau a hyrwyddo defnydd. Byddai unrhyw ddiweddariadau
yn cael eu rhannu.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â beth oedd cyfanswm yr arbediad ac os
oedd hyn yn cyfateb i’r gymhariaeth cyn covid a
defnydd diweddar, nodwyd y byddai modd rhannu’r wybodaeth. Gwnaed cais ategol
ar sut roedd y cyfanswm o £700mil wedi ei gyfrifo.
Mewn ymateb i bryder y byddai gyrwyr trenau yn colli swyddi, nodwyd bod
Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y nifer staff fydd ei angen ar gyfer teithiau
gan sicrhau bod staff sbâr hefyd ar gael ar gyfer salwch ayyb.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a gyfrannwyd i’r drafodaeth. Nododd y dylai
unrhyw wybodaeth neu ddiweddariad gan Trafnidiaeth Cymru o’r sefyllfa gael ei
rannu gyda’r Pwyllgor.