Agenda item

I drafod gallu'r Cyngor i weithredu Cynllun Diogelu rhag colli Rhyddid.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau canlynol:

a)    Datgan gwir bryder am y sefyllfa ac amharodrwydd y Pwyllgor Craffu Gofal i dderbyn y risg sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad.

b)    Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion drafod ymhellach efo’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a chreu cynllun gweithredu.

c)    Gofyn i’r Adran ddarparu adroddiad Cynnydd ymhen 6 mis.

d)    Nodi dymuniad i dderbyn gwybodaeth bellach gan arbenigwr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ogystal â’r Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol.

 

Eglurwyd mai trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) yw’r weithdrefn a ragnodir yn y gyfraith pan fo angen amddifadu preswylydd neu glaf o’u rhyddid pan nad oes ganddynt y gallu i gytuno am eu gofal neu eu triniaeth, er mwyn eu cadw’n ddiogel rhag niwed. Esboniwyd gall cyflyrau megis dementia neu anaf i’r ymennydd arwain at y diffyg hwn mewn capasiti. Pwysleisiwyd bod pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol.

 

Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi bod DoLS yn ddyletswydd statudol a’i bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol arwain ar faterion DoLS o fewn eu cymunedau a chartrefi gofal, gyda’r Bwrdd Iechyd yn arwain ar y maes o fewn ysbytai. Ymhelaethwyd bod disgwyliad i bob cais am Awdurdod Safonol DoLS gael ei gwblhau o fewn 21 diwrnod, gyda cheisiadau brys yn cael eu cwblhau o fewn 7 diwrnod. Cydnabuwyd bod rhestr aros o 340 yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd y golyga hyn bod 340 o unigolion yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb awdurdod. Ymhelaethwyd bod 20 o’r unigolion hynny wedi bod yn aros am Awdurdod Safonol ers dros dair blynedd oherwydd newidiadau i’r rhestr aros yn sgil blaenoriaeth.

 

Amlygwyd nad yw’r Cyngor yn cydymffurfio a’r deddfwriaethau perthnasol a bod risgiau corfforaethol amlwg yma. Sicrhawyd bod y mater hwn wedi cael ei uchafu o fewn cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Esboniwyd bod yr adroddiad yn ddull o rannu gwybodaeth am y sefyllfa i’r aelodau gan geisio derbyn adborth a chefnogaeth y Pwyllgor. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Wynedd gan gadarnhau bod Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd Cymru ac yn genedlaethol gyda rhestr aros ar gyfer darpariaeth DoLS.

 

Datganwyd bod y Cyngor yn derbyn cyfartaledd o 67 cais am Asesiad Awdurdod Safonol yn fisol. Nodwyd bod 16 o’r ceisiadau hynny yn gallu cael eu hawdurdodi yn amserol. Ymhelaethwyd bod Asesiad Safonol yn ddilys am gyfnod o flwyddyn gan egluro bod angen i’r unigolion sydd wedi derbyn asesiad DoLS dderbyn asesiad ychwanegol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Sicrhawyd bod gan yr Adran broses er mwyn blaenoriaethu’r unigolion sydd ar y rhestr aros yn unol ag anghenion brys ac yr angen am adnewyddu’r Awdurdod Safonol.

 

Adroddwyd bod 18 o weithwyr o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cymhwyso fel Aseswyr Budd Gorau. Nodwyd bod yr Adran wedi ymdrechu yn y gorffennol i annog yr unigolion hyn i gynnal asesiadau ar gyfer DoLS ond nid oedd hyn yn gynaliadwy gan fod pob asesiad yn cymryd lleiafswm o 10 awr i’w gwblhau.

 

Cyfeiriwyd at yr adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael a’r her hwn gan nodi bod gan yr Adran un Cydlynydd DoLS sy’n gyflogedig am 4 diwrnod yr wythnos ac un Asesydd Budd Gorau sy’n gyflogedig am ddeuddydd yr wythnos. Ymhelaethwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru o £114,000 dros y dair mlynedd ddiwethaf er mwyn cyfarch gofynion y rhestr aros yng Ngwynedd. Eglurwyd bod y Cyngor wedi profi heriau recriwtio wrth ymdrechu i benodi unigolion i gynnal yr asesiadau, gan ei fod yn swydd tymor byr yn sgil y ffaith bod yr arian yn cael ei ddarparu yn flynyddol. Ymhelaethwyd bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu asiantaeth a thalu meddygon i gwblhau’r asesiadau ar ran y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Holwyd am y gwahaniaeth rhwng dyfarniad diffyg capasiti ac asesiad awdurdod safonol DoLS. Eglurwyd bod rhaid i unigolyn gael dyfarniad o ddiffyg capasiti cyn gwneud cais am asesiad DoLS. Mewn ymateb i gwestiwn am bwy sydd yn cael gwneud cais am asesiad DoLS cadarnhawyd bod hyn fel arfer yn cael ei wneud drwy’r gweithwyr proffesiynol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw’r gofyniad hanfodol i allu cyfathrebu’n Gymraeg yn arwain at lai o bobl yn ymgeisio am swyddi, cadarnhaodd yr Uwch-ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod Polisi Iaith y Cyngor yn ei wneud yn ofynnol i swyddi gael eu hysbysebu bob amser yn nodi sgiliau ieithyddol Cymraeg fel rhai hanfodol. Ymhelaethwyd pan fo swyddi sydd yn cael eu hysbysebu am y trydydd gwaith a bod diffyg ymgeiswyr gyda’r sgiliau iaith cymwys yna gellir ystyried penodi unigolun sydd ddim yn cyrraedd y sgiliau iaith angenrheidiol os ydynt yn ymrwymo i i ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg . Gall y Cyngor ddarparu hyfforddiant addas ar eu cyfer. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod yr Adran Oedolion wedi bod yn cynnig gwersi Cymraeg a gwersi gyrru i’r rhai sy’n cyrraedd y gofynion eraill ac yn ceisio bod yn hyblyg i ddenu gweithwyr.

 

Holwyd os yw’r Adran wedi ystyried y posibilrwydd o hysbysebu swydd barhaol ar y cyd gyda Sir gyfagos, credwyd y byddai swydd barhaol yn denu mwy o geisiadau. Mewn ymateb, nodwyd y byddai hyn yn heriol i’w weinyddu oherwydd bod niferoedd a gofynion darpariaeth DoLS yn newidiol rhwng Awdurdodau Lleol y rhanbarth. Nodwyd hefyd bod siroedd eraill gogledd Cymru wedi cael mwy o lwyddiant recriwtio swyddogion i gwblhau’r asesiadau na Chyngor Gwynedd. Amlygwyd heriau eraill hefyd megis sut fyddai’r gwaith yn cael ei flaenoriaethu pe bai’n cael ei weinyddu gan un swyddog yn gweithio ar draws dwy Sir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y gosb ariannol, cyfeiriwyd at yr archwiliad mewnol i’r trefniadau a gyflawnwyd yn 2022. Cadarnhawyd bod archwiliad dilynol wedi cael ei gwblhau ym mis Mawrth eleni ble nodwyd bod risg uchel i’r Cyngor gael ei gosbi am ddiffyg cydymffurfiaeth gyda threfniadau statudol DoLS. Manylwyd mai cosb ariannol o oddeutu £3,000-£4,000 yr unigolyn, yn fisol am gyfnod ble mae unigolion wedi cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb awdurdod yw’r gost uchaf gall ei roi. Cydnabuwyd gan yr Adran nad oes modd lliniaru’r risg gyda’r adnoddau sydd ar gael i’r Adran ar hyn o bryd ac felly eu bod yn credu y dylid parhau i geisio canfod prosesau i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Nodwyd mai ail opsiwn yw clustnodi adnoddau ychwanegol i ddatrys y sefyllfa. Mynegwyd dymuniad i gyflogi swyddog llawn amser er mwyn ymgymryd â’r asesiadau hyn gan gydnabod bod cyfanswm y gost o’u cyflogi yn oddeutu £90,000 y flwyddyn. Mynegwyd rhwystredigaeth na fyddai cyflogi un swyddog llawn amser yn llwyddo i gyflawni’r un llwyth gwaith â’r asiantaethau a ddefnyddir yn bresennol am yr un swm o arian. Adroddwyd nad yw bidiau ariannol o fewn y maes hwn wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Cydnabuwyd nad oes opsiynau amgen i'w hystyried ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, adroddwyd bod y Cyngor wedi derbyn dirwy yn y gorffennol ac yn debygol o dderbyn dirwy arall yn fuan ar gyfer unigolyn oedd wedi ei amddifadu o’i ryddid heb awdurdod am gyfnod o chwe mis.

 

Atgoffwyd aelodau’r Pwyllgor o hyfforddiant a dderbyniwyd gan arbenigwr cyfreithiol ar fater tebyg yn y gorffennol. Yn sgil newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgor hwn, cynigwyd i estyn gwahoddiad i dderbyn cyflwyniad gan arbenigwr unwaith eto er mwyn sicrhau bod aelodau’r Pwyllgor yn gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ystyried y ffordd ymlaen i’r ddarpariaeth yng Ngwynedd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet nad oedd yn disgwyl datrysiad heddiw ond yn hytrach i uchafu'r risg i’r Cyngor. Amlygodd bod cynlluniau ar y gweill ond ei fod yn awyddus i’r Cyngor cyfan ddeall y risg. Cymerwyd y cyfle i ganmol staff yr Adran am eu gwaith ac am roi blaenoriaeth i’r maes diogelu.

 

Mynegwyd amharodrwydd gan yr aelodau i dderbyn y risg ac i dderbyn yr adroddiad yn ei ffurf bresennol a nodwyd awydd i dderbyn rhagor o wybodaeth. Datganwyd nad yw’r Pwyllgor Craffu Gofal yn ymrwymo i benderfynu ar dderbyn y risg gyllidol hon heb dderbyn gwybodaeth arbenigol bellach. Yn hytrach roedd consensws i fynegi gwir bryder am y sefyllfa a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet gydweithio gyda’r Adran er mwyn datblygu cynllun gweithredu effeithiol yn ogystal â rhoi rhagor o fanyler ar opsiynau cyllidol recriwtio.

 

Gofynnwyd i’r Adran ddarparu adroddiad cynnydd ymhen 6 mis er mwyn cyflwyno diweddariad. Diolchwyd i’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chlir.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau canlynol:

a)    Datgan gwir bryder am y sefyllfa ac amharodrwydd y Pwyllgor Craffu Gofal i dderbyn y risg sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad.

b)    Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion drafod ymhellach efo’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a chreu cynllun gweithredu.

c)    Gofyn i’r Adran ddarparu adroddiad Cynnydd ymhen 6 mis.

d)    Nodi dymuniad i dderbyn gwybodaeth bellach gan arbenigwr.

 

Dogfennau ategol: