Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1)
Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai
Pa fonitro a wneir o’r stoc tai cymdeithasol
sydd dan reolaeth yr Asiantaethau Tai ar ran Cyngor
Gwynedd i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol
i’n trigolion a chymunedau? Yn benodol, pa ystadegau sydd ar gael i nodi
i)
Tan-feddiant (un person mewn tŷ 3 neu 4 llofft)
ii)
Gor-feddaint (teulu
(rhiant/rhieni a dau blentyn neu ragor) mewn eiddo dwy lofft gyda’r plant mewn oed I gael
llofft ei hunain oherwydd amodau cyfreithiol oed/rhyw)
iii)
Absenoldeb tenant
(rhywun sy’n talu rhent ond
nad yw’n byw yn yr eiddo’n
barhaol)
iv)
Cyfnewid tŷ trwy hysbysebu
am ‘houseswap’ preifat
Ateb – Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ar
ran Aelod Cabinet Tai
Yn sgil y trosglwyddiad stoc tai cymdeithasol
yn 2010, nid oes gan Gyngor Gwynedd rôl nac adnodd i fonitro perfformiad y
Cymdeithasau Tai sydd yn weithredol yn y sir. Mae’r rôl monitro cymdeithasau
tai yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru trwy’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer
Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.
Er fod gan y Cyngor gyfrifoldeb dros
weithredu’r Polisi Gosod Tai Cyffredin ac yn gyfrifol am y Gofrestr Dai ar ran
y Bartneriaeth Tai, mae’r materion a godir gan yr Aelod yn faterion gweithredol
sy’n llwyr o fewn rheolaeth y cymdeithasau tai unigol. Fodd bynnag, mae gan y
Cyngor drefniadau cadarn trwy’r Bartneriaeth Dai i hwyluso cydweithio er mwyn
cynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd gael mynediad at dai fforddiadwy, ac
mae’r Adran Tai ac Eiddo eisoes wedi ysgrifennu yn ffurfiol at y cymdeithasau tai
i ofyn am yr wybodaeth.
Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Jina Gwyrfai
A ydych chi’n derbyn fod y materion hyn yn
achosi loes creulon a rhwystredigaeth i’n pobl ni, yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau ac
yn achos y ‘houseswaps’ yn niweidiol i’r yr iaith
Gymraeg? Os felly, sut gall y Cyngor, ar ôl derbyn y data priodol,
ddylanwadu/cydweithio ar y Bartneriaeth
Tai a gwella’r sefyllfa anfoddhaol bresennol,
gan sicrhau defnydd effeithiol o’n stoc tai prin?
Ateb – Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ar
ran Aelod Cabinet Tai
Er nad yn cytuno gyda'r
datganiad cyntaf gan nad oes tystiolaeth benodol ar hyn o bryd yn ôl y Gwasaneth Tai sydd yn cydfynd â
sail y pryderon, nododd yr Arweinydd, ei fod yn ymwybodol bod rhwystredigaeth
oherwydd bod gan y Cyngor rhestr aros hirfaith a hynny yn broblem sylweddol i
Cyngor Gwynedd fel sawl Cyngor arall. Fodd bynnag, nododd bod cais wedi ei
wneud i’r Partneriaid, nid yn unig yn gofyn iddynt gyflwyno’r wybodaeth sydd
wedi ei gynnwys yn y cwestiwn gwereiddiol, ond hefyd
i ymchwilio i mewn i'r sefyllfa i ymateb yn y ffordd mwyaf priodol ar sail y
dystiolaeth. O safbwynt tanfeddianu a gorlenwi,
nodwyd bod Polisi Gosod Tai Cyffredinol y Cyngor yn gosod blaenoriaethau ar
gyfer dyrannu eiddo cymdeithasol yn y sir a bod tanfeddianu
/ gorlenwi eisoes wedi eu cynnwys fel meysydd blaenoriaeth. Wedi derbyn y
wybodaeth gan y Cymdeithasau Tai, byddai’n hapus i’r swyddogion adrodd yn ôl a
rhoi diweddariad ar y sefyllfa a chysylltu yn uniongyrchol gyda’r Cyngorydd Jina Gwyrfai i drafod ymhellach.
(2) Cwestiwn Y Cynghorydd Angela Russell
Fel Arweinydd Grwp Annibynnol Gwynedd, hoffwn gael diweddariad ar yr
ymchwiliadau ar sut oedd cyn-bennaeth Ysgol Friars,
sydd yn euog ac wedi’i ddedfrydu, yn gallu parhau gyda’i ymddygiad rheibus dros
flynyddoedd lawer yn y sir hon. Oherwydd
difrifoldeb yr achos, mae’r Grwp Annibynnol ar hyn o bryd mewn cysylltiad a
Llywodraeth Cymru i ofyn am Ymholiad Cyhoeddus Statudol i’r mater trallodus
yma.
Ateb – Aelod Cabinet
Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown
Fel Aelod Cabinet Addysg ar Gyngor Gwynedd
mynegodd bod y 1af o Orffennaf 2024, diwrnod pryd carcharwyd y cyn-bennaeth
Neil Foden am gam-drin merched yn benllanw. Fel nifer
o Aelodau, mae’n meddwl llawer am y merched gafodd eu niweidio ac yn llawn
edmygu eu dewrder wrth gamu i’r llys a chyflwyno eu datganiadau. Croesawyd y
ddedfryd yn y gobaith y daw’r canlyniad â pheth heddwch i’r dioddefwyr a’u
teuluoedd a’u bod yn gweld ffordd ymlaen i ddechrau ail adeiladu eu bywydau.
Nododd y byddai troseddau o’r fath yn sicr o fwrw cysgod hir ar fywydau’r
dioddefwyr ac ar adegau pan fyddant yn famau / neiniau eu hunain, a’u plant / wyrion yn cyrraedd oedran ysgol bydd y
profiad o ffarwelio â hwy wrth giât yr ysgol yn un o emosiwn poenus. Yr hyn a
wnaeth y merched oedd mynd i’r ysgol – mynd yno i fod yn saff.
Amlygodd, mewn
sefyllfa o’r fath, term llac ac annigonol yw ‘gwersi sydd i’w dysgu,’ ond trwy
ddysgu, hyd eithaf ein gallu, gallwn ddysgu nad ydy peth fel hyn byth yn
digwydd eto yn y Sir. Adroddwyd bod adolygiad annibynnol gan Fwrdd Diogelu
Gogledd Cymru wedi dechrau o dan Gadeiryddiaeth Jan Pickles - person profiadol iawn, iawn sydd wedi arwain nifer o adolygiadau proffil
uchel a dwys iawn. Nododd yr Aelod Cabinet bod ganddi bob ffydd yn Jan Pickles a’i thîm ac ei bod yn croesawu'r gwaith, er bod
cyfyngiadau i’r broses. Nododd na fydd
modd cymell tystion na mynnu tystiolaeth ar lŵ,
ac mai gwahodd pobl i gymryd rhan fydd yr adolygiad gan ddisgwyl y bydd pawb
sydd yn derbyn gwahoddiad gan y Cadeirydd yn derbyn. Er yn amlygu pryder nad
yw’r gallu i orfodi pawb sydd yn cael gwahoddiad i dderbyn, y bydd unrhyw fater
sydd yn disgyn tu allan i sgôp yr adolygiad yn cael sylw ‘r Cadeirydd fydd maes
o law yn argymell beth i’w wneud gyda’r materion hynny. Er derbyn y
posibilrwydd y bydd ymchwiliadau pellach, a phetai’r
Comisiynydd Plant neu Lywodraeth Cymru yn teimlo'r angen am hynny, bydd yn
croesawu hyn - Grŵp Plaid Cymru Gwynedd eisoes wedi galw am ymholiad
cyhoeddus.
Ategodd y bydd
cyfeiriad e-bost yn cael ei sefydlu ar gyfer yr adolygiad ac unwaith y bydd hyn
wedi digwydd bydd yn cael ei rannu gyda phob Aelod. Os bydd unrhyw un gydag
unrhyw wybodaeth neu sylwadau perthnasol am y mater fe’u
hanogwyd i rannu’r wybodaeth / sylwadau gyda’r adolygiad.
Rhaid troi pob carreg – pob rhiant a phob
plentyn yn y Sir yn haeddu hyn.
Sylw Atodol Y Cynghorydd
Angela Russell
Bod angen sicrhau
bod Cynghorwyr a holl staff y Cyngor yn derbyn hyfforddiant o’r Polisi Canu’r
Gloch a sut i’w weithredu yn effeithiol
Ateb - Dafydd
Gibbard, Prif Weithredwr
Bod Polisi Canu’r
Gloch clir yn bodoli o fewn y Cyngor a bod staff yn ymwybodol ohono ac yn sicr
bydd modd codi ymwybyddiaeth y Polisi ymysg Cynghorwyr. Os bydd angen cynnal
hyfforddiant pellach, bydd modd cynnal trafodaethau i drefnu hyn
(3)
Cwestiwn Y Cynghorydd Elin Hywel
O ystyried clwm
annatod economi, cymuned, iaith a threftadaeth; pa gamau mae’r Cyngor yma yn
ymgymryd â hwy i sicrhau gwarchodaeth a chynaliadwyedd sectorau economi
treftadol a sgiliau traddodiadol cysylltiedig cymunedau Gwynedd?
Ateb – Dirprwy Arweinydd
ac Aelod Cabinet Economi, Y Cynghorydd Nia Jeffreys.
Bod sectorau
economaidd traddodiadol yn parhau i fod yn elfen bwysig o economi Gwynedd. Yn 2023 (data Cyfri Busnes DU, Arolwg ONS
2023 - NOMIS) cofrestrwyd 1,188 (22.5%) o fusnesau yn y sector amaeth yng
Ngwynedd, 30 o fusnesau coedwigaeth (0.6%), 30 o fusnesau pysgota (0.6%) a 10 o
fusnesau chwarela (0.2%). Er bod canrannau’r busnesau hyn yn parhau i fod yn
uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae nifer y busnesau a’r gweithwyr o fewn y
sectorau wedi dirywio yn sylweddol dros y blynyddoedd. Yn 2022 (data Cofrestr
Busnes a Chyflogaeth, Arolwg ONS 2022- NOMIS), cofnodwyd 4,500 (7.5%) o
weithwyr yn y sector amaeth, 75 (0.1%) mewn coedwigaeth, 35 (0.1%) o weithwyr
yn pysgota a 250 (0.4%) yn gweithio yn y sector chwarela.
Bod esblygiad y
sectorau hyn dros y canrifoedd wedi siapio ein cymunedau, wedi creu hunaniaeth
a gadael gwaddol diwylliannol cyfoethog.
Bod Cynllun y
Cyngor yn cydnabod gwerth treftadaeth a’r berthynas gyda’r economi a iaith. Mae
Prosiectau Blaenoriaeth Gwynedd Llewyrchus yn dangos fod camau yn cael eu
cymryd gan Cyngor Gwynedd yn y maes yma, yn cynnwys:
·
Rhaglen
Arfor – Mae Cyngor Gwynedd, drwy bartneriaeth ARFOR,
wedi bod yn ymchwilio i’r berthynas rhwng iaith ac economi ac yn treialu
gwahanol ymyraethau datblygu economaidd i gasglu tystiolaeth am effaith
gwahanol bolisïau economaidd ar yr iaith Gymraeg. Byddwn yn parhau i fonitro
effaith a gwerthuso’r buddsoddiad dros y flwyddyn nesaf.
·
Rhaglen
Llechi – mae sicrhau llewyrch o’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd
Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn un o feysydd blaenoriaeth y Cynllun. Mae’r
berthynas rhwng treftadaeth a’r iaith Gymraeg yn greiddiol i’r cynllun yma
ynghyd â’r cydweithio rhwng amrediad eang o bartneriaid yn y gymuned, sector
breifat a’r sector gyhoeddus i feddiannu’r buddion. Mae buddsoddiad o £18.6M
gan Llywodraeth Prydain drwy Gronfa Ffyniant Bro yn y cynllun Llewyrch o’r
Llechi er mwyn creu budd lleol o’r dreftadaeth a bydd cais Loteri Treftadaeth
llwyddiannus yn canolbwyntio yn ogystal ar ddatblygu sgiliau adeiladu
traddodiadol.
·
Rhaglen
Cefnogi Busnes a Menter - Mae busnesau yn wynebu heriau cyson wrth orfod wynebu
newid mewn galw’r farchnad, costau cynhyrchu a datblygiad technoleg. Mae Cyngor
Gwynedd wedi cymryd camau i gefnogi busnesau i addasu ac arloesi er mwyn
gwarchod a chreu cyflogaeth newydd yn ein cymunedau. Mae dros £2M wedi ei
ymrwymo i gefnogi gwahanol fusnesau rhwng 2023 a 2024. Mae’n amodol i bob
menter hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg a buddsoddi mewn tal byw i’w
gweithwyr ac mae nifer o fusnesau traddodiadol a mentrau lleol sydd yn hyrwyddo
treftadaeth wedi derbyn arian. Mae enghreifftiau ers 2023 yn cynnwys
buddsoddiad o £250,000 gan Cyngor Gwynedd, drwy raglen Ffyniant Gyffredin
Llywodraeth Prydain i Eco Amgueddfa a £400,000 i brosiect Môr Ni i gefnogi’r
sector forol a physgota.
·
Canolfan
Arloesi Gwledig Glynllifon - mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda Grŵp
Llandrillo Menai a’i bartneriaid ym Mwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu
canolfan fyddai yn datblygu sgiliau ar gyfer y sector bwyd amaeth. Mae’r gwaith
yn cyplysu sgiliau traddodiadol gyda sgiliau a thechnoleg gyfoes er mwyn
sicrhau hyfywdra mentrau i’r dyfodol.
·
Cynllun
Diwyllesiant - buddsoddwyd £1.6M drwy Gronfa Ffyniant
Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi cymunedau a sefydliadau
lleol rhwng 2023 a 2024 i ddatblygu prosiectau diwylliannol a threftadaeth ar
draws y sir.
Bydd Cyngor
Gwynedd yn paratoi Cynllun Economaidd newydd eleni er mwyn gosod cyfeiriad i
raglenni buddsoddi ar gyfer y cyfnod 2025-2028. Dwi’n rhagweld bydd dipyn mwy o
graffu ar flaenoriaethau economaidd dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud y
defnydd gorau o’r adnoddau fydd ar gael i gynnal a chreu cyflogaeth o ansawdd
yng Ngwynedd i’r dyfodol.
Cwestiwn Ategol Y
Cynghorydd Elin Hywel
“Diolchwyd am y
wybodaeth gynhwysfawr a dderbyniwyd yn yr ymateb. Hoffwn nodi fy mod yn edrych
ymlaen at ddatblygiad y cynllun economaidd newydd. Mae ein heconomi ni yma yng
Ngwynedd yn un byw sydd yn datblygu yn gyson. Mae ein dealltwriaeth o botensial
yr economi i alluogi cymunedau gwydn, annibynnol a chynaliadwy yn datblygu
hefyd. O gydnabod rôl economi yn gwasanaethu ein cymunedau mae pwysigrwydd i
warchod ein sectorau traddodiadol, treftadol yn ddyfnach na shar
y farchnad neu niferoedd o swyddi yn unig. Mae sectorau economi treftadol a
sgiliau traddodiadol Gwynedd yn cynrychioli iaith, diwylliant a sgiliau
unigryw.
I lefydd
arfordirol - fel Pwllheli, mae'r sectorau morwrol traddodiadol a threftadol yn
bwysig i barhad a datblygiad ein cymuned, i warchodaeth ein treftadaeth a’n
hunaniaeth.
Pa strategaethau
neu gynlluniau penodol sydd ar waith gan Gyngor Gwynedd i gydweithio a sectorau
treftadol morwrol ac arfordirol Gwynedd i warchod a datblygu’r sectorau yma?”
Ateb – Dirprwy Arweinydd
ac Aelod Cabinet Economi, Y Cynghorydd Nia Jeffreys.
Bod arfordir
Gwynedd yn faith, yn ymestyn o Abergwyngregyn i Aberdyfi, ac felly treftadaeth,
y straeon a’r hanes yn bwysig iawn i’r holl gymunedau i’w trysori, ond hefyd yn
dod a budd economaidd i’r Sir. Balch felly bod y Cyngor yn cydweithio drwy
gefnogi ac ariannu prosiectau megis Eco Amgueddfa sydd yn dathlu Treftadaeth
Morol Llŷn a phrosiect megis Mor Ni, sydd yn cefnogi pysgotwyr, busnesau a
mentrau sydd yn gwneud defnydd o gynnyrch mor, dros y ddwy flynedd diwethaf -
yn hapus i rannu mwy o wybodaeth gyda’r Cynghorydd ac eraill. Y prosiect yn
llwyddo i gyfuno'r traddodiadol gyda’r arloesol, y celfyddydau gyda gwyddoniaeth, gan gyflwyno
plant a phobl ifanc i weithgareddau cyffrous sydd yn amlygu cyfleoedd lleol yn
deillio o’r môr a threftadaeth. Ategodd y Cynghorydd, bod modd gwneud mwy, ac
yn deall sylw'r Cynghorydd Elin Hywel am yr angen am gynllun priodol; yn
croesawu cydweithio gyda’r Cynghorydd Elin Hywel a chynrychiolwyr o wardiau
arfordirol eraill i ddathlu hanes treftadaeth forwrol ein cymunedau
(4)
Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Bu’r Adran Amgylchedd
yn ddigon caredig i ddarparu rhestr, fesul ward, o'r cynlluniau gwerth mwy na
£100,000 yr ymgymerwyd â hwy i wella isadeiledd ffyrdd, llwybrau a phalmentydd
y sir yn ystod y pum mlynedd diwethaf. O blith y 22 cynllun, mae un sy’n berthnasol
i’r sir yn ei chyfanrwydd (y cynllun 20mya) ac un arall sydd wedi ei rannu yn
eithaf gwastad rhwng y prif drefi (peiriannau gwefru Gwynedd). O blith yr ugain
cynllun sy’n weddill, mae 5 ym Meirionnydd a 12 yn Arfon a gellir ychwanegu at
yr olaf gynllun Lôn Las Eifion sydd, er gwaethaf yr enw, yn perthyn i Arfon, ar
wahân i ben gorllewinol eithaf y llwybr sydd yn ward Clynnog. Dyna adael dau
gynllun yn Nwyfor. Dau allan o ugain. Beth sy’n
egluro’r anghymesuredd yma?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd
Meurig
Bod dadansoddiad yr Aelod yn gywir yng
nghyd-destun y wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i gwestiwn a chriteria eithaf
penodol.
Mae prosiectau trafnidiaeth eraill / ehangach
wedi eu gwireddu yng Ngwynedd sydd heb eu cynnwys yn yr ymateb i’r aelod. Er
esiampl, mae depo ac isadeiledd gwefru ar gyfer y bysiau trydan arloesol sydd
yn gweithredu ar drywydd y T22 wedi ei leoli ym Mhorthmadog. Bod gwaith yn cael
ei wneud ar gynlluniau eraill yn Nwyfor gan gynnwys
cyd weithio gyda chwmni Aldi ar gyfer cyflwyno
llwybrau cerdded a beicio ar y ffordd tu allan i’r archfarchnad newydd ym Mhwllheli.
Bydd proffil o be sydd yn bosib ei gyflawni
hefyd yn newid dros amser gyda gwerth y prosiectau yn gallu amrywio yn
sylweddol sy’n golygu bod nifer y prosiectau yn ei hunan ond yn un mesur.
Adroddwyd bod £350k wedi ei ennill eleni i wella llwybrau diogel tu allan i
ysgol newydd Treferthyr yng Nghricieth.
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd yn cyfeirio at
brosiectau ble mae ceisiadau am gyllid grant wedi bod yn llwyddiannus gyda
cheisiadau eraill wedi eu cyflwyno, gan gynnwys yn ardal Dwyfor, sydd heb fod
yn llwyddiannus am fwy nag un rheswm. Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn
gosod cyllidebau blynyddol ar gyfer wahanol grantiau ac mae nifer a gwerth y
ceisiadau yn sylweddol uwch na’r arian sydd ar gael i’w datblygu a gwireddu ar
draws Cymru. Nid yw criteria penodol sydd yn gysylltiedig â rhai grantiau yn ffafriol
i ardaloedd gwledig, sydd yn neud yr achos yn heriol os nad amhosib. Mae
datblygu ceisiadau o safon yn cymryd tipyn o adnodd yn ei hunan ac mae capasiti felly hefyd yn ffactor o ran nifer ac ansawdd y
ceisiadau mae modd eu datblygu a chyflwyno bob blwyddyn.
Gan gymryd yr uchod i ystyriaeth byddai’n
anodd iawn neud asesiad gwrthrychol o safbwynt os oes yna anghymesuredd gan fod
cymaint o ffactorau yn dylanwadu ar hyn.
Bydd y Gwasanaeth
Trafnidiaeth yn parhau yn ei ymdrechion i ddatblygu prosiectau sydd o fudd i
gymunedau ar draws Gwynedd. Gwnaed hyn wrth gydnabod bydd gwahanol
rhanddeiliaid a barn wahanol o ran blaenoriaethu be a ble fydd y prosiectau ac
ni fydd modd, yn anffodus, bodloni na chwrdd â chyfarch dyheadau a disgwyliadau
pawb. Ymagwedd y Gwasanaeth yw gwneud y gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael
ac i barhau i wireddu a chyflawni prosiectau trafnidiaeth ar sail blwyddyn i
flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chryfhau ceisiadau sydd wedi bod yn
aflwyddiannus yn y gorffennol.
Cwestiwn atodol Y
Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Sut mae'r adran yn
gwarantu tegwch y broses o ddatblygu prosiectau a cheisiadau am arian fel nad
ydy gweithredoedd yr adran ei hun (yn annibynnol ar feini prawf grantiau'r
Llywodraeth) yn arwain at ryw lun ar managed
decline yn achos Ardal Dwyfor, lle mae Gwynedd yn
diystyru Dwyfor fel mae Caerdydd yn diystyru Gwynedd?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Er yn deall y sentiment, mae meini prawf Llywodraeth yn golygu bod
Gwynedd, gyda phrosiectau o’r fath, yn aml ar ei cholled o gymharu â siroedd
mwy poblog ac yn anffodus dyma’r drefn, er nad ydym yn cydweld â hi. Er hynny,
balch bod rhywfaint o adnodd ar gael i ddatblygu'r prosiectau yn y lle cyntaf,
ac er bod rhai ar y silff ar hyn o bryd, maent yn barod i’w cyflawni ac nid yw
Gwynedd, fel rhai siroedd eraill, yn rhoi gorau i gapasiti.
Er bod cyfres o arbedion a thoriadau yn wynebu’r Cyngor yn y blynyddoedd nesaf,
bydd Gwynedd yn gwneud yn dda i ddal gafael ar yr adnodd sydd gennym.
Dogfennau ategol: