Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wneud pob ymdrech i ymgynghori gyda’r cynghorwyr sir lle mae hynny’n briodol.
  3. Bod yr Adran Economi a Chymuned, wrth wneud gwaith ymchwil, yn edrych ar y materion penodol a godwyd gan y pwyllgor ynglŷn â data ac ati.

 

Cofnod:

Croesawyd Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi), Roland Evans (Pennaeth Cynorthwyol – Diwylliant) ac Angela Jones (Pennaeth Partneriaethau – Parc Cenedlaethol Eryri) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn cyflwyno diweddariad ar Gynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 ac yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r cynnydd, y Cynllun Gweithredu a’r Mesuryddion

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ddangos gwir ddiddordeb yn y maes a mynychu cyfarfodydd lleol yn gysylltiedig â’r pwnc, sy’n amlygu pa mor hawdd yw’r cysylltiad sydd o fewn y Cyngor i fedru gwireddu cynllun o’r fath.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn dweud bod ymgynghori helaeth wedi ei gynnal wrth ddatblygu’r Cynllun, ond ac eithrio’r gweithdai a gynhaliwyd ar y cychwyn, ni chredid bod unrhyw ymgynghori arall wedi digwydd gyda chynghorwyr sir, o leiaf.  Holwyd pa ymgynghori sydd wedi digwydd yn ardal y Parc Cenedlaethol, a gyda phwy?  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr ymgynghori wedi digwydd yn eang rhwng pawb.  Cynhaliwyd sawl sesiwn rhwng y Cyngor a’r Parc gyda’r cynghorwyr i gyd ar draws yr ardal, yn cynnwys yr ardal wledig o Gonwy sydd yn y Parc.

·         Bod y bartneriaeth sydd wedi’i chreu yn disodli’r hen Grŵp Rheoli Cyrchfan oedd yn bodoli cynt a’i bod yn cael ei chynnal gan y Cyngor, gyda’r Parc yn bwydo i mewn i hynny hefyd.

·         Bod y Grŵp sydd wedi’i sefydlu bellach, sy’n cynrychioli busnesau a chymunedau, yn grŵp arloesol ac yn wir gynrychioli’r holl ardal.  Gan hynny, am y tro cyntaf, cafwyd darlun llawn o’r holl brosiectau a’r gweithgareddau sy’n digwydd ar draws yr ardal gyfan.

·         Yn ogystal â’r ymgynghori ffurfiol, anfonwyd 4 nodyn briffio at bob cyngor cymuned a’r cynghorwyr i gyd ar draws yr ardal hefyd, a bwriedid anfon nodyn briffio pellach at bawb yn fuan yn rhoi diweddariad ar bopeth sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf.

·         Bod bwriad hefyd i gynnal cynhadledd flynyddol sy’n dod â phawb sydd â diddordeb yn y pwnc at ei gilydd, ac roedd hyn eto’n ffordd reit newydd ac eang o gael mewnbwn gan yr holl ardal.

 

Mewn ymateb, nodwyd y derbynnid bod yna ymgynghori wedi digwydd ar y cychwyn, ond y credid bod angen ymgynghori parhaus ar gynllun o’r fath.  Nododd yr aelod hefyd mai dyma’r tro cyntaf iddo glywed am y nodyn briffio, ac nid oedd yn ymwybodol ei fod wedi ei dderbyn.  Nododd hefyd, gan nad oes gofyn statudol i’r Parc ymgynghori â chynghorwyr sir, eu bod yn cael eu gadael allan gan amlaf, a galwodd ar y Parc i ymgynghori’n llawer gwell â chynghorwyr sir ar faterion sy’n digwydd o fewn y Parc.

 

Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar rôl y grwpiau ymgynghori lleol Ardal Ni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y grwpiau Ardal Ni yn fforwm eithaf newydd gan y Cyngor ar gyfer ymgysylltu â chymunedau i weld beth yw eu blaenoriaethau hwy ar lefel leol.

·         Mai rhai o’r prif faterion yn codi o fewn yr 13 ardal oedd sut i gael twristiaeth gynaliadwy o fewn yr ardal, gyda nifer o’r materion yn ymwneud ag isadeiledd yr economi ymweld hefyd.

·         Bod yr ymatebion ar lefel cymuned yn eithaf lefel uchel ac aethpwyd drwy bob un o’r cynlluniau gweithredu sydd wedi’u hadnabod a’u blaenoriaethu er mwyn ceisio eu hymgorffori yn y cynllun gweithredu.

·         Bod ymgynghori yn digwydd ar hyn o bryd i gytuno ar y strwythurau gweithredu o fewn yr 13 Ardal Ni, a bwriedid parhau â’r ymgysylltu yma wrth weithredu’r cynllun gyda’r 13 ardal drwy’r swyddogion cefnogi cymunedau.

 

Mynegwyd pryder bod y Dashfwrdd Mesuryddion yn awgrymu nad cynllun twristiaeth gynaliadwy sydd yma, ond cynllun twf twristiaeth gynaliadwy, gyda’r holl gynlluniau i weld yn gogwyddo tuag at dwf mewn twristiaeth.  Nodwyd hefyd nad oedd y data ynglŷn â nifer swyddi, ee, yn nodi ydi’r swyddi hynny yn cael eu dal gan bobl leol ai peidio ac ydi’r cyflogau yn ddigonol, ac ati.  Mynegwyd dymuniad i weld y math yma o dystiolaeth yn cael ei chasglu er mwyn gweld os ydi twristiaeth, sy’n debygol o dyfu beth bynnag, yn gynaliadwy ac yn llesol yn lleol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad twf yw amcan y Cynllun, eithr ceisio sicrhau economi ymweld sy’n cydbwyso anghenion cymunedau, yn cefnogi’r iaith Gymraeg ac yn cefnogi diwylliant a phobl y sir.

·         Bod y cynghorydd wedi canolbwyntio ar y drydedd egwyddor o fewn y Cynllun sy’n edrych ar y mesuryddion economaidd.  Yn draddodiadol, dyma’r unig fesuryddion fyddai wedi bod ar gael i fesur yr economi ymweld yng Ngwynedd, a’r pryder oedd ein bod yn mesur ar sail twf a gwerth, yn hytrach nag ar sail y canlyniadau ar yr amgylchedd, yr economi a’n cymunedau a’n diwylliant.

·         Mai dyna pam bod yna ddashfwrdd ynghlwm i’r adroddiad yn cynnwys, nid yn unig yr elfennau llywodraethol, ond hefyd sut rydym ni’n edrych ar effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg ac ar yr amgylchedd.

·         Y byddai holiadur yn cael ei anfon allan at gymunedau am y tro cyntaf yn gofyn ydyn nhw’n teimlo bod twristiaeth yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol arnynt fel cymuned ac ar eu hiaith a’u diwylliant a’u hamgylchedd.

·         Bod bwriad hefyd i edrych ar faint sy’n cael eu cyflogi, gan fod hynny’n ddangosydd pwysig, ond fel rhan o hynny, bwriedid edrych ar gyfartaledd cyflog o fewn y sector hefyd gan y dymunid gweld y sector yn un sy’n cynnig cyflog da, a hynny drwy’r flwyddyn.

·         Yr edrychid hefyd ar faint o fusnesau sy’n defnyddio cynnyrch lleol a faint o’r gadwyn gyflenwi leol sy’n cael hwb trwy’r sector economi ymweld.

·         Yr edrychid hefyd ar dwf, nid o ran nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’r ardal, ond faint sy’n dod ar wahanol adegau o’r flwyddyn, gan mai ymestyn y tymor yw nod y Cynllun.

·         Mai un o amcanion prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth Academi Croeso Cymru yw cydweithio gydag ysgolion yn lleol i ddatblygu eu diddordeb yn y maes twristiaeth a’r economi ymweld a datblygu llwybr gyrfa i bobl leol o fewn yr economi ymweld fel bod y sector yn cael ei weld fel cyfle gyrfa, yn hytrach na chyfle achlysurol neu waith dros dro.

 

Mynegwyd dymuniad i weld mwy o fin ar y mesuryddion.  Yn benodol, dymunid gweld manylder o ran nifer y bobl leol sy’n gweithio yn yr ardal.  Fel arall roedd peryg’ o gael diwydiant twristiaeth sy’n dod yma o ardaloedd eraill a ddim yn gwreiddio yn y gymuned.  Mynegwyd pryder hefyd o ddeall mai un o amcanion cynllun twristiaeth gynaliadwy yw ymestyn y tymor twristiaeth, a holwyd a fu ymgynghori eang ar yr amcan hwnnw, gan fod llawer o bobl leol yn casáu prysurdeb y prif dymor gwyliau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod neges glir wedi dod allan o’r ymgynghoriad ynglŷn â phwysigrwydd ymestyn y tymor twristiaeth er mwyn cael llai o effaith ar gymunedau’r sir.

·         Ei bod hefyd yn bwysig ymestyn y tymor fel bod modd i weithwyr yn y sector twristiaeth gael eu cyflogi’n barhaol drwy’r flwyddyn, a hefyd i fusnesau allu cadw eu staff.

·         Y dymunid gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n ymweld â’r ardal yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, gyda’r niferoedd wedi’u taenu dros y flwyddyn gyfan er mwyn cael mwy o swyddi cynaliadwy o fewn yr economi ymweld.

 

Mynegwyd amheuaeth ynglŷn â’r nod o leihau nifer yr ymwelwyr yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst gan fod pobl am barhau i ddod i Wynedd yn ystod gwyliau ysgol beth bynnag.

 

Nodwyd bod yna sawl cyfeiriad yn y dogfennau at ymchwil a gafodd ei gomisiynu neu sy’n mynd i gael ei gomisiynu, a bod hynny’n rhywbeth i’w groesawu. 

 

Nodwyd bod gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod 59% o’r llafurlu yng Ngwynedd sy’n weithredol ym maes gwestai a bwytai (sy’n tueddu i fod yn waith tymhorol cyflog is) yn medru’r Gymraeg, o gymharu â 74% yn y maes adeiladu (sy’n tueddu i fod yn waith llawn amser ar gyflog uwch).  Roedd hynny’n awgrymu, o bosib’, bod tai haf yn dod â mwy o fudd i’r wir boblogaeth leol, drwy waith addasu ac adnewyddu, ayb, nag ydi, e.e. gwestai neu feysydd carafanau sydd ddim mewn perchnogaeth leol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y credid bod cael pobl yn aros dros dro mewn gwesty neu’n gwersylla yn dod â mwy o fudd i’r economi ymweld ac yn golygu nad yw tŷ allai gael ei ddefnyddio fel cartref i deulu yn cael ei dynnu allan o’r farchnad dai.

·         Efallai bod tystiolaeth i’r gwrthwyneb, gan fod y mater tai haf yn gymhleth, a byddai’r Aelod Cabinet yn hapus i edrych i mewn i hynny.

 

Mynegwyd gobaith y byddai’r ymchwil yn y maes yn cwmpasu’r agweddau yma.

 

Awgrymwyd nad yw’r un sector economaidd mor ddibynnol ar lafur plant na’r sector twristiaeth a bod hyn yn awgrymu diffyg gweithlu yn lleol, neu fod pobl leol ddim yn gweld y rhain fel swyddi da.  Nodwyd y dymunid gweld sector twristiaeth fechan mewn perchnogaeth leol ac yn cynnig cyflogau uchel, ond ni chredid ein bod yn ddigon pendant yn ein trafodaethau ynghylch y maes yma o safbwynt yr hyn y byddem yn dymuno ei weld.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gwaith ond megis dechrau ar gynllun a gweithredu partneriaeth hollol newydd sy’n mynd i ganolbwyntio ar geisio sicrhau’r economi ymweld cynaliadwy y dymuna’r partneriaid ei gweld.

·         Nad oedd hynny’n mynd i ddigwydd dros nos a bod rhaid cyfathrebu i gymunedau, aelodau a busnesau mai proses fydd hon.

·         Nad oes yna lawer o ymchwil yn bodoli o ran effaith twristiaeth ar y Gymraeg neu faint o Gymry Cymraeg sy’n cael eu cyflogi o fewn y sector twristiaeth, a thrwy’r bartneriaeth yma, roedd trafodaethau diddorol a chyffrous yn agor gyda Phrifysgol Bangor o ran y cyfleoedd ymchwil a chydweithio y gellir eu cynnig.

·         Y credid bod cyflogaeth i bobl ifanc dros yr haf yn beth eithaf iach o fewn y sector, cyn belled ag nad ydi’r bobl ifanc hynny yn cael eu hecsbloetio a’i fod yn cyd-fynd â deddfwriaeth cyflogaeth.  Roedd yn creu cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad gwaith a thâl amdano.

·         Trwy weithio gyda Grŵp Llandrillo Menai e.e. gellid dangos y gallai cyflogaeth yn y maes twristiaeth gael ei weld fel gyrfa, yn hytrach na gwaith tymhorol yn unig. 

·         Bod yna gwmnïau yng Ngwynedd sy’n cyflogi’n dda iawn o fewn y sector economi ymweld a bod yna ddiddordeb a gweithgaredd cynyddol o fewn y sector twristiaeth gymunedol o fewn y sir hefyd sy’n awyddus i weld yr economi ymweld yn cael ei berchenogi gan gymunedau lleol, yn darparu cyflogaeth dda i bobl yn lleol, ac yn rhoi lle i’r Gymraeg a diwylliant yn lleol hefyd.

 

Nodwyd yr edrychid ymlaen at weld ymchwil sy’n mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd.

 

Nodwyd na all y bobl sy’n gweini yn y gwestai a’r bwytai fforddio mynd allan i fwyta gan fod eu cyflogau mor isel, ac oni cheir gwaith arall heblaw am dwristiaeth, ac ati, bydd y bobl leol wastad yn dlawd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Na dderbynnid y sylw ein bod wastad yn mynd i gadw pobl leol yn dlawd a bod y cynllun hwn yn rhan o broses o gael economi gwell, economi mwy cynaliadwy, swyddi gwell a hyfforddiant gwell.

·         Nad oedd yr holl atebion ar gael yma, ond roedd y weledigaeth yma a cheisid symud i’r cyfeiriad cywir.

 

Nodwyd mai Meirion / Dwyfor yw’r ardal dlotaf o ran incwm yn y DU, ond bod atyniad fel Parc Beicio Dyfi yn enghraifft o dwristiaeth gynaliadwy, gan ei fod yn dod â llawer o ymwelwyr ac arian i’r ardal, gyda phobl yn aros mewn llety gwely a brecwast ar ffermydd, ayb.  Awgrymwyd nad oedd Gwynedd yn gwneud llawer iawn i helpu’r economi yn Ne Meirionnydd.  Cyfeiriwyd at gwmni oedd wedi symud o’r ardal i Bowys a holwyd faint o gydweithio oedd yn digwydd rhwng yr Adrannau Cynllunio ac Economi.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         O ran polisi cynllunio yn gyffredinol, y bu’r Gwasanaeth Cynllunio yn rhan o ddatblygu’r Cynllun Strategol, a rhannwyd y cynllun gweithredu gyda’r Adran yn ogystal.

·         Bod yna bolisi cynllunio yn ei le ar hyn o bryd a bod y Cynllun Datblygu Lleol yn y broses o gael ei adolygu.  Gan hynny, gobeithid y byddai’r egwyddorion a’r Cynllun Strategol yn dylanwadu ar bolisi cynllunio i’r dyfodol.

·         Mai bwriad y cyrff gwahanol, wrth ddod at ei gilydd, oedd cael dylanwad ar y polisïau cynllunio wrth iddynt gael eu datblygu.

·         Bod Awdurdod y Parc hefyd ar fin adolygu Cynllun Datblygu Eryri a gobeithid y byddai’r egwyddorion yn dylanwadu ar y broses o adolygu’r cynllun hwnnw hefyd.

 

Holwyd sut yn ymarferol y gellid atal y torfeydd rhag ymweld â’r ardal yn ystod gwyliau’r haf a’u perswadio i ddod, ee ym mis Tachwedd.  Awgrymwyd, yn hytrach na datblygu a hyrwyddo twristiaeth, bod angen sôn am leihau twristiaeth hyd yn oed.  Credid y gallai Cymru werthu ei hun ar raddfa lawer llai, ond i safonau uwch.  Ni chredid bod digon o bwyslais ar hyfforddiant yn y Cynllun Gweithredu ac roedd yn ofynnol i ni uwchraddio ein hunain er mwyn bod yn gynaliadwy ac edrych ar ôl ein pobl ein hunain, gan sicrhau’r elfennau ieithyddol hefyd.

 

Mynegwyd pryder na sicrhawyd cyllid ar gyfer y gwaith ymchwil da sydd yn yr arfaeth.  Cyfeiriwyd yn benodol at yr ymchwil i effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg, sydd i fod i adrodd yn ôl ym mis Mawrth 2025, a holwyd pa mor ymarferol oedd hyn yn wyneb yr ansicrwydd ynglŷn â’r sefyllfa gyllidol. 

 

Mynegwyd peth amheuaeth ynglŷn â’r mesuryddion sy’n tynnu sylw at y ffaith bod pobl leol yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â thwristiaeth, a holwyd beth yn union a olygai hynny.  Awgrymwyd bod rhaid meddwl am rywbeth llawer mwy slic i gael gweld gwir fudd yn dod allan o dwristiaeth.

 

Mynegwyd y farn bod yna orbwyslais ar Ogledd Eryri a llechi yn y Cynllun a bod rhaid cofio am Feirionnydd a Phen Llŷn hefyd.  Mewn ymateb, nodwyd bod y pwynt yn un pwysig ac y pwysleisid pwysigrwydd lledaenu’r budd ar draws y sir gyfan.

 

Mynegwyd pryder bod yr adroddiad wedi mynd i bob cyfeiriad heblaw’r cyfeiriad cywir.  Amlygwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd cael y budd gorau i Wynedd o’r diwydiant twristiaeth, a bod harddwch Gwynedd yn golygu bod y diwydiant twristiaeth am fod yma, waeth beth sy’n digwydd.  Nodwyd bod y diwydiant twristiaeth yn dod â budd aruthrol i’r ardal, ond nid oedd hynny i ddweud y gallai fod yr ateb i’r argyfwng economaidd sy’n wynebu Gwynedd. 

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad o’r cynllun a nodwyd yr edrychid ymlaen at weld mwy o ymchwil yn y maes.  Mewn ymateb, nodwyd y gwerthfawrogid y pwyntiau a godwyd, ac y byddai’r Adran yn sicr o fynd ar eu holau.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wneud pob ymdrech i ymgynghori gyda’r cynghorwyr sir lle mae hynny’n briodol.

3.         Bod yr Adran Economi a Chymuned, wrth wneud gwaith ymchwil, yn edrych ar y materion penodol a godwyd gan y pwyllgor ynglŷn â data ac ati.

 

Dogfennau ategol: