Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

`           Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn hanfodol bod aelodau’r Cabinet yn ymwybodol o waith y Panel ar ddiogelu ac yn gallu bodloni eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a chydwybodol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y panel dros y flwyddyn 2023/24.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet ar rai materion yn yr adroddiad ac eglurwyd fod y Panel wedi diweddaru eu cylch gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol ac y Grŵp Gweithredol yn ystod y flwyddyn. Mynegwyd fod Polisi Diogelu newydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ogystal.

 

Manylwyd er fod cynnydd wedi bod yn erbyn materion diogelu bod diogelu yn y maes Plant ac Oedolion yn sefydlogi ond fod y gwaith yn parhau yn llethol. Amlygwyd pryderon am gwasanaeth DoLS (trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) gan fod rhai unigolion ar y rhestr aros am hyd at 3 mlynedd. Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r panel am y flwyddyn i ddod cyn nodi’r penderfyniad.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol dywysu drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion. Eglurwyd fod y panel yn un sy’n cyfarfod yn gyson drwy’r flwyddyn ac yn edrych ar yr holl waith diogelu ar draws y cyngor. Amlygwyd fod y Grŵp Gweithredol yn cefnogi’r gwaith ac yn pwysleisio ei fod yn faes ar gyfer yr holl Gyngor, ei holl staff a unigolion yn ein cymunedau.

 

Nodwyd fod pryder i’w amlygu gyda’r cynnydd mewn cyfeiriadau i’r Adran Plant gyda cynnydd o 248% yn y gwaith sy’n ymwneud â phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth. Mynegwyd fod niferoedd plant mewn gofal yn cael ei nodi yr un nifer a llynedd ond fod lleihad mewn gwir niferoedd. Ond gan fod ceiswyr lloches ar ben eu hunain bellach yn cael eu cyfri yn y ffigwr mae’n ymddangos yr un peth.

 

Ategwyd fod nifer cyfeiriadau i’r Adran Oedolion wedi cynyddu yn sylweddol yn ogystal ac eto amlygwyd y pryderon am DoLS gan adrodd y bydd trafodaeth bellach yn y Pwyllgor Craffu yn ystod yr wythnos ganlynol.

 

Eglurwyd y bydd Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf yn dilyn achos llys cyhoeddus am ysgol uwchradd yn y sir a fydd yn amlygu gwersi i’w dysgu ynghyd a rhoi gwelliannau ar waith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd fod diogelu yn fater o bwys mwyaf i aelodau etholedig ac fod yn maint y broblem yn drawiadol yng wyneb toriadau.

·         Tynnwyd sylw at y cynnydd enfawr mewn pryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth, a holwyd os yw’n anarferol o uchel. Nodwyd ei fod ond nad oedd modd amlygu rheswm dros hyn ond efallai bod addasiadau mewn addysg rhyw o fewn y gyfundrefn addysg wedi rhoi hyder  i unigolion siarad ac i leisio pryderon.

·         Amlygwyd nad oes ffigyrau i’w gweld am drais yn y cartref a nodwyd fod hyn gan ei bod yn anodd iawn cael y ffigyrau am y gwaith sy’n cael ei wneud. Tynnwyd sylw at y ffaith fod y Cyngor wedi derbyn achrediad ‘Rhuban Gwyn’ sydd yn sicrhau fod y Cyngor yn cymryd dull strategol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod.

·         Holwyd o ran hyfforddiant diogelu i staff os oes ffigyrau o nifer y staff sydd wedi mynychu cyrsiau ar ddiogelwch cymunedol ac atal. Eglurwyd fod cyrsiau diogelu yn fandadol i staff a bydd y niferoedd yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Panel Strategol.

 

Awdur:Dylan Owen

Dogfennau ategol: