Agenda item

The Vaults, 334 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar addasu oriau gwerthiant alcohol.

 

Oriau Diwygiedig Cyflenwi Alcohol – Ar yr eiddo yn unig

10:00 – 00:00 Dydd Sul i Ddydd Iau

10:00 – 02:00 Dydd Gwener i Ddydd Sadwrn

 

Amodau:

·         Bydd amseroedd ansafonol yn parhau fel y maent ar gyfer penwythnosau Gŵyl y Banc, gyda chaniatâd ychwanegol i alluogi hyd at ddeg digwyddiad bob blwyddyn (Sul i Iau) lle caiff yr eiddo weithredu hyd at 02:00 gyda gwybodaeth a chytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu

·         Cynnwys amodau TCC arfaethedig

·         Cyflogi staff drysau sy’n gofrestredig â’r SIA o 21:00 ymlaen ar adegau lle mae’r eiddo yn agored ar gyfer busnes yn hwyrach na 23:00 (nos Wener a nos Sadwrn)

·         Deilydd y drwydded i gynnal asesiad risg i weld os oes angen Goruchwylwyr Drysau ar yr eiddo ac i gyflogi Goruchwylwyr Drysau, sy’n gofrestredig â’r SIA, os bydd angen hynny

·         Cynnwys  mesurau er dibenion rheoli sŵn

·         Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Cofnod:

Y Vaults, 334 Stryd Fawr, Bangor Ll57 1YA

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·         Mr James Chinery (yr ymgeisydd)

·         Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygwyd bod sylwadau am y cais wedi eu cyhoeddi yn y wasg a bod y sylwadau hynny yn gynamserol o ystyried nad oedd y cais wedi bod gerbron yr Is-bwyllgor.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer tafarn a bwyty Y Vaults, 334 Stryd Fawr, Bangor. Cafodd y cais ei gyflwyno mewn perthynas â cherddoriaeth byw ac wedi’i recordio tu mewn, lluniaeth hwyr yn y nos ar ac oddi ar yr eiddo a chyflenwi alcohol ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais, ond roeddynt wedi cyflwyno amodau a sylwadau yn ymwneud a’r egwyddorion o Atal Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd. Er yn croesawu menter busnes newydd ym Mangor tynnwyd sylw at yr angen i sicrhau ymgynghoriad gyda thrigolion cyfagos i’r eiddo a hefyd bod yr ardal dan sylw yn ardal brysur gyda’r nos. Awgrymwyd y byddai agor lleoliad arall yn yr ardal yma yn cynyddu’r nifer ymwelwyr ac o ganlyniad yn cynyddu’r risg o drwbl / anaf difrifol / marwolaeth. Cyflwynwyd sylwadau hefyd gan Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd oedd yn pryderu am effaith sŵn o’r eiddo ar drigolion cyfagos, a hefyd am ddiffyg gwybodaeth am gynllun ar y defnydd o gyfleusterau awyr agored.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell fod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau ac amodau’r Heddlu, ynghyd ag amodau ychwanegol Iechyd yr Amgylchedd fel y cytunwyd gyda’r ymgeisydd, a chymeradwyo’r cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Bod y dafarn yn un o hen dafarndai Bangor – dros 150 mlwydd oed

·         Mai’r bwriad oedd darparu tafarn / bwyty ar gyfer pobl aeddfed – nid oedd y fenter yn cael ei thargedu ar gyfer myfyrwyr / pobl ifanc

·         Bydd bwyd ac adloniant byw yn cael ei ddarparu ynghyd a lluniaeth hwyr yn y nos ar ac oddi ar yr eiddo (bydd hyn yn osgoi mwy o bobl yn hel tu allan i’r siop kebabs)

·         Ei fod yn derbyn sylwadau Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru am brysurdeb yr ardal - nid oedd yn rhagweld y bydd ei gwsmeriaid yn achosi trwbl.

·         Ei ddymuniad oedd rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned Bangor

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Theledu Cylch Cyfyng (TCC) a’r sicrwydd bydd y system yn effeithiol i gasglu tystiolaeth, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr ymgeisydd wedi cwblhau atodlen weithredol gynhwysfawr yn manylu ar ddefnydd TCC. Roedd hefyd wedi cytuno gydag amodau TCC yr Heddlu.

 

d)         Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt. Tynnwyd sylw at y sylwadau hynny a gyflwynwyd gan yr ymgynghorai nad oedd yn bresennol.

 

Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod cyfarfod buddiol wedi ei gynnal gyda’r ymgeisydd i drafod y cais

·         Bod yr ymgeisydd yn barod iawn i gydweithio ac wedi cytuno gydag amodau’r Heddlu

·         Bod yr Arolygydd, oherwydd prysurdeb yr ardal yma o Fangor gyda’r nos, wedi amlygu pryderon a thynnu sylw at broblemau posib fyddai yn codi o gynnydd mewn ymwelwyr i’r ardal.

·         Derbyn y bydd lluniaeth hwyr yn y nos yn cael ei weini o’r eiddo - hyn yn lleihau’r nifer fydd yn ymgasglu tu allan i eiddo lluniaeth hwyr cyfagos

·         Yn hapus gyda’r cais yn ddarostyngedig i leihau'r oriau gwerthiant alcohol a chynnwys yr amodau a gynigiwyd ar y drwydded

 

dd)         Yn absenoldeb Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd gan Iechyd yr Amgylchedd wrthwynebiad i’r cais yn dilyn cytundeb gan yr ymgeisydd i’r sylwadau a’r amodau a gynigwyd yn ymwneud â rheoli sŵn.

 

e)        Nid oedd gan yr ymgeisydd unrhyw sylwadau pellach

 

f)         Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu ei bod yn hapus gyda pharodrwydd yr ymgeisydd i gydweithio ac addasu’r  cais.

 

Diolchwyd i bawb am eu sylwadau 

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar addasu oriau gwerthiant alcohol.

 

Oriau Diwygiedig Cyflenwi Alcohol – Ar yr eiddo yn unig

10:00 – 00:00 Dydd Sul i Ddydd Iau

10:00 – 02:00 Dydd Gwener i Ddydd Sadwrn

 

Amodau:

           Bydd amseroedd ansafonol yn parhau fel y maent ar gyfer penwythnosau Gŵyl y Banc, gyda chaniatâd ychwanegol i alluogi hyd at ddeg digwyddiad bob blwyddyn (Sul i Iau) lle caiff yr eiddo weithredu hyd at 02:00 gyda gwybodaeth a chytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu

           Cynnwys amodau TCC arfaethedig

           Cyflogi staff drysau sy’n gofrestredig â’r SIA o 21:00 ymlaen ar adegau lle mae’r eiddo yn agored ar gyfer busnes yn hwyrach na 23:00 (nos Wener a nos Sadwrn)

           Deilydd y drwydded i gynnal asesiad risg i weld os oes angen Goruchwylwyr Drysau ar yr eiddo ac i gyflogi Goruchwylwyr Drysau, sy’n gofrestredig â’r SIA, os bydd angen hynny

           Cynnwys  mesurau er dibenion rheoli sŵn

           Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais, ond cynigiwyd amodau i’r ymgeisydd. Cadarnhaodd cynrychiolydd yr Heddlu yn y gwrandawiad fod yr ymgeisydd wedi cytuno i'r amodau hynny. Eglurwyd hefyd nad oedd sylwadau'r Arolygydd yn ymwneud yn benodol â'r eiddo na'r cais dan sylw, ond teimlwyd y dylid darparu'r wybodaeth i'r Is-bwyllgor. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth bellach oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

 

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu y bu problemau oedd yn berthnasol â’r egwyddor yma gyda’r eiddo.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, ac yn sgil pryderon a godwyd gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, cytunodd yr ymgeisydd yn ysgrifenedig i gynnwys mesurau ychwanegol yn yr atodlen weithredu at ddibenion rheoli sŵn. O ganlyniad, tynnwyd gwrthwynebiad y swyddog yn ôl.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn. Roedd y cais hefyd yn cynnwys eglurhad o’r mesurau ar gyfer sicrhau na fyddai alcohol yn cael ei werthu i rai dan oed, ac y byddai’r drwydded yn cynnwys amodau i’r perwyl hyn .

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais. Ar nodyn cyffredinol, eglurwyd mai ar sail tystiolaeth roedd yr Is-bwyllgor yn gwneud eu penderfyniad a bod y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: