Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio
preifat 12mis gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y collfarnau wedi digwydd yn ystod
ei gyfnod yn y fyddin ac
nad oedd wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod bellach
yn gweithio llawn amser ac
yn ceisio gwaith ar y penwythnos
i gael ail incwm i brynu tŷ yn
lleol.
Mewn ymateb
i gwestiwn gan y Rheolwr
Trwyddedu ynglŷn â’i allu i reoli ei
dymer wrth ymdrin â chwsmeriaid heriol, nododd ei fod wedi
aeddfedu ers ei gyfnod yn y fyddin
ac yn gallu
anwybyddu unrhyw gymhelliant i ymateb yn dreisgar.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
12 mis gyda Chyngor
Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Datganiad DBS
·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Mehefin
2017 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro
yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (A.39) yn Llys Ynadon Surrey. Cafodd ddirwy o £350.00, costau o £85, iawndal o £200 a Gordal i’r Dioddefwr
o £35
Yn Mai
2017, cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio
/ Difrodi Eiddo (gwerth difrod llai
na £5000) yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol
1971.
Yn Ebrill
2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o 3 achos
o droseddau Gyrru Difrifol i gyd yn groes i Ddeddf
Traffig Ffyrdd 1988 A.5
(1)(A). Cafodd ddirwy o
£300 a’i wahardd rhag gyrru am
12 mis
Yn Tachwedd
2021, derbyniodd yr ymgeisydd
6 pwynt cosb am beidio â datgelu
gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr - bydd y pwyntiau yn dod i ben 17 Tachwedd 2024
Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0
o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod
gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais.
Ystyriwyd
paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe
nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am
gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o
droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo
fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am 3 blynedd o leiaf. Ymdrinnir yn yr un modd a
chollfarn am ‘wrthod neu fethu darparu sampl’
Mae rhan 12 o’r
Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru
troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau
mae IN10
(defnyddio cerbyd sydd heb ei yswirio). Nodir bydd cais fel arfer yn cael ei
wrthod (12.10) os oes cofnod o waharddiad gyrru am gyfnod o 12 mis neu fwy, oni
bai bod 18 mis wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.
CASGLIADAU
Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad
yr ymgeisydd o’i amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu. Roedd yr
Aelodau o’r farn bod y collfarnau, yn unigol, yn bodloni
meini prawf y polisi, fodd bynnag,
gyda’r nifer collfarnau, roedd yn rhaid i'r
Is-bwyllgor ystyried y patrwm o aildroseddu.
Roedd y collfarnau gyrru difrifol wedi digwydd
10 mlynedd yn ôl ac y byddai'r pwyntiau presennol oedd ar drwydded
yr ymgeisydd yn dod i ben yn
mis Tachwedd 2024.
Er hynny, amlygwyd pryder bod collfarnau 2017 yn ymwneud â thrais,
ac yn unol â gofynion y polisi, nid oedd 10 mlynedd
wedi mynd heibio. Er hynny, ystyriwyd bod saith mlynedd wedi mynd heibio
ers collfarnau 2017 a bod sefyllfa’r ymgeisydd wedi newid ers
hynny. Roedd yr ymgeisydd bellach allan o’r
fyddin ac mewn cyflogaeth llawn amser a sefydlog. Gyda’r angen i
ddangos bod y math hwn o ymddygiad yn perthyn
i'r gorffennol, ystyriwyd mai priodol
yn yr achos yma fyddai caniatáu
trwydded am flwyddyn yn unig ac i
unrhyw gais adnewyddu trwydded ddod gerbron Is-bwyllgor ymhen 12mis.
Penderfynodd yr
Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio
preifat am 12 mis.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.