Agenda item

I roi cyfle i aelodau graffu gwaith y Panel Strategol Diogelu dros 2023/24.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Darparwyd diweddariad ar waith y Panel Strategol Diogelu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd bod gwaith y Panel yn allweddol i weithrediad holl Adrannau’r Cyngor, gan ei fod yn ystyried prosesau diogelu yn gorfforaethol. Nodwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 11 Mehefin 2024.

 

Tynnwyd sylw at y prif newidiadau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys addasiadau i Gylch Gorchwyl y Panel, Cylch Gorchwyl y Grŵp Gweithredol Diogelu a chyhoeddi Polisi Diogelu newydd. Ymfalchïwyd bod y Polisi Diogelu bellach yn fwy eglur yn enwedig ynghylch y diffiniadau o amddiffyn a diogelu. Ymhelaethwyd bydd hyfforddiant ar y Polisi hwn yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol agos.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi derbyn 7,230 o gyfeiriadau i wasanaethau plant yn ystod y flwyddyn. Cymharwyd yr ystadegyn hwn gyda’r ffigwr cyfartalog cyn y pandemig, ble’r oedd cyfeiriadau i wasanaethau plant oddeutu 5,000 y flwyddyn. Nodwyd bod hyn yn gynnydd sylweddol o gyfeiriadau ond cadarnhawyd bod y ffigyrau blynyddol yn lefelu erbyn hyn, gan obeithio bydd niferoedd cyfeiriadau yn lleihau yn y blynyddoedd i ddod.

 

Adroddwyd bod cynnydd o 248% i’w weld yn y gwaith sy’n ymwneud â phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth, o’i gymharu â 2022/23. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau mewn lle ar gyfer ymateb i bryderon diogelu am y rhai y mae eu gwaith yn dod â nhw i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd yn wynebu risg.

 

Eglurwyd bod 281 o blant mewn gofal ar ddiwedd Mawrth 2024. Cadarnhawyd bod niferoedd plant mewn gofal wedi lleihau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond oherwydd cyfrifoldebau’r Cyngor i warchod ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid, mae’r niferoedd o blant o dan ofal yr awdurdod yn parhau i fod yn 281, yn debyg i’r niferoedd ar ddiwedd Mawrth 2023. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod niferoedd o adroddiadau Oedolion yn ystod y flwyddyn 2023/24 yn debyg iawn i’r niferoedd a adroddwyd ar ddiwedd Mawrth 2023.

 

Mynegwyd balchder bod y Cyngor wedi ennyn achrediad ‘Rhuban Gwyn’ gan ei fod yn cymryd dull strategol i roi diwedd i drais domestig ac i bwysleisio nad yw’n cael ei oddef o fewn y Sir. Ymhellach, nodwyd bod 55% o staff y Cyngor, sy’n gweithio yn y maes diogelwch cyhoeddus, wedi mynychu hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ er mwyn rhoi hyder iddynt i gefnogi unigolion sy’n profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Pwysleisiwyd ei fod yn flaenoriaeth i’r staff hynny fynychu’r hyfforddiant dros y flwyddyn nesaf.

 

Cyfeiriwyd at nifer o faterion sydd ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf megis troseddau manwerthu (lladrad o siopa). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda’r Heddlu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am gymorth i ymdopi â’r argyfwng costau byw ar gael iddynt, yn y gobaith bydd hyn yn lleihau’r niferoedd o droseddau manwerthu i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at nifer o agweddau diogelu eraill sydd yn derbyn cefnogaeth y Panel megis Dyletswydd Trais Difrifol, Caethwasiaeth Fodern a Gwrthderfysgaeth.

 

Cadarnhawyd bod y Panel yn monitro’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Pwysleisiwyd bod y mwyafrif helaeth o unigolion yng nghyflogaeth y Cyngor gyda DBS  cyfredol a chlir gyda rhai eithriadau megis cyfnodau mamolaeth a salwch.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Gofynwyd os oedd modd tracio’r nifer o staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant Atal. Mewn ymateb nodwyd bod dau ffordd i gael mynediad at yr hyfforddiant. Adroddwyd bod y Swyddfa Gartref wedi datblygu hyfforddiant newydd ar gyfer Atal a’i fod hefyd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd ar ffurf e-fodiwl. Sicrhawyd bod yr e-fodiwl hwn yn fandadol i’r holl weithlu erbyn hyn ac yr annogir staff i ddefnyddio’r porth e-ddysgu i gael mynediad iddo. Cydnabuwyd bod casglu data penodol ar niferoedd staff sydd wedi cwblhau’r modiwl hwn yn her oherwydd bod modd i unigolion ei gwblhau yn uniongyrchol drwy wefan y Swyddfa Gartref. Eglurwyd na fyddai’r unigolion hyn yn cael eu cynnwys yn y data a gesglir gan y porth e-ddysgu o fynychwyr yr hyfforddiant. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n ceisio coladu’r wybodaeth a’n ei rannu pan fyddai ar gael.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a’r gwaith a mynegwyd awydd i weld cynnydd yn niferoedd yr ystadegau megis 92% o’r “Prif Bersonau Diogelu” mewn Ysgolion wedi derbyn hyfforddiant diogelu penodol yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Credwyd y dylai’r ffigwr hwn fod yn 100%. Mewn ymateb eglurwyd ei bod yn annhebygol y byddai’r ystadegau yn cyrraedd 100% oherwydd rhesymau tu allan i reolaeth y Cyngor megis cyfnodau salwch tymor hir neu staff ar gyfnodau mamolaeth ond cytunwyd y dylid anelu at 100%.

 

Mewn ymateb i sylw am gyfrifoldebau Uwch Swyddogion yr Adran nodwyd bod dau Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd gydag un wedi ei leoli yn yr Adran Blant a’r llall yn yr Adran Oedolion. Nodwyd eu bod yn swyddogion dynodedig sydd â rôl benodol ac yn atebol o ran cyfrifoldeb diogelu. Eglurwyd bod oedolion sydd ag anableddau dysgu yn dod o dan gylch gwaith yr Adran Oedolion tra bod plant efo anableddau yn dod o dan yr Adran Blant.

 

Mynegwyd sylw bod swyddog o’r Heddlu yn arfer mynychu’r Pwyllgor hwn yn flynyddol yn y gorffennol ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol ail afael yn y trefniadau yma. Mewn ymateb nodwyd bod trefniant ar hyn o bryd i’r Heddlu fynychu’r Fforymau Ardal a byddai modd rhannu gwybodaeth drwy’r Fforymau hynny.

 

Mewn ymateb i sylw am ran 4.1.7 o’r adroddiad a niferoedd y plant sydd mewn gofal ac wedi eu lleoli gyda’u rhieni, nodwyd bod hyn yn rhan o’r strategaeth a bod yr Adran yn ceisio cadw plant efo’u rhieni gymaint ag sy’n bosib. Adroddwyd er bod y plant yn byw gyda’u rhieni bod llawer o gefnogaeth yn cael ei roi, credwyd ei bod yn well ceisio cadw plant efo’u teuluoedd ac yn y gymuned pan fo hynny’n bosib.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam bod niferoedd y cyfeiriadau yn parhau i fod 2,000 yn fwy na’r ffigyrau cyn y pandemig, eglurwyd bod effeithiau’r pandemig yn hirdymor yn enwedig ar blant a’i bod yn anodd gwybod pam a pryd y bydd gostyngiad yn y ffigyrau. Awgrymwyd efallai bod pobl yn fwy parod i gyfeirio bellach gan eu bod yn fwy ymwybodol o heriau. Nodwyd fod hyn bositif ond yn rhoi llawer o bwysau ar y gweithlu.

 

Gofynnwyd pa ddulliau sy’n cael eu defnyddio i hyrwyddo’r Polisi newydd i staff a Chynghorwyr. Adroddwyd bod bwriad cynnal hyfforddiant i staff a Chynghorwyr a byddai’r Uwch Reolwyr Diogelu ac Ansawdd yn rhan o’r hyfforddiant hwnnw ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg staff ac Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am eglurder ynglŷn â’r diffiniad o ddiogelu ac amddiffyn, esboniwyd bod diogelu yn rhan o rôl pawb yn y gymuned a’r Cyngor sef i sicrhau bod pobl fregus yn ddiogel. Nodwyd bod diogelu yn gyfrifoldeb i Gynghorwyr a staff y Cyngor. Eglurwyd bod amddiffyn yn gyfrifoldeb penodol i’r Heddlu ac i’r Gwasanaethau Cymdeithasol e.e. i ymyrryd os yw rhywun wedi derbyn niwed neu risg sylweddol. Nodwyd bod cyfreithiau a pholisi dwys am amddiffyn.

 

I gloi cadarnhawyd bydd yr adroddiad, gan gynnwys sylwadau’r Pwyllgor Craffu Gofal, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf. Diolchwyd i’r Pwyllgor am eu sylwadau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: