Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

a)    Cytundwyd i argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys:

·         Y symiau ariannol a argymhellir yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel

·         Y ddau swm yn Atodiad 2 ar gyfer y cynlluniau risg cymhedrol

·         Dadymrwymo y symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym mharagraff 26 o’r adroddiad hwn.

 

b)    Comisiynu’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion na ellir ymrwymo i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32 o’r adroddiad hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn cadarnhau rhaniad adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Cytunwyd i argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys:

·         Y symiau ariannol a argymhellir yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel

·         Y ddau swm yn Atodiad 2 ar gyfer y cynlluniau risg cymedrol

·         Dad ymrwymo y symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym mharagraff 26 o’r adroddiad hwn.

 

b)    Comisiynu’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion na ellir ymrwymo i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32 o’r adroddiad hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn cadarnhau rhaniad adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod asedau’r Cyngor yn hanfodol ar gyfer gallu darparu gwasanaethau i bobl Gwynedd. Eglurwyd mai y Cynllun Rheoli Asedau yw cynllun hir dymor y Cyngor er mwyn cynllunio ymlaen am y 10 mlynedd nesaf. Mynegwyd fod yr arian hwn yn dod gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol a bod y Cyngor yn derbyn oddeutu £6.6m o adnodd y flwyddyn ac felly fod rhagdybiaeth y bydd oddeutu £47m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer y cynllun 10 mlynedd.

 

Eglurwyd fel rhan o'r gwaith i sefydlu’r Cynllun, gwahoddwyd ceisiadau gan Adrannau i nodi eu anghenion cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf. Derbyniwyd 70 o geisiadau gyda cyfanswm eu gwerth yn £129.3m. Aseswyd pob cynllun a gosod mewn categorïau risg. Nodwyd fod gwerth £79m o gynlluniau wedi ei gosod yn y categori risg uchel a oedd yn cael ei weld fel cynlluniau hanfodol i’w cyflawni.

 

Cynhaliwyd sesiwn gyda’r holl aelodau etholedig er mwyn cael ei barn ar y cynlluniau ac i gael cymorth ar sut i gwtogi’r gofynion gwariant. Cydnabuwyd fod y dewisiadau yn rhai anodd ond amlygwyd yr angen i ariannu rhai cynlluniau megis Cartref Gofal Grwpiau Bach i blant mewn gofal ac yr awgrym i ddefnyddio arian ychwanegol y premiwm treth cyngor ar gyfer rhai cynlluniau tai. Er hyn, eglurwyd fod yn rhaid torri cynlluniau ymhellach o ganlyniad i ddiffyg arian ac awgrymwyd i dynnu arian allan o hen gynlluniau yn ogystal.

 

Eglurwyd yn dilyn hyn i gyd fod y cynllun yn hafal ond fod angen ail edrych arni flwyddyn nesaf, rhag ofn y bydd rhai cynlluniau wedi eu tynnu allan o ganlyniad i grantiau a fydd yn galluogi ail neilltuo’r arian i gynlluniau eraill. Mynegwyd fod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi trafod y cynllun ac eu bod yn fodlon fod y drefn a ddilynwyd yn drwyadl ac yn gywir. Gofynnwyd i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ddechrau fis nesaf. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd pryder am y diffyg arian sydd ar gael ar gyfer cynlluniau risg uchel ac fod hyn o ganlyniad i benderfyniadau yn San Steffan.

·         Amlygwyd ychydig o oleuni ar yr adroddiad gydag arian yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cynlluniau mewn ysgolion, arian ar gyfer diweddaru harbyrau ac i greu cartref grŵp bychain i blant.

 

 

Awdur:Dafydd Gibbard

Dogfennau ategol: