Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd Y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg) a Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd mewnbwn y pwyllgor i’r newidiadau arfaethedig yn y modd y caiff y gwasanaeth gwella i ysgolion ei ddarparu i’r dyfodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun.  Diolchodd i staff GwE am eu holl waith a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd, gan nodi bod eu mewnbwn a’u cyngor arbenigol wedi’i werthfawrogi’n fawr gan yr ysgolion.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod canllawiau drafft Llywodraeth Cymru ‘Model cydweithredol rhwng ysgolion, ALlau, a’r llywodraeth genedlaethol’ yn nodi y dylai cyrff llywodraethu ‘Ystyried eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill er mwyn cefnogi cydgyfrifoldeb a gwelliant cydweithredol’, a holwyd a oedd bwriad i ail-sefydlu’r corff Llywodraethwyr Gwynedd, oedd yn weithredol cyn Cofid.  Mewn ymateb, nodwyd:

·         Bod bwriad i adfer y Fforwm ar gyfer llywodraethwyr, a hynny ar ffurf hybrid, gan hefyd edrych ar gyfleoedd i wneud y corff yn fwy torfol.

·         Bod Fforwm Plant a Phobl Ifanc yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd a’i bod yn naturiol mynd i’r afael â llywodraethiant ysgol hefyd, er mwyn cael llais pawb o ran symud yr agweddau hyn yn eu blaenau.

 

Mynegwyd pryder y gallai ymestyn ar y cydweithio rhwng ysgolion olygu bod y gwersi a ddarperir ar y cyd yn mynd yn fwyfwy Saesneg, o gofio bod dwy ysgol uwchradd yn y sir yn gweithredu fwy na heb fel ysgolion Saesneg.  Holwyd a oedd gan y Cyngor ganllawiau o ran cydweithio er sicrhau nad oes llithriad yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y model newydd yn awgrymu symud plant o un ysgol i’r llall i gael gwersi, ond yn hytrach yn cyfeirio at arweinyddion ysgolion yn cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd.

 

Awgrymwyd bod y trefniadau arfaethedig yn ymddangos yn hynod heriol.  Nodwyd bod yna bob math o broblemau unigol ymhob un ysgol a’i bod yn bwysig cael ysgolion tebyg i helpu’i gilydd, yn hytrach na gweithredu ar sail clystyrau daearyddol.  Nodwyd hefyd bod penaethiaid dan eu sang yn barod, a bod disgwyl iddynt gymryd rôl ychwanegol yn helpu ysgolion eraill (er yn gwneud hynny’n answyddogol eisoes) yn mynd i roi llawer o bwysau ychwanegol arnynt, yn enwedig mewn ysgolion bychain.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod rhoi hyn oll ar waith yn ysgolion Gwynedd yn mynd i fod yn heriol iawn am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith bod gan Wynedd gymaint o unedau ysgolion, a llawer o’r unedau ysgolion hynny yn ysgolion bach, a nifer fechan iawn o benaethiaid digyswllt.

·         Bod yr heriau’n amlygu’r hyn mae GwE wedi llwyddo i’w wneud dros y blynyddoedd, sef mynd i mewn i’r ysgolion a theilwrio’r arweiniad ar gyfer ysgolion unigol, waeth beth eu maint.

·         Y pwysleisir dro ar ôl tro yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru bod ein cyd-destun yng Ngwynedd yn gwneud hyn oll yn heriol iawn ac mai capasiti’r ysgolion, yn hytrach na’u gallu, i wneud y gwaith yw’r her.

·         Bod y pwynt daearyddol yn bwysig hefyd gan fod y clystyrau yng Ngwynedd yn wahanol iawn a hefyd bod ysgolion o fewn yr un clwstwr daearyddol yn cystadlu am blant o’r dalgylch.

·         Y byddai’n ofynnol cynllunio gwasanaeth gyda phobl yn y canol sydd â’r gallu i dynnu’r agweddau hyn at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn cael eu siâr o ran cefnogaeth gwella ysgolion hefyd.  Roedd yn gynamserol i ddweud sut y byddai hynny’n edrych nes cael y manylion y disgwylir amdanynt gan y Llywodraeth, ac yn amhriodol i sôn am hynny ar hyn o bryd yng nghyd-destun materion cyflogaeth ayb.

 

Nodwyd y dymunai’r craffwyr ychwanegu eu cefnogaeth i ymdrechion y Pennaeth i gael llais i sefyllfa unigryw Gwynedd.

 

Holwyd a fyddai’n bosib’ parhau i ddefnyddio arbenigedd swyddogion GwE yn ystod y cyfnod trosiannol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod rhaid bod yn ofalus o ran y wybodaeth y gellir ei rhannu oherwydd materion adnoddau dynol.

·         Bod nifer o staff GwE ar gytundebau parhaol a rhai wedi bod ar secondiadau sy’n dirwyn i ben, ac roedd penderfyniad wedi’i wneud drwy Gyd-bwyllgor GwE o ran y strwythur staffio ar gyfer y flwyddyn yma.

·         Gan fod GwE yn wasanaeth rhanbarthol, byddai’n rhaid i’r 6 awdurdod sy’n cael eu gwasanaethu gan GwE ddilyn yr un drefn o ran ymateb i ail-strwythuro a chyfleoedd cyflogaeth amgen i staff, ac roedd trafodaethau ynglŷn â hynny yn digwydd ar hyn o bryd.

·         O safbwynt cyllid, bod y grantiau, sydd eisoes wedi’u pasio ymlaen i GwE eleni, yn unol â dymuniad Llywodraeth Cymru, yn fwy na’r dyraniad craidd i GwE.  Yn y cyfarfodydd gyda’r Llywodraeth, gofynnwyd am sicrwydd o ran y grantiau hyn, ond gan nad oedd y grantiau yn dod o’r setliad, roedd yna oblygiadau cyflogaeth hyd yn oed wedyn yn yr ystyr na ellid cyflogi’n barhaol gyda grant oherwydd y posibilrwydd na fyddai’r grant yna ymhen 12 mis.

·         Bod yr ystyriaethau o ran adnoddau dynol yn derbyn sylw gan arbenigwyr o Wynedd a bod hynny’n lleddfu pryderon o safbwynt bod y broses yn mynd i gael ei dilyn yn gywir.

 

Yn wyneb yr esboniad ynglŷn â’r cyllido, awgrymwyd bod gan y model hwn botensial i fod gryn dipyn yn rhatach yn yr hir dymor, a gofynnwyd, gan fod cyfran helaeth o’r gefnogaeth yn ddibynnol ar arian grant yn hytrach na dyraniad, a fyddai’n deg dweud y gellid gweld hyn fel ffordd o gau’r tap.  Mewn ymateb, nodwyd y credid bod yna wirionedd yn hynny, ac er bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod yn gweithio’n galed i geisio sicrhau bod cyfanswm yr arian sy’n mynd i mewn i’r maes yma yn aros yr un fath, nid oedd yna unrhyw sicrwydd ar ba sail y byddai hynny’n cael ei ddyrannu a phryderid ynglŷn â chapasiti’r ysgolion i fedru rhyddhau unigolion i fynd i ysgol arall i wneud y gwaith.

 

Awgrymwyd, os yw’r cydweithio rhwng ysgolion yn fater o drefniant anffurfiol a disgresiwn pennaeth, ac ati, y gallai fod yn anodd iawn gwneud achos ariannol drosto.  Mewn ymateb, nodwyd er nad oes sicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r union fodel, ei bod yn debygol y byddai cynnig cyffredinol yn cael ei wneud i’r mwyafrif helaeth o ysgolion yn seiliedig ar y gwaith dalgylch, gyda’r Awdurdod yn dyrchafu’r gwaith yn fwy o gomisiwn ar gyfer targedu agweddau neilltuol mewn ysgolion lle mae mwy o heriau penodol.

 

Mynegwyd dymuniad i weld llai o ymreolaeth a mwy o unffurfiaeth o fewn y gyfundrefn addysg ar draws y DU, ac eithrio’r gwahaniaeth ieithyddol a’r agweddau diwylliannol ar y cwricwlwm yn ymwneud â hanes lleol, ac ati, yn achos ardaloedd fel Gwynedd.  Credid y byddai unffurfiaeth o’r fath yn milwrio yn erbyn yr elfen o gystadleuaeth sy’n gallu bodoli rhwng ysgolion, yn hwyluso rhannu ymarfer da gyda gweddill y sefydliad ac yn ei gwneud yn haws gosod safonau a mesur yn erbyn y safonau hynny.  Mewn ymateb, nodwyd y derbynnid y pwynt, ond nad oedd gennym unffurfiaeth o fewn y gyfundrefn addysg, nac yn debygol o’i gael wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd yr aelod fod sylwadau swyddogion GwE ar eitem 7 yn nodi nad ydym, i bob pwrpas, yn gwybod beth rydym yn ei fesur, ac y byddai’n braf gallu cychwyn rhyw fath o unffurfiaeth ar lefel lleol bron.

 

Holwyd a oedd gan yr Adran Addysg y capasiti i fynd i’r afael â’r holl gyfrifoldebau ychwanegol hyn, o ystyried ei bod yn adran fechan beth bynnag ac yn wynebu llawer o heriau dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y capasiti yna ar hyn o bryd, ond y byddai’n rhaid ail-strwythuro’r Adran i allu ymgorffori’r swyddi a’r cyfrifoldebau sy’n dod yn sgil hyn.

 

Holwyd a ellid bod yn hyderus y bydd yr adnoddau fydd yn cael eu rhyddhau yn ddigonol ar gyfer cwrdd â’r gofynion.  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn gynamserol i roi ateb pendant yr un ffordd neu’r llall, ond y byddai’n heriol oherwydd y niferoedd ysgolion yng Ngwynedd a natur wasgaredig y sir.

 

Holwyd a oedd disgwyl i’r system newydd fod yn barod erbyn mis Medi.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod rheidrwydd ar yr Awdurdod i gyflwyno’r model newydd ym Medi/Hydref.

·         Y byddai yna oblygiadau wedyn o ran trosglwyddo staff.  Ni ellid cadarnhau ar hyn o bryd a fyddai’n bosib’ gwireddu’r newidiadau hynny erbyn diwedd Mawrth 2025, a byddai’r Awdurdod yn derbyn cyngor ar hynny.

·         Y credid y byddai’n well petai’r sefyllfa’n parhau fel y mae tan ddiwedd tymor yr haf beth bynnag, gan na ddymunid newid pethau yn ganol blwyddyn ysgol.

·         Nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ar hynny’n derfynol eto oherwydd bod cymaint o bethau yn ansicr ar hyn o bryd.

 

Holwyd a olygai hynny y gellid bod mewn sefyllfa lle nad oes dim byd yn ei le.  Mewn ymateb, nodwyd na chaniateid i hynny ddigwydd, ac y byddai’n rhaid sicrhau bod yna wasanaeth mewn lle, hyd yn oed petai hynny’n barhad o’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd, neu’n fersiwn gwahanol neu drosiannol ohono.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: