Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

(a)   Mabwysiadu’r canlynol fel hunanasesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2023/24.

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

1.  Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

 

1.

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn.

 

Parhau i fynychu a chefnogi.

 

 

 

2.  Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

1.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau.

 

 

3.  Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1.

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

Ond, adolygwyd y Drefn Datrys Mewnol i gefnogi dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol dan 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

 

4.  Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

1.

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru.

 

 

 

 

 

Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

5.  Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

 

3.

Trefnwyd hyfforddiant Cod Ymddygiad llawn ar gyfer aelodau gyda’r sesiwn gyntaf yn cymryd lle yn ystod Chwefror a’r ail ym mis Ebrill.

Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant bellach gan fod nifer o aelodau heb fynychu.

 

6.  Rhoi goddefebau i aelodau

 

1.

Trafodwyd a dyfarnwyd dau gais am oddefeb gan y Pwyllgor yn Chwefror 2024.

 

 

7.  Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

1.

Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn ystod y flwyddyn ynglŷn ag Aelod Cyngor Gwynedd.

 

Yn ogystal adolygwyd y drefn ar gyfer gwrandawiadau er mwyn cryfhau'r cyfathrebu.

 

8.  Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Dim angen gweithredu.

Dim i’w adrodd

 

9. Monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor a’u dyletswyddau o dan Adran 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hynny.

 

2.

Cynhaliwyd sesiwn ar y cyd gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau i ystyried y dyletswydd.

 

Mabwysiadwyd meini prawf a threfn adrodd ar y dyletswydd.

 

Mae’r Swyddog Monitro wedi cyfarfod gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn unigol i drafod materion Cod Ymddygiad.

Bydd y trefniadau yn cael eu cynnal yn unol â’r canllawiau statudol.

10.  Ymarfer y swyddogaethau perthnasol uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Fodd bynnag cydnabyddir fod darparu i weithgaredd megis hyfforddiant wedi bod yn heriol ac mae’r ardal yma angen sylw a dod i gasgliad ynglŷn â ffordd ymlaen.

 

Angen ystyried adfer y rhaglen ar sail rithiol pan mae adnoddau yn caniatáu.

 

(b)   Cytuno i symud yr eitem Adolygu Trefniadau Datrysiad Mewnol o gyfarfod Tachwedd 2024 i gyfarfod Chwefror 2025 er mwyn ychwanegu eitem ar Hyfforddi a Chefnogi Cynghorau Cymuned i gyfarfod mis Tachwedd.  Yn dilyn yr addasiad hwn, cymeradwyo'r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2024/25:-

 

17 Mehefin, 2024

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn aelodau

Hunan Asesiad a Rhaglen Waith

 

4 Tachwedd, 2024

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn aelodau

Adolygu Gweithrediad Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol

Derbyn adroddiad o Fforwm Safonau Cymru

Hyfforddi a Chefnogi Cynghorau Cymuned

 

17 Chwefror, 2025

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn aelodau

Hunan Asesiad a Rhaglen Waith

Adolygu Trefniadau Datrysiad Mewnol

 

Dogfennau ategol: