Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei adroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod 2023/24. Trafodwyd yr elfennau hynny sydd yn bwysig i unigolion, yr hyn na all bobl fyw hebddynt a cyfeiriwyd at ymchwil a wnaed gan sefydliad PAL (Cananda) ble canfuwyd y  pum peth pwysicaf oedd yn gyffredinol i bawb. Defnyddiodd y pum maes yma fel sylfaen i’w gyflwyniad gan drafod sut roedd y Gwasanethau Cymdeithasol yng Ngwynedd yn ymateb i’r elfennau hynny – teulu a chyfeillion, cartref fy hun, cael gwneud penderfyniadau, rôl sy’n cael ei werthfawrogi mewn cymdeithas a teimlo’n ddiogel.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cafodd ffilm fer ei rhannu yn amlygu gwaith arbennig tîm y gwasanaeth anabledd dysgu sydd yn gyfrifol am drefnu a datblygu cyfleoedd gwaith. Roedd y ffilm yn cynnwys cyfweliadau gyda gweithwyr cefnogol ac unigolion oedd yn derbyn cyfleodd ynghyd ag enghreifftiau o’r gwaith da sydd yn cael ei gyflawni.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i Marian Parry Hughes (Pennaeth y Gwasaneth Plant) ac Aled Davies (Pennaeth y Gwasaneth Oedolion) am eu gwaith. Diolchwyd hefyd i holl staff y gwasanethau gan ddiolch yn arbennig i Catrin Thomas am ei gwaith gyda Cefnogi Pobl a phob lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i Lois Owens (Uwch Swyddog Gweithredol) am ei gynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi’r adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad oedd yn amlygu’r gwaith da.

 

Ategwyd diolchiadau’r Arweinydd gan sawl aelod arall yn ogystal, a chodwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Bod llythyr oedd yn gynwysedig yn yr adroddiad oedd yn diolch am waith gofalwyr yn ysbrydoledig – diolchwyd i’r gwasaneth am eu gwaith

·         Er y gwaith da sydd yn cael ei gyflawni, nid oedd cyfeiriad at gwynion yn yr adroddiad

·         Bod dymuniad gweld cynlluniau cyfleoedd gwaith anableddau dysgu yn ymestyn i Feirionnydd (dim Arfon yn unig)

·         Bod yr adroddiad yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, yn onest ac yn hawdd i’w ddarllen

·         Bod angen ‘Gwynedd Oed Gyfeillgar’ ar gyfer pob oed – angen hyrwyddo hyn

·         Bod angen codi ymwybyddiaeth ac annog defnydd meddalwedd boardmaker

·         Bod yr adroddiad yn un positif er bod pwysau cynyddol ar y gwasanaethau

·         Bod angen mwy o gydweithio rhwng adrannau, ysgolion a lleoliadau gwaith i fynd i’r afael ag ymateb i’r galw cynyddol am ddiagnosis awtistiaeth (rhestr aros o ddwy flynedd). Goblygiadau costau i’r gwasanaeth yma felly angen cydweithio ar draws y gwasanaethau i ddeall y sefyllfa yn well a rhannu syniadau

·         Ymestyn diolch i waith y trydydd sector, i’r trigolion hynny yng Ngwynedd sydd yn ofalwyr di-dâl – angen gwneud mwy i’w cefnogi

·         Bod angen codi ymwybyddiaeth taliadau uniongyrchol fel modd o dderbyn gwasanaethau gofal a chymorth – esiamplau da ar draws y Sir lle mae hyn wedi llwyddo

 

Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Statudol:-

·         Bod pob ymgais yn cael ei wneud i efelychu gwaith y tîm gwasaneth anabledd dysgu yn Ne y Sir a hynny mewn ymateb i'r cynnydd yn y nifer o bobl gydag anableddau dysgu (o 44 i 99)

·         Bod cyfeiriad at gwynion wedi ei nodi yn y dudalen Gwybodaeth Bellach ar ddiwedd yr adroddiad oedd hefyd yn cynnwys dolen i Adroddiad Blynyddol Cwynion

·         Er derbyn bod rhestr aros o ddwy flynedd ar gyfer diagnosis awtistiaeth bod y gwasanethau plant yn ymdrin â symptomau ac nid cyflyrau gan sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn cael ei ddarparu. Amlygwyd bod Gwasaneth Awtistiaeth newydd wedi ei lansio yn ystod 2023/24 sydd yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i wella dealltwriaeth o awtistiaeth.

·         Bod gwaith gofalwyr di-dâl yn anhepgor i’r gwasanaeth gyda chanran sylweddol uchel o ofalwyr di-dâl heb gydnabyddiaeth - yn sicr mae lle i ddiolch a gwerthfawrogi eu gwaith. Er yn derbyn yr angen i wneud mwy, adroddwyd bod swyddogion penodol yn gweithio gyda gofalwyr di-dâl, yn cyflwyno syniadau arloesol i gefnogi plant a  buddsoddi adnoddau mewn hybiau oedolion i gefnogi gofalwyr.

·         Bod gwaith o godi ymwybyddiaeth taliadau uniongyrchol yn cael ei weithredu, ac yn sicr yn ffordd ymlaen.

 

PENDERFYNWYD

 

DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH

 

 

Dogfennau ategol: